Main content

Geirfa Podlediad Gorffennaf 9fed - 14eg 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Dei Tomos - Mynydd Parys

sylweddoli - to realise

cael cyfoeth o'r tir - get wealth from the land

amlwg - obvious

pobl ddwad - incomers

Cymry glân gloyw - Welsh through and through

crud y chwyldro diwydiannol - the cradle of the Industrial Revolution

waeth i chi ddweud - you might as well say

gwybodaeth arbenigol - expert knowledge

ymchwilio - researching

diwrnod tyngedfennol - a fateful day

Mynydd Parys. Wel, dydy o ddim yn fynydd go iawn, a dydy o ddim yn Ffrainc chwaith. Wedi dweud hynny, yn ei ddydd, Mynydd Parys, ger Amlwch ar Ynys Môn, oedd gwaith copr pwysica'r byd. Ar raglen Dei Tomos wythnos yma, buodd Richard Williams o Langefni yn sôn am rai o'r bobl oedd yn berchen ar y gwaith dros y blynyddoedd.

Rhaglen Aled Hughes - Huw Brassington

uwchlaw - above

trôns glan - clean pants

egni - energy

gwthio dy gorff i'r eitha - push you body to its limit

manteision - advantages

ffos - ditch

pwysau meddyliol - mental pressure

aberthu cymaint - to sacrifice so much

ffrwtian - spluttering

berwi - boling

Ychydig o hanes Mynydd Parys yn fan'na ar raglen Dei Tomos. Mae rhai'n dweud mai Ras Cefn y Ddraig Berghaus yw'r ras anodda yn y byd. Mae'r ras yn para pum diwrnod, ac mae'n rhaid rhedeg o Gonwy yn y Gogledd i Landeilo yn y De, 315 cilomedr. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn rhedeg hyd at 16 awr y dydd, ac yn dringo ddwywaith uchder Everest yn ystod yr wythnos. Un gymerodd ran yn y ras oedd y rhedwr profiadol Huw Brassington. Dyma fo'n dweud wrth Aled Hughes pa mor anodd oedd y ras iddo fo.

Teulu - Stifyn Parri

hunllef - nightmare

rhaglen ddogfen - documentary

tueddu i - tend to

cyn i mi wlychu fy hun - before I wet myself

hyder - confidence

be ddiawl - what the heck?

colur - make-up

ar ôl ychydig - after a while

Disgrifiad o Ras Cefn y Ddraig Berghaus yn fan'na gan un gymerodd ran ynddi hi - swnio fel hunllef i mi, mae'n rhaid dweud! Amser cinio dydd Llun roedd yna raglen ddogfen yn sôn am sut mae'r Cymry'n tueddu i gyfarfod efo'i gilydd. Un o'r straeon diddorol glywon ni oedd stori yr actor Stifyn Parri a dyma fo’n rhoi hanes sut gwnaeth o gyfarfod ei bartner, yn ei ffordd arbennig ei hun.

Stiwdio - Evita

Yr Ariannin - Argentina

ei phwysigrwydd - her importance

wedi gwirioni efo - was bowled over by

fel testun - as a subject

yn ddiweddarach - later on

cyfansoddi - to compose

aweinyddes wleidyddol - political leader (female)

llywydd - President

llu o deithiau rhyngwladol - a great many international tours

i goroni'r cyfan - to cap it all

Hanes Stifyn Parri yn fan'na yn cyfarfod â'i bartner am y tro cynta. Un o'r sioeau mwya poblogaidd yn y West End oedd Evita, oedd yn seiliedig ar hanes Evita Peron, un o'r merched pwysica yn hanes Yr Ariannin. Cafodd y sioe ei pherfformio gynta 40 o flynyddoedd yn ôl yn 1978. Sioe gan y bartneriaeth enwog Andrew Lloyd Webber a Tim Rice oedd hon wrth gwrs, ac ar Stiwdio wythnos diwetha mi glywon ni Steffan Rhys Hughes, yn rhoi ychydig o hanes y sioe i ni.

Bore Cothi - Rhian Cadwaladr

dod ynghyd - to come together

gwau trwy'i gilydd - blending into each other

cymleth - complicated

cymeriadau - characters

man cychwyn - starting point

pob haen o gymdeithas - every layer of society

y rhan helyw - the majority

cywilydd - shame

archwilio - exploring

difrifol - serious

Tybed fydd yna sioe gerdd yn cael ei chyfansoddi am un o arweinyddion gwleidyddol modern? Anodd meddwl am bwy yn tydy? Mae ail nofel Rhian Cadwaladr, Môr a Mynydd, newydd gael ei chyhoeddi. Be yn union ydy thema'r nofel? Dyma Rhian yn esbonio wrth Shan Cothi.

Beti George - Trefnu priodasau

bodoli - to exist

ers talwm - in the past

croesi'r Iwerydd - to cross the Atlantic

yn ddiweddar - recently

Trefnydd Priodasau - Wedding Organiser

poblogaidd - popular

dyweddïo - to become engaged

golygu - to mean

magwraeth - upbringing

mwynhau yn arw - really enjoyng

Môr a Mynydd, nofel newydd Rhian Cadwaladr, yn swnio'n ddiddorol iawn. Mae yna lawer iawn o swyddi ar gael y dyddiau hyn nad oedden nhw'n bodoli ers talwm,. Mae lot fawr ohonyn nhw'n syniadau am swyddi sydd wedi croesi'r Iwerydd yn ddiweddar, ac un o'r rheini ydy'r swydd o Drefnydd Priodasau. Dyna ydy busnes Alaw Griffiths a hi oedd gwestai arbennig Beti George yr wythnos diwetha, ac fel cawn ni glywed mae hi wrth ei bodd efo'r gwaith.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ffeinal Cwpan Y Byd 2018 - Ffrainc v Croatia

Nesaf

Nefar in Ewrop