Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Medi 16, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Daniel Jenkins Jones

cynnau - to ignite

ar droed - on foot/in agitation

mudo - migrate

tymheredd - temperature

tarth - mist

greddf - intuition

ymennydd - brain

siwrne - journey

bondo - eaves

trofannol - tropical

...ac wedi i'r gwyliau haf ddod i ben, dw i'n siwr bod llawer ohonoch chi, fel finna, yn hiraethu am gael pacio cês a mynd i wlad gynnes dros y gaea', fel mae llawer o adar yn ei wneud adeg yma'r flwyddyn. Heb y cês, wrth gwrs! Fore Mawrth daeth Daniel Jenkins Jones i'r stiwdio at Shon Cothi i siarad am yr adar doeth 'ma sy'n mudo o Gymru oer dros y gaeaf.

Tra bo dau - Glanaethwy

sefydlu - to establish

adnabyddus - renowned

llwyddiant - success

mentro - to venture

llond bol - fed up

yn gytûn - agreed

rhigol - rut

cyfarwyddo - to direct

marchnata - to market 

Daniel Jenkins Jones yn fan 'na yn siarad am gyfrinach Gwenoliaid y Bondo. Ac o fyd natur i fyd perfformio yr awn ni nesa'. Mae Ysgol Glanaethwy yn ysgol berfformio a gafodd ei sefydlu ym Mangor nôl yn 1990 gan Cefin a Rhian Roberts. Mae corau Ysgol Glanaethwy yn adnabyddus iawn yng Nghymru, ac ella bod rhai ohonoch chi'n cofio eu llwyddiant ar y gyfres 'Last Choir Standing' nôl yn 2008. Ond, be'n union wnaeth ysbrydoli Cefin a Rhian i fentro sefydlu'r ysgol? Nia Roberts aeth draw i'w cartref i glywed mwy am yr hanes.

Bore Cothi - Mercher - Alwyn Humphries

profiad - experience

annisgwyl - unexpected

arweinydd - conductor

camfihafio - to misbehave

unawdwyr - soloist

deuawd - duet

cariadus - loving

cerddorfa - orchestra

ffidil - fiddle

tywys - to lead

Dyna i chi glip bach gwych o gôr Ysgol Glanaethwy ar eu gorau. Rhywun sydd wedi hen arfer ag arwain corau ydi Alwyn Humphries. Mae Alwyn yn arweinydd profiadol iawn, ond doedd yr un profiad yn y byd am ei baratoi ar gyfer neb llai na Shan Cothi yn camfihafio ar lwyfan. Dyma Alwyn druan yn adrodd yr hanes mewn sgwrs gyda Shan fore Mercher. Lwcus mai ar y radio maen nhw - dw i'n siwr bod Shan yn cochi wrth gofio'r perfformiad!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cartrefi Cymru: Trefeca

Nesaf

Tra Bo Dau: Christine James a Non Evans