Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
“S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Ffion Emlyn dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
...hanes dwy chwaer Cêt Haf a Felicity Haf gerddodd yr holl ffordd o Lundain i Aberystwyth mewn pythefnos. Roedden nhw'n trydar tipyn @GingaTrail yn ystod y daith ac mi wnaethon nhw groesi i Gymru ddydd Llun. Cyrhaeddon nhw Aberystwyth ddydd Mercher a chicio'r bar ar y prom i ddathlu! Mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Felicity, sydd yn y byw yn Llundain, nos Lun a gofyn iddi hi pam penderfynon nhw wneud y daith yma?”
Geraint Lloyd – Felicity Haf
trydar – to tweet
cynllunio dillad - designing clothes
arbenigo - specialise
byd cystadleuol - competitive world
maes - field (of work)
creadigol - creative
cyfleoedd da - good opportunities
hapus fy myd - contented with my lot
llwybr - path
trwy'r caeau - through the fields
"Felicity Haf yn fan'na yn siarad efo Geraint Lloyd am ei thaith o Lundain i Aberystwyth. Yr wythnos diwetha mi wnaeth Y Goruchel Lys benderfynu bod dim hawl gan rieni i dynnu eu plant o'r ysgol yn ystod y tymor er mwyn mynd ar wyliau, a dyma fuodd Taro'r Post yn ei drafod ddydd Llun. Mae Julian Jones o Fancffosfelen yn gyn-brifathro Ysgol Gynradd Llandeilo, a dyma fo'n rhoi ei farn mewn sgwrs efo Alun Thomas..."
Taro'r Post - Julian Jones
Y Goruchel Lys - The Supreme Court
dim hawl - no right
pwysau cynyddol - mounting pressure
cyflwyno - to present
absenoldeb - absenteeism
achwyn - to complain
cyfnod - period (of time)
cyflogau - wages
yn gwmws - exactly
tir yr ysgol - the school grounds
"Blas ar drafodaeth Taro'r Post yn fan'na ar dynnu plant allan o'r ysgol er mwyn mynd ar wyliau. Mae hi'n ugain mlynedd ers i Geraint Lloyd ddechrau darlledu ar Radio Cymru a bore Gwener Aled Hughes fuodd yn ei holi am ei atgofion o'r blynyddoedd hynny..."
Al Hughes - Geraint Lloyd
darlledu - to broadcast
atgofion - memories
pentwr - heaps
trigolion - residents
coelio - to believe
whilber - wheelbarrow
tystysgrif - certificate
parchus - respectable
Y Sioe Frenhinol - Royal Welsh Show
ffyddlon - faithful
"Atgofion Geraint Lloyd o weithio i Radio Cymru yn mynd â ni i Batagonia, Ras yr Wyddfa, Y Sioe Frenhinol a phrotest Cymeithas yr iaith. Diddorol ynde? Be ydy'r ffordd orau o goginio selsig? Ydych chi wedi cael y broblem o losgi tu allan y selsig ond heb goginio'r tu mewn yn ddigonol? Dyma'r broblem fawr oedd gan Trystan ab Ifan ac felly aeth o ati i wneud tipyn bach o ymchwil a thrio ffordd newydd o goginio efo sosejys y cigydd Dewi Evans o Ffairfach..."
Bore Cothi - Trystan ab Ifan
coginio selsig - cooking a sausage
ymchwil - research
ffwrn - oven
meddal - soft
yn ddiweddar - recently
yn glou - quickly
cyfarwyddiadau - instructions
amynedd piau hi - patience is a must
yn eitha cyson - fairly consistently
gwlybaniaeth - moisture
"Trystan ab Ifan yn fan'na yn coginio sosejys ar Bore Cothi, ond am 50 munud? Braidd yn hir yn tydy? Anfonwyd llun o neidr ddu at raglen Galwad Cynnar ddydd Sadwrn. Oedd y panel yn gwybod be oedd hi? Oedden wrth gwrs - y Wiber Ddu oedd yn y llun a dyma i chi Duncan Brown a Dr Gethin Thomas, Swolegydd o Brifysgol Abertawe yn sôn amdani..."
Galwad Cynnar - Dr Gethin Thomas
Y Wiber Ddu - Black Adder
Penrhyn Gŵyr - Gower Peninsula
benywod a gwrywod - feminie and masculine
y gwyllt - the wild
nadroedd duon - black snakes
y fantais - the advantage
llwyth ohonyn nhw - loads of them
yn dywyllach - darker
ddim mor dwym â hynny - not so warm
twymo lan - warming up
