Main content

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Geirfa 4ydd o Dachwedd 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Gari Wyn - Llŷr Williams

llong - ship

llwytho - to load

troedfeddi - feet (measurement)

llywio - to steer

arnofio - floating

anferthol - huge

llwyfan - stage

swyddogaeth - role

llacio - to loosen

fy nhyfrifoldeb i - my responsibilty

"...Llŷr Williams o Aberdaron yn sgwrsio efo Gari Wyn am long arbennig mae o'n gweithio arni. Ddim llong hwylio. na ryw long fordaith crand ydy hon ond llong sy'n gweithio i helpu codi'r tyrbinau gwynt mawr 'ma dan ni'n eu gweld yn y môr y dyddiau 'ma. Dyma Llŷr yn disgrifio'r llong i Gari..."



Rhaglen Gari Wyn - Ferrari

cyfleu - to convey

unigryw - unique

anhygoel o ddatblygiad - incredible development

fy nharo i - strikes me

gwerth - value

mwya gwerthfawr - most valuable

buddsoddiad - investment

yn grediniol - really believe

yn brinach - rarer

yn argyhoeddiedig - convinced

"...a dan ni'n mynd i aros eo Gari Wyn am y clip nesa ma. Ceir ydy prif ddiddordeb Gari ac mae ganddo garej gwerthu ceir ym Methel ger Caernarfon. Ond car arbennig iawn oedd yn cael sylw pan wnaeth Aled Hughes alw heibio - y Ferrari. Mae cwmni Ferrari yn dathlu penblwydd yn saith deg oed eleni a dyma i chi Gari yn rhoi ychydig o hanes y cwmni i ni..."



Dan Yr Wyneb - Y Gymraeg yn y Rhondda

yn amlwg - obviously

sefydlu - establish

rhoi stwr - ti give a row

mam-gu - nain

ysgrifenyddes - secretary (female)

uniaith - monolingual

traean - one third

mamiaith - mother tongue

menywod - women

oherwydd - because

"Aled Hughes yn amlwg yn hoff iawn o'r Ferrari yn fan'na. Mae yna ddau ddeg pum mlynedd ers i Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf gael ei sefydlu. Ond beth yw sefyllfa'r iaith yn y Rhondda erbyn hyn? Dyma oedd y cwestiwn roedd Dan yr Wyneb yn ceisio ei ateb ddydd Llun diwetha. Buodd Dylan Iorwerth yn holi'r cartwnydd Sion Tomos Owen, cafodd ei fagu yn y Rhondda, am sefyllfa'r iaith heddiw ac am y sefyllfa pan oedd yn blentyn... "



Georgia Ruth - Rosalind Lloyd

cyfle - opportunity

cyfweliad - interview

noson cynt - the previous evening

arholiadau - exams

dilyn - to follow

beth bynnag - anyway

ar goll - lost

myfyrwyr - students

gwisg - dress

pennill - a verse

"Darlun o sefyllfa'r Gymmraeg yn y Rhondda yn fan'na ar Dan yr Wyneb. Nawr te, mae 'na lawer o sylw wedi bod yn ddiweddar i Lloyd Macey buodd yn cystadlu ar X-Factor. Ond ydach chi'n cofio'r rhaglen dalent Opportunity Knocks gyda Hughie Green? Wel, roedd un o westai Georgia Ruth ar ei rhaglen nos Fawrth wedi cystadlu ar Opportunity Knocks ac wedi mynd yn eitha pell yn y gystadleuaeth, sef y gantores Rosalind Lloyd. Dyma hi’n sôn am ei phrofiad o gystadlu ar y rhaglen ... "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Effeithiau gor ymarfer mewn pel-droed

Nesaf

Banc Bwyd Clwb Pel-droed Prestatyn