Main content

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 11 Rhagfyr 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Daf a Caryl - Delme~



hunangofiant - autobiography

dolur iselder - the condition of depression

euogrwydd - guilt

caethiwed - confinement

cwato - cuddio/to hide

cywilydd - shame

andros o ddewr - very brave

addfwyn - gentle

becso - poeni

llysgennad - ambassador

...y cyn chwaraewr rygbi Delme Thomas. Buodd Delme yn chwarae rygbi dros Gymru a thros y Llewod, a fo oedd ein gwestai arbennig ar Dafydd a Caryl fore Mawrth. Mae Delme newydd gyhoeddi ei hunangofiant ac yn y clip cynta 'ma mae o'n sôn am adeg anodd iawn yn ei fywyd, rhywbeth mae o wedi ysgrifennu'n onest iawn amdano yn ei lyfr...

Ifan Evans - y jyngl



yr ail gyfres - the second series

atgofion - recollections

yn dynerach - softer

diflastod - boredom

y gyfrinach fawr - the big secret

perlysiau - herbs

profiad cofiadwy - a memorable experience

moethusrwydd pur - pure luxury

i'r fath raddau - to such an extent

trawsnewid fy mywyd - transform my life

"Delme yn fan'na yn siarad yn ddewr iawn am ei brofiadau. Roedd Delme wrth gwrs yn Lew ar y cae rygbi, ond dw i ddim yn meddwl i'r llew hwnnw erioed fod yn y jyngl, yn wahanol iawn i Sian Lloyd y tywydd. Deg mlynedd yn ôl mi fuodd hi yn y jyngl fel un o'r rhai oedd yn cystadlu yn "I’m a Celebrity Get me out of here". Wnaeth hi fwynhau'r profiad tybed? Dyma hi'n siarad efo Ifan Evans nos Fawrth diwetha..."

Post Cyntaf - Mandela



arwr - hero

talu teyrnged - to pay tribute

datgymalu ymerodraethau - to dinsintegrate the empires

hiliaeth - racism

terfysgwr - terrorists

y rhyfel oer - the cold war

yn ddieithriad - without exception

maddau - to forgive

chwedlonol - fabled

cyfaddawdu - to compromise

"...ac mi wnaeth y Cymro David Emmanuel yn dda iawn yn y jyngl yn y gyfres ddiwetha yndo? Newyddion mawr yr wythnos wrth gwrs oedd marwolaeth drist Nelson Mandela yn nawdeg pump oed. Roedd yn arwr i filiynau o bobl ar draws y byd, ac ar y Post Cyntaf fore Gwener buodd llawer o bobl yn talu teyrnged iddo. Ar ddiwedd y clip hwn mi gawn ni glywed nifer o bobl wahanol gan gynnwys Barack Obama yn talu teyrnged i'r dyn mawr, ond yn gynta dyma Vaughan Roderick yn sôn amdano Nelson Mandela y gwleidydd yr eicon a'r arwr..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Marwolaeth Nelson Mandela

Nesaf

Cynlluniau newydd Cymdeithas Beldroed Cymru