Main content

Sesiwn Fach yn Womex 2013

Idris Morris Jones

Cyflwynydd Sesiwn Fach

Dwi yma yn ŵyl ers amser cinio ddoe a dwi heb gael llawer o gyfle hyd yn hyn i weld llawer o berfformwyr.

Wnaethon ni gyrraedd a dechrau paratoi ar gyfer rhaglen Sesiwn Fach neithiwr.

Roeddwn ni yn darlledu o gyntedd ganolfan y Mileniwm uwchben llwyfan y Gorwelion ac roedd yr awyrgylch yma yn hollol drydanol.

Roedd yna lot o bobol yn mynd a dŵad i glywed y bandiau ac yn mynd allan yn y doc i Theatr Western a'r prif lwyfan yn Theatr Donald Gordon.

O be yr ydw’i 'n i weld mae'r bobol sydd yma i weithio, rhwydweithio, ac i chwilio am fandiau yn wirioneddol mwynhau ei hunain ac mae yna wen ar wyneb pawb. Rydych chi'n siarad â rhywun am y tro cyntaf ac maen nhw’n sôn am y gerddoriaeth a gymaint maen nhw'n mwynhau.

Aethon ni weld band oedd yn gyfuniad o Lydäwyr a phobol o Facedonia neithiwr ac roedd yr harmonïau yn fendigedig.

Heddiw wnaethon ni wneud cyfweliadau yn y Motorpoint, lle mae'r ffair masnach a'r rhwydweithio go iawn yn digwydd.

Roedd yna stondinau o bob man o'r byd a thipyn o Gymru ac eto yn fanna roedd pobol yn mynd o un lle i'r llall.

Gobeithio heno ac yfory gai cyfle i wrando ar fwy o fandiau.

Heno rwy'n edrych ymlaen at berfformiad Catrin Finch a hefyd Georgia Ruth a dwi'n edrych ymlaen at weld 9 Bach yfory.

Oriel luniau Sesiwn Fach yn WOMEX.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dechrau 'Showcases' WOMEX

Nesaf

Ffair y Motorpoint Arena