Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 19 Mehefin 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Nia - Trawsblaniad



trawsblaniad ysgyfaint - lung transplant

y frech goch - measles

anadl yn mynd yn brin - becoming shortbreathed

bydwraig - midwife

aeth pethau'n drech - things went a

yn datblygu - developing

ymladd - to fight

yn fo(d)lon - willing

llawfeddyg - surgeon

gwerthfawrogi - to appreciate



"...efo Marian Donovan o'r Barri fuodd yn siarad efo Nia ddydd Mawrth am sut roedd rhaid iddi gael trawsblaniad ysgyfaint flwyddyn yn ôl. A dweud y gwir roedd rhaid iddi gael trawsblaniad o'r ddau ysgyfaint, trawblaniad dwbl. Roedd hi o fewn dyddiau i farw ond llwyddodd y driniaeth i achub ei bywyd. Fel y cawn glywed mae digwyddiadau'r blynyddoedd diwetha wedi cael effaith mawr ar fywyd Marian..."





Atebion - Hiliaeth




dewr - brave.

hiliaeth - racism

diwylliannau - cultures

profiad - experience

ymwybodol - aware

mewnwelediad - insight

agweddau - attitudes

diffyg gwybodaeth - lack of information

casineb - hate

safbwynt - standpoint



"...stori Marian yn fan'na, merch ddewr iawn. Merch arall roedd rhaid iddi fod yn ddewr iawn ar adegau ydy Kizzie Cawford. Pan oedd Kizzie yn Ysgol Gynradd Aberaeron, hi oedd yr un ferch groenddu yn yr ysgol. Doedd ei bywyd hi ddim yn braf o gwbl, nes i'w mam gael syniad o sut i gael y plant i ddeall ychydig am Kizzie a'i chefndir. Ond ai hiliaieth oedd y ffordd gaeth hi ei thrin gan y plant eraill? Dyma Kizzie yn dweud yr hanes, ac yn rhoi ei barn, ar @ebion ddydd Sul..."





Stiwdio - Canwr y Byd




sefydlu - to found/establish

trefnydd - organiser

cantorion - singers

cerddorddfa - orchestra

darlledu - to broadcast

llachar - sparkling

cynulleidfa - audience

bythgofiadwy - unforgettable

llwyfan - stage

deniadol - attractive



"Mi fasai'n dda cael rhywun fel mam Kizzie i fynd o amgylch ysgolion Cymru i gyd on'basai? Braf hefyd clywed Kizzie yn deall yn iawn mai ddim casineb oedd y tu ôl i'r profiadau gaeth hi yn Aberaeron. Mi wnawn ni droi at gerddoriaeth rwan, a dydd Sul diwetha mi ddechreuodd cystadleuaeth Canwr y Byd yng Nghaerdydd. Roedd gan Stiwdio raglen arbennig ddydd Iau yn edrych yn ôl ar rai o gystadleuthau'r gorffennol efo Sian Pari Huws..." 





Drama ar Radio Cymru - Encore



dewis - to choose

damo ti - damn you

gwasgu - to squeeze

crio - llefain

brifo - anafu

oerfel - coldness

yn ddiolchgar - thankful

yn go aml - yn aml iawn



"Mi wnawn ni aros ym myd cerddoriaeth rwan ond symud o fyd cantorion clasurol fel Bryn Terfel at gantorion ysgafnach fel Nanog Wyn a Mimi. Pwy, meddech chi? Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi clywed amdanyn nhw, gan mai cymeriadau ydyn nhw mewn drama newydd gan Ceri Elen. Cafodd hi ei darlledu fel rhan o gyfres Drama Ar Radio Cymru ddydd Mercher diwetha. Dyfrig Evans a Lauren Phillips ydy'r actorion glywch chi yn y clip yma..." 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 8

Nesaf