Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Aled Hughes - Perfformiadau
cyfansoddwr - composer
bardd - poet
ymateb y gynulleidfa - the audience's response
ysgwyd - to shake
balchder - pride
dal fy ngwynt - hold my breath
cyfeiliant - accompaniment
darn gosod - set piece
dychan - satire
anghyfiawnder - injustice
... y cyfansoddwr Robat Arwyn a'r bardd Karen Owen yn sôn am sut maen nhw'n teimlo wrth wylio pobl yn perfformio eu gwaith nhw. Yr wythnos yma mi wnaeth y cyfansoddwr Steve Reich ddweud bod gwylio pobl yn perfformio ei waith yn ei wneud yn sal! Weithiau mae o'n flin iawn efo nhw ond weithiau mae o'n poeni bod y perfformiad yn well na fasai o'n medru gwneud ei hun. Dyma i chi be oedd gan Karen a Robat Arwyn i'w ddweud wrth Aled Hughes...
Recordiau Rhys Mwyn - Rebel Rebel
cyfrol - volume (of literature)
pennod - chapter
hunangofiant - autobiography
ffiniau - boundaries
straeon byrion - short stories
penodol - specific
un cam bant - one step away
holl bresennol - omnipresent
atgyfodi - to revive
arbrofi - to experiment
Karen Owen a Robat Arwyn yn dweud wrth Aled Hughes sut maen nhw'n teimlo wrth weld pobl eraill yn perfformio eu gwaith. Mae cyfrol newydd Jon Gower yn y siopau rwan. Cyfrol o straeon byrion ydy hi o'r enw 'Rebel Rebel'. Nos Lun mi gafodd Rhys Mwyn sgwrs efo Jon Gower am ei gyfrol ond prif ddiddordeb Rhys oedd y sylw i David Bowie yn y llyfr. Dymai chi flas ar y sgwrs..
Labordy Deri a Bryn - Cofio
atgof - memory
ymennydd - brain
Cofis - pobl Caernarfon
co(f) cyntaf - first memory
anrhegion - presents
dechrau'r ysgol - starting school
babi dol - baby doll
bara saim - fried bread
bwydo ieir - feeding hens
dail yn chwythu - leaves being blown
"Rhys Mwyn, Jon Gower a David Bowie be arall dach chi isio ynde? Be ydy eich atgof cynta chi? Dach chi'n medru ateb hynna'n onest? Dydy o ddim yn gwestiwn hawdd gan fod yr ymennydd yn chwarae triciau efo ni weithiau. Gofynnodd yr Athro Deri Tomos a Bryn Tomos y cwestiwn yma i bobl Caernarfon. Be oedd gan y Cofis i'w ddweud tybed...?"
Bore Cothi - Charly Green
cyfnod - period
newid byd - a complete change
Y Wladfa - Patagonia
synnu - surprised
cymdeithas glos - a close community
hapus dy fyd - happy in yourself
blaenor - elder
dringo - climbing
ar ei ôl e - after him
cynefin - birthplace ( lit: habitat)
"Y Cofis yn fan'na yn sôn am eu hatgofion cynta ar y rhaglen ' Labordy Deri a Bryn'. Rhyw bythefnos yn ôl mi gafodd rhaglen Shan Cothi gais i ddweud penblwydd hapus wrth Elinor Lloyd o Dregaron gan Charly Green o Batagonia. Mi benderfynodd criw'r rhaglen chwilio mewn i'r stori yma. Bore Gwener felly mi gafodd Shan sgwrs efo Elinor a hefyd efo Charly o Drefelin yn yr Andes. Buon nhw'n sôn am yr adeg daeth Charly, pan oedd o'n bymtheg oed, draw o Batagonia i Dregaron efo’i chwaer Mary er mwyn iddyn nhw wella'u Cymraeg. Be oedd Charly'n ei gofio am yr adeg honno? Dyma fo efo ychydig o help Elinor yn cofio'r hanes..."
