Main content

Uwch Gynghrair Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Bydd Uwch gynghrair Cymru yn cychwyn y penwythnos yma gyda’r Rhyl yn cynnal gem gyntaf y tymor newydd ar stadiwm Chwaraeon Corbett nos Wener yn erbyn Bangor.

Clasur traddodiadol o gêm ddarbi’r gogledd ydi hon, ond mae tro ar fyd gyda Bangor wedi dioddef tymor anarferol o siomedig y llynedd a gweld rhai o’u chwaraewyr yn ymadael a'r clwb dros yr haf.

Yr ymadawiad mwyaf trawiadol oedd gweld eu ffefryn Les Davies yn ymuno a Chei Conna, a bydd tîm newydd Davies adre ar stadiwm Glannau Dyfrdwy yn erbyn y Drenewydd brynhawn Sadwrn.

Peth amser yn ôl, Bangor oedd un o'r clybiau hynny a fyddai yn ceisio arwyddo chwaraewyr gorau timau eraill, ond mae’r trosglwyddiad yma yn dangos nad oes unrhyw beth yn barhaus yn y gêm gyda’r tîm o Lannau Dyfrdwy yn barod i wella eu perfformiadau a rhoi cynnig arni i fod ymysg y ceffylau blaen y tymor yma.

Mae'r Rhyl hefyd wedi darparu’n dda ar gyfer y tymor gyda gemau cyfeillgar deniadol wedi tynnu torfeydd da i’r stadiwm, yn enwedig ar gyfer y gemau hynny yn erbyn timau o Everton a Manchester City.

Lansiwyd y tymor newydd yn swyddogol yn y Senedd ddydd Mawrth, yn dilyn gwahoddiad caredig gan David Melding AC (Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru), yng nghwmni chwaraewyr a chynrychiolwyr o’r deuddeg clwb.

Dywedodd Mr Melding: “Rydym yn hynod falch o gael y cyfle i gynnal y digwyddiad arbennig hwn yn y Senedd. Mae’n gyfnod addawol iawn i bêl-droed yng Nghymru a hoffwn ddymuno’r gorau i’r holl glybiau yn ystod y tymor i ddod”.

Canmolodd Gadeirydd Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, Peter Rees berfformiadau’r clybiau yn Ewrop dros fisoedd yr haf:

“Mae’r Seintiau Newydd a’r Drenewydd yn haeddu clod mawr am eu canlyniadau cofiadwy ac fe gyfrannodd Y Bala ac Airbus hefyd tuag at ein hymgyrch orau yn Ewrop ers dros ddegawd a mwy”.



Yn ôl yr arfer, bydd gem o'r uwch gynghrair yn cael ei darlledu'n fyw ar raglen Sgorio, ar S4C pob penwythnos. Llandudno fydd man cychwyn Sgorio eleni, pan fydd y camerâu yn bresennol yng ngem gyntaf clwb MBi Llandudno yn Uwch Gynghrair Dafabet yn erbyn Aberystwyth, y gic gyntaf am chwarter wedi pump.

Gyda thimau Cymru yn Ewrop wedi tynnu sylw, a thorfeydd da, yn ystod yr haf bydd llawer yn edrych ymlaen am gemau o safon uchel y tymor yma. Dwedodd Gwyn Derfel (Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru Dafabet) yn y lansiad nad oes amheuaeth bod safon Cynghrair Cenedlaethol yn gwella bob blwyddyn ac o’r diwedd mae’n dechrau cael y sylw y mae’n ei haeddu.

Gem agoriadol anodd i Hwlffordd, y newydd ddyfodiad arall eleni i Uwch Gynghrair Dafabet Cymru wrth weld y pencampwyr, Y Seintiau Newydd, yn teithio i sir Benfro tra bydd Airbus Brychdyn yn croesawu Caerfyrddin a Phort Talbot, sydd wedi prysur gryfhau eu carfan, yn croesawu'r Bala a orffennodd yn ail yn yr uwch gynghrair y llynedd.

Pob lwc i bob un o’r deuddeg tîm yn ystod y tymor newydd ac edrychwn ymlaen am gystadlu brwd a fyddai yn tynnu torfeydd i'w clybiau lleol dros y misoedd a ddaw.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Chwilio Am Hoff Gân Gymraeg Y Genedl