Yr Albanwyr ar y blaen !
Os gennych awydd i fod yn rheolwr tîm peldroed?
Os felly, hwyrach y byddai yn dda petaech yn gallu siarad ag acen Albanaidd.
Fel y mae cefndir prifysgolion Rhydychen neu Caergrawnt yn gallu rhoi lle i chi yng Nghabinet y Llywodraeth, hwyrach fe fyddai cefndir Albanaidd yn eich galluogi i reoli tîm peldroed.
Edrychwch ddim pellach na Syr Alex, David Moyes,a hefyd Malky Mackay,
Heblaw am allu unigol pob un o rhain, ac eraill yn y gorffennol fel Kenny Dalglish, be sydd mor arbennig mewn Albanwyr?
Gallwn olrhain hanes a darganfod mai o’r Alban y daeth y chwaraewyr a oedd yn pasio’r bel yn well pan ddaeth y gêm yn broffesiynol yn sgil y chwyldro diwydiannol. Roedd saith o Albanwyr yn nhîm Preston North End, a enillodd y gynghrair beldroed gyntaf, ac roedd tîm cyntaf Lerpwl yn sgil y gwahaniad ag Everton gyda thri Albanwr ar ddeg yn y garfan.
Ond yn nes at y presennol, . Llwyddodd Jock Stein i arwain Celtic i fod y tîm Prydeinig cyntaf i godi Cwpan Ewrop, yna dilynwyd ef gan Matt Busby yn arwain Manchester United,a Bill Shankly yn newid delwedd Lerpwl a dod a’r clwb yn un o gewri mwyaf y byd peldroed.
Ond rhywsut drwy hyn i gyd, mae yna ryw barchedig ofn yn perthyn i'r Albanwyr yma, rhyw elfen o Rob Roy parhaus, na fyddai'r un cadeirydd o glwb Seisnig yn mynnu ei wrthsefyll.
A fyddai Syr Alex wedi cael tair blynedd i ennill ei dlws cyntaf oni bai fod ganddo'r gallu i ddychryn unrhyw un a feiddia’i sefyll yn ei erbyn?
Yna fe geir yr acen - yn ddwfn, yn frathog ac yn llawn awdurdod.
Mae hyd yn oed y byd darlledu wedi derbyn hyn - gydag Alan Hansen yn llawn barn ddiddadl am bawb a phopeth, a gwau unrhyw un a feiddia ddadlau ag o am ei farn am amddiffynwyr!
Beth petai Syr Alex Ferguson wedi bod yn Sais o Ddyfnaint - a fyddai'r sychwr gwallt wedi bod llawn for fygythiol ac effeithiol wedyn, a cheisiwch ddychmygu hynny mewn acen Brummie, yna fe fyddai rywun yn fwy tebygol o ddisgyn i lawr yn chwerthin na theimlo ei fod yn cael ei fygwth .
Ie, i lawer o gadeiryddion timau Lloegr, fe all hyd yn oed y cyfarwyddiadau mwyaf elfennol swnio fel rhagarweiniad at ryfel os caiff ei gyfleu mewn acen Albanaidd!
Pob hwyl felly i David Moyes, ei lygaid ffyrnig a’i acenawdurdodol. Fe fydd angen pob un o rhain arno yn Old Trafford cyn hir!
Tybed pwy ddaw i Everton? Albanwr arall, neu rywun mwy rhamantaidd a llawer mor effeithiol mewn acen dramor?
Pwy a ŵyr?
Yn y cyfamser – Och aye a noo!
