Wele’n gwawrio gemau i’w cofio, ie dechreuwyd Cwpan y Byd ar dan gyda gemau cyffrous, penderfyniadau amheus gan ddyfarnwyr, dadlau oddi ar y cae ynglŷn â dilysrwydd mynd a gemau 2022 i Qatar, a dadlau ymysg gwylwyr teledu ynglŷn â natur y sylwebwyr yn y cyfryngau.
Ie, cyffro ym mhob man mae'n ymddangos
Mae arweinwyr Brasil yn credu mai dyma'r sbardun ac all ddechrau cyfnod newydd o ffyniant i’r dyfodol, tra mae eraill yn credu mai creu rhyw deimlad o hapusrwydd am ryw fis fydd unig effaith y gemau. Amser a ddengys.
Ond i gefnogwyr pêl droed, ac i mi hefyd mae Cwpan y Byd yn achlysur arbennig, a hynny am fy mod, yn fy arddegau hwyr, a thymor yr Haf yn y coleg wedi dod i ben, wedi treulio beth oedd yn ymddangos fel haf hir melyn tesog, yn gweld gemau Cwpan y Byd a gynhaliwyd yn Llundain yn 1966, a hyn yn cynnwys y ffeinal.
Cyn i gyfyngderau eich cenedlaetholdeb gael y gorau ohonoch, pêl droed oedd, ac sydd yn parhau, yn bwysig, ac ie, mi roeddwn yn Wembley pan ddaeth Lloegr yn bencampwyr y Byd, ac ie, roedd yn fraint cael dweud fy mod wedi gallu bod mewn ffeinal Cwpan y Byd, pwy bynnag oedd yn chwarae ynddi.
Yn wahanol i heddiw, roedd prynu ticedi ar gyfer y gemau yn hawdd.
Rwy’n cofio imi weld hysbysiad mewn papur newydd, rhywbryd ar ddiwedd y gwanwyn (dwi’n meddwl) gan y Gymdeithas Bel droed, yn cynnig tocynnau am wahanol brisiau - gyda set o ddeg tocyn (gan gynnwys y ffeinal) ar gael ganddynt am saith bunt a phymtheg swllt (£7-75c heddiw).
Tocynnau sefyll wrth ochr y cae oedd y rhain, wrth ymyl ble mae chwaraewyr yn cymryd ciciau cornel, ond roedd cyflog wythnosol wrth gadw gôl i’r Bermo yng nghynghrair Canolbarth Cymru, wedi sicrhau y byddai myfyriwr y dyddiau hynny yn gallu fforddio'r saith bunt a oedd ei angen.
Ond roedd fy Mam druan wedi cynhyrfu yn lan.
Welodd hi erioed rhywun yn gwario cymaint ar gemau pel droed, ac roedd y pris o un bunt a phymtheg swllt (£1-75) a dalais am diced i’r Ffeinal yn hollol afresymol ac uwchben pob rheswm!
Roedd yn bosibl prynu set o docynnau ar gyfer unrhyw gemau, ond roedd y set o ddeg ticed yn gwarantu cael gweld y ffeinal.
Roedd gen i ewythr yn byw yn Llundain yr adeg hynny, ac felly dyma siarad yn neis ac Yncl Ernest a’i hel hi am Lundain ar Orffennaf y degfed, mewn trên o Fangor efo fy deg tocyn ar gyfer Wembley, am y mis orau a dreuliais erioed wrth ddilyn pel droed.
I wneud pethau yn well, roedd tîm criced India’r Gorllewin hefyd drosodd, ac yn chwarae gemau ar yr Oval (yn agos iawn i dŷ fy ewythr), yn erbyn swydd Surrey.
Doedd dim byd gwell na chodi’n fore, torheulo yn yr Oval ac yna dal y tiwb i Wembley ar ddiwedd y prynhawn i weld gemau Cwpan y Byd.
Rhaid nodi hefyd na chwaraewyd pob un gêm ar faes Wembley! Chwaraewyd y gêm rhwng Uruguay a Ffrainc yn stadiwm athletau'r White City.
Roedd FIFA mae’n ymddangos wedi anghofio fod rasys milgwn yn cael eu cynnal yn Wembley ar nos Wener, a doedd yr awdurdodau ddim yn fodlon newid eu trefniadau ar gyfer Cwpan y Byd, FIFA, y Gymdeithas Beldroed na neb arall. Roedd rhaid cael stadiwm debyg i Wembley yn ôl y son, er mwyn tegwch, a dyna pam na chafwyd gêm yn Highbury na White Hart Lane na unrhyw le arall, felly tiwb i orllewin Llundain, gerllaw stadiwm presnnol Queen’s Park Rangers amdani a noson gofiadwy ymysg y Ffrancwyr a’u ceiliogod.
Ie haf hir felyn 1966!
Roedd y profiad yn rhywbeth na fyddwn byth yn ei newid, a’r adeg hynny roedd cefnogi peldroed yn rhywbeth nad oedd yn cynnwys yr atgasedd tuag at dimau eraill sydd yn ymddangos ei fod yn rhan annatod o ddilyn timau erbyn heddiw (boed y rheini yn rhai cenedlaethol neu drefol).
Cefnogwyr peldroed go iawn oedd o’m cwmpas. Nid fel y rhai unllygeidiog a geir heddiw yn dangos eu hatgasedd at bawb na sydd yn cytuno, neu o’r un cefndir a hwy.
Ie, fe ddaeth Gordon Banks, Bobby Moore a Bobby Charlton yn arwyr, ond felly hefyd Eusebio, Uwe Seeler a Lev Yashin, er imi hefyd golli parch tuag at yr Ariannin a’u capten Antonio Rattin.
Ond dyna ddigon o hunan gyfiawnhau, a phregethu. Mae Cwpan y Byd 2014 wedi cyrraedd, does ddim ots gen i bwy sydd yn curo cyn belled a bod y peldroed o’r safon uchaf, y cyffro yn parhau’n ddi-dor, a’m hatgofion personol am 1966 yn cael eu cynnal llawn mor fyw ac erioed.
Rydym yn brysur ddarllen hanesion Dylan Llewelyn a’i gyfeillion ym Mrasil ar y Blog yma, a dwi’n genfigennus iawn o’u hantur ar daith i ganol gwlad ysbrydol y gem a ffeinals Cwpan y Byd.
Mwynhewch bob munud o’r achlysur.
