Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Gari Wyn - Gwaith Haearn Brunswick
gwaith haearn - ironworks
hen daid - great grandfather
cystadleuaeth - competition
diflannu - to disappear
sylw - attention
canllawiau - railings
brawdoliaeth - comradeship
anhygoel - incredible
awgrymu - suggesting
Clawdd Offa - Offa's Dyke
"..be sy'n gyffredin rhwng Lloyd George, Yr Albert Hall, gorsaf Crewe, Rheilffodd Eryri a pharlwr y Frenhines? Wel, yr ateb ydy Gwaith Haearn Brunswick yng Nghaernarfon. Mae gwaith y cwmni i'w weld yn yr holl lefydd enwog yna, ia hyd yn oed ym mharlwr y Frenhines. Dyma Meurig Williams o'r cwmni yn esbonio sut gafodd ei hen daid waith gan Lloyd George a sut gwnaeth hynny arwain at yr holl brojectau eraill. A be oedd rôl yr Eisteddfod Genedlaethol yn hyn i gyd?"
Rhaglen Dei Tomos - Volander
mamgu - nain
cefndir - background
anghyffredin - uncommon
glöwr - collier
cyfrifiad - census
dan ddaear - underground
ysgytwad - a shock
Ty Cwrdd - Meeting House/Chapel
barddoniaeth - poetry
y Weinidogaeth - the Ministry
Meurig Williams oedd hwnna ar Raglen Gari Wyn yn rhoi dipyn o hanes Gwaith Haearn Brunswick ac yn sôn am sut oedd ei hen daid wedi dod yn ffrind i Lloyd George. Ac mae Lloyd George yn dod mewn i'r stori nesa ma hefyd! Ar Raglen Dei Tomos ddydd Mawrth mi glywon ni ychydig o hanes y bardd Volander gan Meic Birtwistle o Geredigion, sydd yn perthyn o bell iddo fo. John Jones oedd enw iawn y bardd ac roedd o'n gefnogol iawn i Lloyd George adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn y clip yma mae Meic yn esbonio sut daeth o i wybod am ei gysylltiad personol o gyda'r bardd...
Rhaglen Dylan Jones - Pysgota
Mis Cenedlaethol Pysgota - National Fishing Month
profiad - experience
yn ddiweddar - recently
troad mawr - a big change
pryfed - insects
brithylliaid - trouts
canrif - century
pysgota pluen - fly fishing
eogiaid - salmon (plural)
cangen las - grayling
Meic Birtwistle yn fan'na yn rhoi ychydig o hanes diddorol y bardd a'r gweinidog, Volander, neu John Jones. Maen nhw'n dweud bod yna fwy o bobl yn pysgota nag sydd yna o bobl yn chwarae pêl-droed. Wel, os dach chi'n pysgota neu beidio, mi wnewch chi fwynhau'r sgwrs nesa 'ma. Gan fod mis Gorffennaf yn Fis Cenedlaethol Pysgota, mi fuodd Gwilym Hughes o Gorwen yn sôn wrth Dylan Jones ddydd Mercher am ei gariad tuag at y gamp. Mae Gwilym yn pysgota ers 60 mlynedd, a gofynnodd Dylan iddo be oedd wedi newid ers yr adeg hynny, ac ydy Gwilym yn dal i ddysgu pethau newydd? Dyma oedd ei ateb...
Rhaglen John Walter - Ofn hedfan
ofn hedfan - fear of flying
chwysu - perspiring
hwpo - to push
gwyn eich byd chi - you're blessed (lucky)
ar ei bwys e - wrth ei ymyl o
anarferol - unusual
ymchwil - research
marwolaeth - death
ar lwyfan - on a stage
cynulleidfa - audience
"Gwilym Hughes o Gorwen oedd hwnna yn son am ei gariad tuag at bysgota efo Dylan Jones. Gyda'r ysgolion wedi torri, dw i'n siwr bydd llawer iawn ohonoch chi'n dechrau meddwl am eich gwyliau, ac yn meddwl mynd dramor o bosib. Os felly, meddyliwch am yr actores Shelley Rees druan, sydd yn ofn hedfan, ac yn ofn cael 'crash' yn fwy na dim. Dyma hi'n siarad am ei hofnau efo John Walter ddydd Mercher..."
