Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Aled Hughes - Gyrfa Chwist
gyrfa chwist - whist drive
galw - to call
twyllo - to cheat
chwythu - to blow
dishgled o de - paned o de
yn gyffredinol - generally
llofnodi - to sign
towli - to throw
cadw cyfrif - keeping count
fel mynnoch chi - as you like
Dach chi wedi cymryd rhan mewn gyrfa chwist erioed? Mi gafodd Aled Hughes sgwrs gyda Ifor Davies o Gaerfyrddin sy'n galw mewn gyrfaoedd chwist. Roedd Aled eisiau gwybod faint o dwyllo, neu cafflo, sy'n digwydd yn ystod y gemau. Dyma oedd gan Ifor i'w ddweud...
Fy Mag a Fi - Rhian Lane
profiadau - experiences
gorfod - to have to
rhannu - to share
pres - arian
heb di - ddim wedi
penderfynu - to decide
Dim twyllo pan mae Ifor yn galw felly! Rhaglen ydy Fy Mag a Fi sy'n rhoi cyfle i ni glywed profiadau pobl sy'n gorfod defnyddio bag colostomi neu fag ileostomi. Dyma Rhian Lane yn rhannu ei phrofiadau hi...
Bore Cothi - hysbysebion
hysbysebion - adverts
ail ryfel byd - second world war
caledi - hardship
ymwybyddiaeth - awareness
cyfrwng newydd - new media
ymgyrch - campaign
cystadleuaeth - competition
ariannu - to finance
lledu - spreading
gwyddonydd - scientist
Rhian Lane oedd honna yn rhannu ei stori ar y rhaglen 'Fy Mag a Fi'. Mae hysbysebion teledu y dyddiau yma'n glyfar ac yn slic iawn yn tydyn nhw? Ond ddim fel'na oeddan nhw ar y cychwyn fel clywon ni ar Bore Cothi gan Jamie Medhurst...
Rhaglen Dei Tomos - Teulu'r Faenol
mewn gwirionedd - in fact
anghyfreithlon - illigitimate
y wir gyfrinach - the real secret
diystyru - to discount
dim sail - no base
Ardalydd Môn - Marquis of Anglesey
murlun - mural
poblogaidd iawn - very popular
buddugions - the aristocrats
sefydlog - stable
Jamie Medhurst yn fan'na yn rhoi ychydig o hanes hysbysebion teledu i ni. Hanes gwahanol iawn gaethon ni ar raglen Dei Tomos sef hanes un o deuluoedd mwya cyfoethog Gogledd Cymru ers stalwm, teulu ystâd y Faenol. Dyma i chi glip sy'n sôn am hanes yr olaf o'r teulu i fyw ar y stâd, Sir Michael Duff a'i wraig Caroline. Buodd yna lawer o ddyfalu ynglyn â phwy mewn gwirionedd oedd eu mab Charles Duff. John Dilwyn Williams buodd yn dweud yr hanes...
Rhaglen Aled Hughes - Deian a Loli
penderfyniad ar y cyd - joint decision
datblygu - to develop
bydd hi'n chwith garw - it will be very strange
dyfalu - guessing
yr alwad - the call
mor benagored â hynny - as open ended as that
brwdfrydedd - enthusiastic
direidi - mischief
hwyl a sbri - fun
rhewi rhieni - freezing parents
Hanes diddorol teulu'r Faenol yn fan'na ar raglen Dei Tomos. Dach chi'n nabod plant bach sydd eisiau bod yn sêr teledu? Wel dyma eu cyfle gan fod y cwmni teledu Cwmni Da yn chwilio am ddau blentyn i actio rhannau Deian a Loli yn y gyfres boblogaidd i blant ar S4C. Angharad Elen o Cwmni Da buodd yn dweud mwy wrth Aled Hughes...
Bore Cothi - Dan Edwards Philips
cyfenw - surname
adnabyddus - famous
tu hwnt - beyond
parhau - continuing
trafodaeth - discussion
hen draddodiad - old tradition
maes - field (of work)
byd creadigol - creative world
sefydlu - to establish
wedi cydio - caught on
Cyfle da i sêr y dyfodol felly -. Angharad Elen o Cwmni Da yn sôn am y newidiadau i Deian a Loli. Mae Dan Edwards Philips yn briod ?'r gantores Gwawr Edwards, ond doedd yna ddim 'Edwards' yn rnan o'i enw yn wreiddiol. Pan wnaeth o benderfynu ychwanegu cyfenw ei wraig at ei enw o? Dyna oedd cwestiwn Shan Cothi iddo fo...
Manylu - Awtistiaeth
agwedd - attitude
ymosod - to attack
ar brydiau - occassionaly
cyfnod anodd - a difficult period
rhuthro - to rush
hyd heddiw - untill today
Dan Edwards Phillips yn esbonio pam bod 'Edwards' yn rhan o'i enw ar Bore Cothi. I orffen dyma Iris Williams o Lanerchymedd sy'n fam i Dylan Siôn, dyn ifanc ugain oedd sy'n awtistig. Mae Iris yn sôn am rai o'r problemau sy'n gallu codi i riant plentyn awtistig...
