Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Hydref 30, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Aled Richards

ystadegau! Maen nhw i'w cael ymhob man yntydyn nhw? Fedwch chi ddim edrych ar gêm bêl-droed at y teledu y dyddiau yma, heb gael llwyth o ystadegau am berfformiad y timau a'r chwaraewyr. Ac wedyn mae gynnon ni bolau piniwn, ystadegau am y tywydd, ac am yr economi i'w clywed ar y newyddion bob nos. Ond faint fedran ni ddibynnu ar yr ystadegau hyn. Dyna ofynnodd Shân Cothi i'r mathemategydd Aled Richards ddydd Llun...

ystadegau - statistics

astudiaethau - studies

buddianau - benefits

anelwig - vague

annibynnol - independent

meddyginiaethau - medicines

sgil effeithiau - side effects

canran - percentage

cyfryngau - media

tebygolrwydd - probability

Dylan Jones - Gorsaf Corwen

Y mathamategydd Aled Richards yn fan'na yn cael sgwrs am ystadegau efo Shân Cothi, ar Bore Cothi wrth gwrs! Dan ni wedi clywed sawl sgwrs ar y podlediad yn y gorffennol am reilffyrdd, yn aml iawn pobl yn cofio hen reilffyedd cyn i Dr Beeching eu cau yn y chwedegau. Ond heddiw stori am reilffordd newydd yn agor sy ganddon ni. Cafodd y rheilffordd rhwng LLangollen a Chorwen ei hagor yr wythnos diwetha - pedwardeg naw o flynyddoedd ers i'r syniad cael ei drafod am y tro cynta. Cafodd Dylan Jones sgwrs efo Ben Price o ardal Corwen ar y diwrnod cyrhaeddodd y trên cyntaf orsaf Corwen...

cronfa - fund

gwirfoddolwyr - volunteers

tyst i'r ymdrechion - witness to the efforts

gwireddu breuddwyd - to fulfil a dream

cyrraedd y nod - reach the target

mwyafrif - majority

yn ddibaid - without stopping

cynhyrfus - excited

tacluso - to tidy

Dylan Jones - Dan y Wenallt

Dw i'n siwr bod pobol ardal Corwen yn falch iawn o wirfoddolwyr fel Ben Price, sydd wedi gwireddu'r freuddwyd o ailagor y rheilffordd rhwng Corwen a Llangollen. Ben yn siarad wrth gwrs efo Dylan Jones. mae yna lawer iawn o sôn am Dylan Thomas eleni yndoes, gan ei bod yn ganmlynedd ers geni'r bardd o Abertawe. Flynyddoedd yn ôl mi sgwennodd T. James Jones addasiad Cymraeg o'r ddrama 'Under Milk Wood' o'r enw Dan y Wenallt. Eleni mae o wedi dod ag addasiad newydd allan ac mi gafodd hon ei chlywed ar Radio Cymru ddydd Llun diwetha. T. James Jones oedd y 'Llais ' yn y ddrama ac actorion Pobol y Cwm oedd gweddill y cast. Gwrandewch rwan ar T. James Jones yn rhoi ychydig o hanes ei addasiad i Dylan Jones...

addasiad newydd a new adaptation

anrhydedd - an honour

gwendidau - weaknesses

delweddau - images

cyfiawnder - justice

arwyddocaol - significant

cachgi - coward

trawiadol - striking

tafodiaith - dialect

trosi - to translate

Beti a'i Phobol - Huw Evans

Roedd addasiad T James Jones o 'Under Milk Wood' yn fan'na yn swnio'n arbennig iawn yndoedd? Dan ni'n mynd i orffen y podlediad hwn efo'r cerddor a’r darlledwr Huw Evans. Fo oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol, a dan ni'n mynd i gylwed rhan o'r sgwrs lle mae'r ddau yn trafod y Gymraeg...

Cerddor a darlledwr - Musician and broadcaster

rhyfedd - strange

yn wallgof - beserk

ieithoedd lleiafrifol - minority languages

trafod - discussing

estron - foreign

chwythu - to blow

cerddoriaeth - music

hir oes - long life

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Caerdydd v Ipswich

Nesaf

Tim dan 16 Cymru v Lloegr