Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Ebrill 15fed - Ebrill 21ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Dei Tomos - D T Davies

Ail Ryfel Byd - Second World War

carcharor rhyffel - prisoner of war

atgofion - memories

ambell waith - sometimes

o ganlyniad - as a consequence

arwr - hero

milwyr cyffredin - ordinary soldier

emyn - hymn

barddoniaeth - poetry

ffili'n deg - couldn't for the life of me

"...llais DT Davies o Ddyffryn Tywi yn sgwrsio efo Dei Tomos nos Sul diwetha. Mae D T Davies yn nawdeg wyth oed ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd treuliodd amser fel carcharor rhyfel. Er hynny doedd o ddim yn barod iawn i siarad am ei atgofion o'r cyfnod - dyma fo'n esbonio pam..."



Gaynor Davies - Marathon Llundain

ymwybodol iawn - very aware

pwysau - pressure

penderfynol - determined

her - challenge

ymchwil - research

damcaniaethau - theories

yn fwy pwyllog - steadier (pace)

wedi canu arnoch chi (idiom) - you've blown it

yn iau - younger

cyflyrru - conditioned (brainwashed)

DT Davies o Ddyffryn Tywi oedd hwnna'n sgwrsio efo Dei Tomos nos Sul diwetha am yr Ail Ryfel Byd. Roedd Angharad Mair yn arfer dal y record am y marathon cyflyma i ferch dros bumdeg pump oed. Collodd hi'r record i ferch arall eleni a dydd Sul diwetha roedd y ddwy yn rasio yn erbyn ei gilydd ym Marathon Llundain. Sut oedd Angharad yn teimlo am hyn - oedd hi'n ei weld yn sialens? Dyma hi'n siarad efo Gaynor Davies...



Y Golled - Mair a Nia

ymdopi - to cope

galar - bereavement

colli ei chof - losing her mind

wynebu - to face

heddwch - peace

osgoi - to avoid

cynhebrwng - funeral

torri eu calonnau - breaking their hearts

cysur - comfort

parhau - to continue

"Angharad Mair yn barod iawn am her Marathon Llundain 'swn i'n dweud! Nesa dan ni'n mynd i glywed rhan o drydedd raglen cyfres 'Y Golled' lle mae nifer o bobl yn sôn am sut y maen nhw'n ymdopi efo collli rhywun agos iawn atyn nhw. Dyma i chi Mair Jones o Ddinbych yn sôn am golli ei rhieni ac yna Nia Evans o Ddolgellau gollodd ei brawd mewn damwain..."



Bore Cothi - Rebecca Trehearn

gwobrau - awards

yn ôl i'r amlwg - back into prominence

dy fyd di - your world

yn y gwaed - in the blood

ar y llwyfan - on the stage

trwy gydol dy yrfa - throughout your career

hir dymor - long term

y rhestr faith - the lengthy list

sbïo nôl - edrych yn ôl

cyfarwyddwr - director

"...ac mae'n bosib gwrando ar dair rhaglen y gyfres ar wefan Radio Cymru drwy chwilio am Y GOLLED arni hi. Mae Rebecca Trehearn yn dod o'r Rhyl yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi'n seren yn West End Llundain. Yng ngwobrau yr Olivier yn Llundain dair wythnos yn ôl mi enillodd hi wobr am ei pherfformiad yn y sioe gerdd Showboat. Sut deimlad oedd hynny tybed. Dyna oedd cwestiwn Shan Cothi iddi hi..."

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Marwolaeth Ugo Ehiogu

Nesaf

Pel-droed Gydol Oes