Main content

Y Cymro Jimmy Murphy a Manchester United

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Un o’r gemau proffesiynol gyntaf imi ei weld erioed oedd honno ar Barc Goodison ar y pedwerydd o Fedi, 1957 rhwng Everton a Manchester United.

Gem gyfartal oedd hi, tair gôl yr un, o flaen torf o saith deg dau mil a saith deg saith, ac i fachgen ifanc a welodd gem fawr mewn dinas fawr am y tro cyntaf, roedd cael gweld y Busby Babes yn dipyn o achlysur.

Feddyliais ddim, fel unrhyw un arall a oedd yno, y byddai hanner tîm y Busby Babes wedi colli ei bywyd mewn damwain awyren yn Munich bum mis yn ddiweddarach ar eu ffordd adre yn dilyn gem yng nghwpan pencampwyr Ewrop yn erbyn Red Star Beldgrade.

Collwyd bywydau chwech o'r tîm a welais yn Everton y diwrnod hwnnw ym Munich, sef Roger Byrne, Eddie Coleman, Duncan Edwards, Liam Whelan, Tommy Taylor a David Pegg.

Ni all unrhyw un, a oedd yn byw'r adeg honno anghofio'r emosiwn a’r ymateb i'r trychineb yma, ac ni alla'i hyd oed heddiw fynd i Old Trafford heb ymweld â chofeb Munich, yn ogystal â'r cloc sydd wedi ei osod ar wal y stadiwm yn dangos ,yn barhaol, yr amser fel hanner awr wedi tri, ar y chweched o Chwefror, sef yr amser a dyddiad y trychineb.

Matt Busby oedd rheolwr y tîm, gwr a lwyddodd i oresgyn ei anafiadau difrifol ond yn ei gynorthwyo roedd Cymro, sef Jimmy Murphy, yn enedigol o'r Pentre yn y Rhondda.

Ond, dyma un daith ac un gêm ble nad oedd y Cymro yn bresennol.

Yn ogystal â bod yn is-reolwr i Busby, roedd Murphy hefyd yn rheoli tîm cenedlaethol Cymru. Ac ar y pumed o Chwefror roedd yn ofynnol i Gymru chwarae gem ail gyfle yn erbyn Israel i benderfynu pa un o'r ddau dîm a fyddai'n cael mynd i gystadlu yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Sweden yr haf dilynol.

Y sgil y sylw am lwyddiant Cymru yn yr Ewros eleni, bu llawer o son am hanes tîm '58, y tîm a welodd Pele yn torri eu calonnau a thrwy ffawd a lwc, hwyrach fod y digwyddiad yma o orfod gofalu am dîm Cymru i wynebu Israel wedi arbed bywyd Jimmy Murphy.

Mae hanes bywyd Jimmy Murphy eisoes wedi ei groniclo mewn llyfr o'r enw ‘ Starmaker’ gan yr awdur Brian Hughes gyda sylw gwaith y Cymro wrth ymateb i drychneb Munch ac ail adeiladu’r clwb o’r newydd.

Yn ddiweddar, mae ail lyfr yn cael ei gyhoeddi, yn olrhain dylanwad Murphy ar Manchester United, sef "Jimmy Murphy: The Man Who Rebuilt Manchester United’ gan yr awdur Matthew Crist.

Mae’r ddau lyfr yn debyg iawn, ac yn canolbwyntio ar ddylanwad Murphy yng nghysgod y drychineb, a sut yr aeth ati, nid yn unig i greu tîm a lwyddodd i gyrraedd ffeinal Cwpan Lloegr y tymor hwnnw, ond hefyd i gynnal a chefnogi teuluoedd, anwyliaid, staff a ffrindiau pob un a gollodd mab, aelod o'u teulu, ffrind neu gyd weithiwr ym Munich.

Pythefnos ar ôl Munich, cafwyd un o'r nosweithiau yna na ellir ei anghofio wrth i Jimmy Murphy arwain ei dim newydd allan i wynebu Sheffield Wednesday yn chweched rownd Cwpan Lloegr ar Old Trafford mewn noson a oedd mor emosiynol o drist a all unrhyw un ei gofio. Yn wir, roedd rhaglen y gêm wedi methu ac enwi tîm United ar gyfer y gêm , gyda bylchau gwag yn y safleoedd yn hytrach nac enwau.

Enillodd United y gêm o dair gôl i ddim a hefyd fe gyrhaeddwyd rownd cyn derfynol Cwpan Ewrop, curi Milan un Old Trafford, ond colli dros ddau gymal.

Deng mlynedd yn hwyrach fe enillodd Manchester United Gwpan Ewrop mewn noson emosiynol arall yn Wembley, curio Benfica o bedwar gôl i un. Capten United y noson honno oedd un a oresgynnodd y trychineb ym Munich, sef Bobby Charlton, ac mae ei ddyled i Murphy yn enfawr wrth iddo ddweud "...Beth bynnag 'rwyf wedi llwyddo i'w gyflawni yn y byd pêl droed, rwy’n ddyledus am hynny i un dyn, a dim ond un dyn, sef Jimmy Murphy"

Parhaodd Murphy i weithio fel is reolwr i Matt Busby tan 1971, a bu farw yn 1989, yn 79 oed.

Beth bynnag fo llwyddiant United wedi bod ers hynny, yn enwedig o dan ofalaeth Syr Alex Ferguson, ni ddylid unrhyw un anghofio campau, a gwyrthiau Jimmy Murphy a arweiniodd y clwb a'i ail adeiladu yn eu horiau tywyllaf ‘nol yn 1958.

“Jimmy Murphy: The Man Who Rebuilt Manchester United” gan Matthew Crist.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Amgueddfa Bel-droed Wrecsam