Ar y seithfed ar hugain o Ebrill, 2014, roedd Brendan Rodgers ar fin bod y rheolwr cyntaf i ddod a choron Uwch Gynghrair Lloegr i Lerpwl am y tro cyntaf ers pedair blynedd ar hugain.
Gyda rhediad di guro o un gêm ar bymtheg y tu cefn iddynt, ac un ar ddeg o rheini yn gemau a oedd wedi eu hennill yn olynol, daeth gem allweddol yn erbyn un o'u gwrthwynebwyr pennaf, Chelsea.
Ond, mewn un funud fach, cyn elo’r haul o wybren Anfield, fe chwalwyd popeth wrth i Steven Gerrard lithro ar y bel gan roi un funud fwyn i holl gefnogwyr Chelsea wrth i'w tîm achub y blaen cyn yr egwyl.
Digwyddodd, darfu, megis seren wib, a sgoriodd Chelsea ail gol gan chwalu hyder a gobeithion Lerpwl o ennill yr Uwch gynghrair yn gyfan gwbl. Manchester City aeth ymlaen i gipio'r goron gan adael Lerpwl yn yr ail safle a Chelsea yn drydydd.
Ond, o’r funud honno, newidiwyd cwrs gyrfa Brendon Rodgers ar Anfield. Cyn ei feirniadu yn rhy hallt, rhywbeth dwi o’r farn sydd wedi digwydd yr wythnos yma, 'rwyf o'r farn y dylem edrych ar drefn y clwb y tu cefn i Rodgers, a sut y bu rhaid iddo weithio drwy'r tymor diwethaf, hyd at ei ymddiswyddiad yr wythnos yma.
Ar ôl i'r clwb benderfynu diswyddo staff hyfforddi Rodgers yn yr haf, gadawyd y rheolwr yn cerdded coridorau Anfield yn unig, er cymaint anthem y clwb na fyddai unrhyw un yn cerdded ar ei ben ei hun yn Lerpwl er waethaf y gwynt a'r glaw !
Ond cadwodd Rodgers ei ben, er gwaethaf y stormydd o'i gwmpas a bu raid iddo orfod dibynnu, yn ôl y son, ar benderfyniad pwyllgor arwyddo chwaraewyr i gryfhau'r tîm, pwyllgor sydd i mi yn ymddangos mor ddi-drefn â phwyllgor clwb pêl droed Bryncoch o dan arweiniad Mr Picton.
Enghraifft dda o aneffeithiolrwydd y pwyllgor yma, sydd wedi ei gofnodi yn y wasg ers peth amser, oedd y penderfyniad i arwyddo Christian Benteke o Aston Villa ar gyfer y tymor yma. D’oes dim amheuaeth fod Benteke yn chwaraewr medrus, yn gallu arwain y linell flaen yn gadarn, ond tra roedd o’n gwneud enw iddo’i hun yn Aston Villa, roedd hefyd yn ddigon ffodus i fwydo oddi ar groesiadau treiddgar gan asgellwyr a oedd yn adnabod ei arddull o chwarae.
Ond y feirniadaeth a gafwyd eleni, ar ôl iddo gyrraedd Anfield oedd nad oes yr un fath o wasanaeth tebyg ar gael i osod y cyfleoedd tebyg iddo, rhywbeth y dylai’r pwyllgor fod wedi ei sylweddoli os am gael y gorau allan o'u blaenwr newydd .
Ymddengys hefyd fod y clwb, a’r pwyllgor yn dilyn athroniaeth ystadegol newydd y byd chwaraeon, (wedi ei amlinellu yn y llyfr Moneyball) o'r Unol Daletihiau (rhywbeth mae’r perchennog John W Henry wedi ei fabwysiadu gyda'i glwb pel fas y Boston Red Sox) . Athroniaeth Moneyball ydi arwyddo chwaraewyr addawol, o dan dri ar hugain oed gan amlaf, a disgwyl i'r rheolwr eu datblygu i fod yn chwaraewyr gwell cyn eu gwerthu am elw.
A’i dyma'r drefn oedd cefnogwyr Lerpwl am ei weld os am gael llwyddiant a gweld eu tim yn ennill yr Uwch gynghrair? Scersli believe!
Do, fe gadwyd seren, Luis Suarez, ond wedi iddo ddangos ei ddannedd unwaith yn ormod, bu rhaid cael gwared ohono, ac yn ei le daeth Mario Balotelli.
W’n i ddim pwy oedd yn gyfrifol am hyn, a does fawr o obaith cael gwybod chwaith gan fod bron pob un yn ymddangos fel petaent yn brysur honni main nid hwy oedd yn gyfrifol, fel plentyn drwg yn yr ysgol, “ nid fi oedd y bai, fo ‘nath ddeud wrtha’i am ‘neud!”
Diflannodd Steven Gerrard i'r Unol Daleithiau, ac yn ôl ei lyfr newydd fe fyddai wedi aros yn Anfield petai wedi cael cyfle i hyfforddi, ond pwy, eto a wnaeth y penderfyniad nad oedd lle iddo yn Anfield mwyach?
Mae tymor 2013-14 wedi ei anghofio a phwy a ŵyr na phetai Steven Gerrard wedi cadw ei draed ar y ddaear y byddai Lerpwl wedi dod yn bencampwyr unwaith eto.
Ond dyna ni, llithriad, cwymp a cholli chwaraewr allweddol, gyda’r pwyllgor yn dewis yr olynwyr. D’oedd fawr ryfedd fod pethau wedi dod yn' greisis' arnom ni'n Anfield Mr Rodgers.
Ond cyfod yr amser, cyfod y dyn ac mae'n ymddangos fod yr Almaenwr Jurgen Klopp ar ei ffordd i roi trefn ar yr uffern sydd wedi codi yn Anfield.
Ond o ystyried y graddau y gadawyd Brendan Rodgers yn cerdded y lle ar ben ei hun, hwyrach nad ‘You’ll Never Walk Alone’ ddylai anthem Lerpwl fod mwyach ac y bydd well i gôr y Kop gyd forio ‘Mynd ar y ceffyl clipi-di-klop; mynd ar y ceffyl trot, trot, trot’ cyn y gemau o hyn ymlaen os am gyrraedd y nod o fod ymysg ceffylau blaen Uwch gynghrair Lloegr!
