Penwythnos pwysig o fewn Uwch gynghrair Cymru sydd yn gweld y rownd olaf yn hanner cyntaf y tymor cyn i'r gynghrair hollti’n ddwy adran o chwe tim.
Mae tri thîm yn ymladd am y chweched lle yn yr haen uchaf, sef Derwyddon Cefn, Coleg Met Caerdydd a’r Drenewydd.
Mae pob un o’r gemau yn cael eu chwarae ar yr un adeg, sef hanner awr wedi pump , brynhawn Sadwrn, ond gyda’r Drenewydd adre i Airbus, sydd ar y gwaelod, mae gen i deimlad y bydd Drenewydd yn sleifio i gipio’r chweched safle a byddai gem gyfartal yn ddigon iddynt gyflawni hyn.
Ond, tra all pethau dod yn fwy clir yn Uwch gynghrair Cymru am weddill y tymor, chwysu bydd Wrecsam wrth geisio osgoi disgyn allan o Gynghrair Genedlaethol Loegr).
Dim ond dau bwynt sydd rhyngddynt a safle'r cwymp, 32 pwynt gan Wrecsam , a 30 gan Fylde a Chesterfield oddi tanynt, gydag Ebbsfleet a Chorley ar y gwaelod gyda 25 a 24 pwynt..
Wynebu Woking (sydd yn y nawfed safle) ar y Cae Ras sydd o flaen Wrecsam ddydd Sadwrn, ond tra mae holl glybiau gynghrair yn gallu arwyddo chwaraewyr newydd ar unrhyw adeg o'r tymor, dim ond yn ystod cyfnod y ffenestr drosglwyddo y gall Wrecsam arwyddo eu chwaraewyr.
Y rheswm am hyn ydi am mai tîm wedi ei gofrestru gyda Chymdeithas Bel Droed Cymru ydi Wrecsam, ond sydd yn chwarae o fewn trefn pêl droed Lloegr. Oherwydd eu bod yn gorfod cofrestru yng Nghymru, mae’n ofynnol i Wrecsam ddilyn rheolau FIFA ac UEFA ynglŷn ag arwyddo chwaraewyr. Ar y llaw arall, fe all Wrecsam arwyddo unrhyw chwaraewr o unrhyw dîm sydd yn chwarae o fewn pêl droed Cymru, ar unrhyw adeg, ond ni chaniateir arwyddo chwaraewr o dîm o fewn gwlad arall, gan fod angen caniatâd rhyngwladol i hyn ddigwydd, sydd yn gysylltiedig â'r ffenestr drosglwyddo.
Mae'n bosibl arwyddo chwaraewyr ar fenthyg, fel ac a wnaethpwyd gyda Kieran Kennedy, Omarin Patrick a Tyler Reid cyn y Nadolig, ac fe all y clwb barhau i wneud hyn ar ôl i'r ffenestr gau ar ddiwedd Ionawr.
Ond, anodd fydd arwyddo chwaraewr da a gwell na sydd yno yn barod o ystyried safle’r clwb, ac mae'n ofynnol i unrhyw un fod yn well na'r rhai sydd yna yn barod.
Felly, cyfnod cythryblus ar y Cae Ras, yn dilyn deuddeg mlynedd allan o brif gynghreiriau Lloegr, gyda dyfodol, traddodiad a hanes unigryw'r clwb, o bosib am gael ei benderfynu gan chwaraewyr sydd a dim mwy o ymroddiad na bod yno yn cael gem dros dro tra ar fenthyg!
A gyda'r syniad yn cael ei drafod, yn y cyfryngau, y byddai well iddynt ystyried ymuno ac Uwch gynghrair Cymru yn hytrach na disgyn i lawr i’r haen is, sef Adran y Gogledd o Gynghrair Cenedlaethol Lloegr, mae ail hanner y tymor yn mynd i fod yn un allweddol iawn i Wrecsam a’u cefnogwyr.
