Mae’n dipyn o amser ers i ni weld Cymru ar ben eu grŵp mewn cystadleuaeth ryngwladol. Ond, yn dilyn tair gem agoriadol yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016 dyna yn union be’ sy’ wedi digwydd.
Dyma yn wir y dechrau gorau i Gymru ei gael ers pan oedd i Mark Hughes yn rheolwr yn ôl yn 2004, pan welwyd rhediad yn ennill y pedair gêm agoriadol. Ond roedd ail hanner yr ymgyrch o dan Hughes llawer mwy anodd gyda Chymru, yn y diwedd, yn colli cyfle yn y gemau ail gyfle i Rwsia.
Ond mae Chris Coleman yn prysur ddatblygu fel rheolwr rhyngwladol ac mae chwaraewyr profiadol yn y garfan bresennol sy’n gwybod nad ydynt wedi cyflawni unrhyw beth hyd yn hyn.
Mae'r pwyslais ers nos Lun diwethaf wedi bod ar sicrhau fod rhaid parhau i weithio’n galed, ond mae’r garfan wedi dangos eu bod yn ddigon parod i wneud hynny.
Mae’r talent yna, ac wrth wrando ar Gareth Bale ac eraill, mae’r ysbryd, yr awch a’r penderfyniad yno hefyd i lwyddo. Yn ogystal â hynny, mae'r ddwy gêm ddiwethaf wedi dangos y gall y chwaraewyr addasu yn llwyddiannus i wahanol systemau a threfn o chwarae. Does dim amheuaeth y bydd rhaid parhau i wneud hyn yn y gemau sy’n weddill hefyd, yn enwedig yn y gemau oddi cartref.
Hwyrach fod Cyprus wedi dod i Gaerdydd i amddiffyn mewn niferoedd nos Lun, a cheisio taro drwy wrth-ymosod yn gyflym. Roedd cael gôl gynnar yn gymorth anferth i Gymru yn y sefyllfa yna.
Ond doedd y cychwyn ddim i gyd yn fel, gyda’r Simon Church yn gorfod mynd i ffwrdd ar ôl munud gydag anaf drwg i’w ysgwydd. Dangosodd Gymru gymeriad, ac os oedd unrhyw un yn amau fod yna ddiffyg ysbryd ymysg y garfan, yna profodd gweddill y noson fod cymeriadau cyrf yn ein tîm.
Cymerodd yr eilydd David Cotterill ei gyfle yn wych, a llwyddodd Hal Robson-Kanu unwaith eto ddangos cryfder bygythiol, y ddau’n manteisio'n enfawr ar gyflymder a doniau Gareth Bale.
Llwyddodd George Williams i edrych fel chwaraewr rhyngwladol dawnus gan gynnig mwy o gyflymder yng nghanol y cae ynghyd a’r gallu i guro ei ddyn wrth ymosod.
Yr unig siom mae’n debyg yn yr hanner cyntaf oedd mai dim ond un gôl o fantais oedd gan Gymru ar yr egwyl, a hynny ar ôl ildio gôl flêr.
Tybed a fyddai Wayne Hennessey wedi gwneud y camgymeriad petai yn chwarae yn gyson yn hytrach na bod ar y fainc fel eilydd i Crystal Palace?
Roedd mor wych yn erbyn Bosnia ac mae angen gemau cyson ar gôl-geidwad i gadw ar ben ei gem. Ond gyda Julian Speroni yn dangos galluoedd llawn mor ddawnus yn y gôl i’r Palace, bydd hi ddim yn hawdd i Hennessey gael ei le yn barhaus yn y tîm cyntaf.
Ond tipyn o droad ar bethau yn yr ail hanner wrth i Andy King gael ei anfon o’r cae ar ôl dim ond tri munud yn dilyn tacl hwyr ac uchel .
Dangosodd Cymru eu bod yn gallu cadw trefn a disgyblaeth, a daeth buddugoliaeth haeddiannol er ein bod yn cnoi ei hewinedd ac yn teimlo braidd yn anghyfforddus ar brydiau.
Roeddwn wedi credu y byddai Cymru wedi gallu ennill y tair gem agoriadol yma rhai wythnosau yn ôl, ond o ystyried yr anafiadau, pe baech wedi gofyn i unrhyw gefnogwr Cymru ymlaen llaw y byddai gan Gymru saith pwynt o bosibl o naw, ‘rwyf yn credu y byddai pob un ohonom yn hapus.
Dechrau bendigedig, ond mae tair gêm galed iawn i ddod gan gychwyn gyda thaith i Wlad Belg, ac yna Israel sydd wedi synnu llawer a hwyrach yn teimlo lawn mor hyderus â Chymru ar hyn o bryd!
Mae’r ddwy gêm yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Cyprus wedi dangos fod gan Gymru ychydig mwy o gryfder o fewn carfan nag a dybiwyd, ynghyd a doniau amlwg Gareth Bale ac Aaron Ramsey a fydd gobeithio, yn holliach ar gyfer y gemau yma. Dyna rywbeth na allwn ei ddweud yn y gorffennol, carfan gref ynghyd a doniau eithriadol byd eang .
Ydi mai Cymru’n galw ond gofidiwch ail adrodd ymgyrch 2004! Ond siawns. Y tro yma, mae amser gwell i ddyfod- haleliwia!
