Cynhaliwyd trydedd gynhadledd datblygiad pêl droed Cymdeithas bel droed Brasil yn ddiweddar (rhwng y 22ain a 26ain o Ebrill) gyda 1,558 o gynrychiolwyr yn bresennol a thros 20 mil o bobol yn edrych ar ddarllediad o’r gynhadledd yn fyw ar y we.
Tynnodd y gynhadledd bob math o gynrychiolwyr sy’n cynnal y gêm ym Mrasil, fel technegwyr, rheolwyr, gweithwyr cyfathrebu a marchnata proffesiynol, dyfarnwyr, cyn-chwaraewyr ac arbenigwyr rhyngwladol eraill i gyflwyno a rhannu arferion da, a gosod llwybrau astudio ar gyfer datblygu pêl-droed ymlaen yn y wlad.
Yn sgil hyn, nod y gynhadledd oedd cyd-sefydlu rhaglen FIFA Forward, gyda FIFA, sef cynllun byd eang i hyrwyddo a datblygu'r gêm, ac yn y cyd-destun yma mae Brasil wedi derbyn $100 million y flwyddyn am y bedair blynedd nesaf o ganlyniad i gronfa etifeddiaeth yn deillio o gynnal Cwpan y Byd yn 2014.
Ymysg y themau a gafodd eu trafod oedd cyfraniad technegwyr a thactegau; brandio Pêl-droed a thrawsnewid y cyfryngau; trwyddedu clybiau a chwarae teg ariannol; Pêl-droed merched; a Datblygu pêl-droed ymhellach.
Er mwyn cyfarfod a'r datblygiadau yma, mae Brasil wedi gwahodd arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol o bedair fan y byd i'w cynhadledd, i drafod, cydweithio â rhannu profiadau.
Ymhlith yr hyfforddwyr a gyfrannodd yn y gynhadledd i siarad am ddatblygiad timau, oedd Tite (rheolwr tîm cenedlaethol Brasil), Jorge Sampaoli (rheolwr tîm Santos, gyda thaith drwy ddetholiadau'r Ariannin a Chile), Fernando Diniz (Fluminense) a Pia Sundhage (rheolwraig tîm Cenedlaethol merched Sweden), Edu Gaspar (Cydlynydd tîm cenedlaethol Brasil) a Zvonomir Boban (Ysgrifennydd Cyffredinol ar gyfer pêl-droed FIFA). I siarad am ddatblygiadau ar lefelau sylfaenol, roedd Branco (Cydlynydd Cymdeithas Bel Droed Brasil), Isaac Guerrero (Cyfarwyddwr Technegol Barcelona).
Yn ogystal â hyn, roedd sylw yn cael ei roi i’r pwysau a wynebir gan bobl ifanc ac effaith hyn ar eu datblygiad o fewn y gêm . Y prif siaradwr ar yr agwedd yma oedd yr Athro Mark Williams, ymgynghorydd pêl-droed i Loegr ac Athro yn Adran Seicoleg Prifysgol Utah sydd hefyd a PhD mewn niwrowyddoniaeth wybyddol o Brifysgol Lerpwl.
Neu i’w gyflwyno mewn ffordd y byddai rhai o gefnogwyr pêl droed Cymru yn ei adnabod, Mark Williams, brodor o Flaenau Ffestiniog, ac amddiffynnwr ac is reolwr i mi yn Nhreffynnon ar gychwyn dyddiau'r Uwch Gynghrair Cymru.
Roedd dros gant o erthyglau newyddion o fewn Brasil ac yn rhyngwladol eu cyhoeddi am y gynhadledd, gan gynnwys cylchgronnau poblogaidd Brasil fel Jornal Nacional, O Globo, Globo Esporte, yn ogystal â’r cyfryngau rhyngwladol fel Fox Sports, ESPN, Yahoo!, La Nación, La Vanguardia, El Español, and El Día.
Yn dilyn hyn, dywedodd Mark wrthyf y byddai yn debygol o gael cynnig swydd fel ymgynghorydd I Gymdeithas Bel Droed Brasil wrth geisio eu harwain at ail gynnal y traddodiadau llwyddiannus a fu’n rhan mor nodweddiadol ac allweddol o’r wlad yn y gorffennol.
Doedd Treffynnon, er waethaf ein llwyddiant o fewn Uwch Gynghrair Cymru nol yn y dyddiau cynnar, erioed wedi bod yn un o'r timau mwyaf ffasiynol (er waethaf mynd am ddeunaw mis heb golli adref ar un adeg) .
Fodd bynnag, rwyf o’r farn, (unllygeidiog hwyrach!!) nad oes yna unrhyw dîm wedi cyfrannu yn hir dymor at lwyddiannau personol chwaraewyr a gychwynnodd gyda'r clwb, ar feysydd pêl droed Cymru ac mae Treffynnon wedi ei wneud, a tydi Mark ond yn un o’r llwyddiannau yma.
Pleser a balchder ydi dweud mai cyn is reolwr Treffynnon sydd erbyn heddiw yn cael ei alw gan Gymdeithas pel droed Brasil i roi cyngor am welliannau i’r dyfodol.
Llongyfarchiadau i Mark (fy is reolwr) a da gweld fod Cymru eto yn llwyddo ar hyd a lled y byd gan osod safonau y gall timau gwledydd byd eang elwa ohonynt.
