Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 21ain o Hydref 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Beti a'i Phobl - Siri Widgel

rhannu - to share

profiadau - experiences

dallt - deall

cloi - to lock

chwerthin - to laugh

Gan ei bod hi wedi bod yn Wythnos Dathlu Cymraeg ar Radio Cymru, mae llawer o'r clipiau yr wythnos hon yn sôn am ddysgu Cymraeg. I ddechrau dyma'r ddawnswraig Siri Widgel, sy'n dod o Norwy yn wreiddiol ac wedi dysgu Cymraeg ar ôl iddi symud i fyw i Flaenau Ffestiniog. Buodd Siri'n rhannu rhai o'i phrofiadau o ddysgu'r iaith ar Beti a'i Phobl.

Rhys Mwyn - Kai Saraceno

Y Ffindir - Finland

Yr Eidal - Italy

cafodd ei ysbrydoli - he was inspired

cerddoriaeth - music

am hwyl - for fun

gwerin - folk

egni - energy

yn fyw - live

Ac yn y clip nesa cawn glywed gan ddysgwr o'r wlad drws nesa i Norwy - Y Ffindir. Dyma i chi Kai Saraceno sy'n dod o'r Eidal yn wreiddiol ond sydd erbyn hyn yn byw yn y Ffindir. Cafodd ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg drwy wrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Dyma fe'n dweud mwy wrth Rhys Mwyn.

Yr Hanner Call - Owen Saer

hyfforddi - to train

crybwyll - to mention

cymharu - to compare

anhawster - difficulty

eitha cymleth - quite complicated

ychwanegu - to add

ynganu - to pronounce

ddim yn erchyll o anodd - not terribly difficult

orgraff - orthography

gwaith cof - memory work

Ac o'r Ffindir nawr i Japan, nage nid sôn am y rygbi ydw i ond sôn am ddysgu ychydig am yr iaith Japaneg. Mae Owen Saer yn diwtor Cymraeg yng Nghaerdydd ond sôn am ddysgu Japaneg mae e yn y clip hwn. Buodd Owen yn gweithio yn Japan am rai blynyddoedd a dysgodd yr iaith pan oedd yno. Ydy Japaneg yn anoddach na'r Gymraeg tybed?

Rhaglen Aled Hughes - Ffrainc

buddugoliaeth - victory

yn ôl ei arfer - as usual (for him)

cyrchfan dwristiaid - tourist destination

cynhyrchu - to produce

drewi - to stink

malwod - snails

tocyn dilys - a valid ticket

gwahardd - to forbid

yn orfodol - compulsory

elusen - charity

Owen Saer yn fan'na yn sôn am ddysgu Japaneg. Efallai basai'n syniad da i dîm rygbi Cymru ddysgu ychydig o'r iaith gan y byddan nhw yn y wlad am bythefnos arall ar ôl eu buddogoliaeth yn erbyn Ffrainc ddydd Sul. Cyn y gêm cawson ni glywed ffeithiau am Ffrainc gan Rhys ap William yn ôl ei arfer, a dyma rai ohonyn nhw.

Emma a Trystan - Priodas Mirain a Jac

chwip o blan B - a brilliant plan B

dodrefn - furniture

bythynnod - cottages

sbïo - edrych

deu'tha ni - dweda wrthon ni

A'r ffaith bwysica am dîm rygbi Ffrainc wrth gwrs ydy bod Cymru wedi eu curo nhw yn rownd yr wyth ola a byddwn ni'n wynebu De Affrica yn y semis wythnos nesa - Cafodd Emma a Trystan sgwrs gyda Mirian Haf ddydd Sadwrn a hynny dim ond ychydig o oriau cyn iddi hi briodi Jac. Oedd popeth yn barod tybed?

Daf Du ar Radio Cymru 2 - Cerdd Megan

cyflwynydd - presenter

cerdd - poem

llawn mwynhad - full of enjoyment

(rwyt) ti'n haeddu'r byd - you deserve the world

cefnogaeth - support

awen - muse

arwr - hero

llawen - happy

A phob lwc i Mirain a Jac on'de? Dyn ni wedi clywed am dri dathliad yn y podlediad wythnos yma - Cymru'n dathlu yn y rygbi, Mirain a Jac yn dathlu eu priodas ac wrth gwrs dathlu dysgu Cymraeg, ond ma 'na un dathliad bach ar ôl. Roedd y cyflwynydd Daf Du yn dathlu ei benblwydd yn hanner cant oed a chafodd e syrpreis neis wrth i Megan , ei ferch, sgwennu cerdd iddo fe a dyma hi.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Peryglon Penio