Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 1af o Dachwedd 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Rhaglen Geraint Lloyd - Robin Huw Bowen

telynor - harpist

Y delyn deires - the triple harp

traddodiadol - traditional

yn ddiweddar - recently

Gwyl Werin - Folk Festival

mwncïod - monkeys

Gwarchodfa Natur - Nature Reserve

rargian! - crikey!

llwyfan - stage

dwyn - to steal

Ychydig o hanes y telynor Robin Huw Bowen. Mae Robin yn byw yn Aberystwyth, ac yn chwarae'r delyn deires yn broffesiynol. Telyn draddodiadol Gymreig ydy'r delyn deires a does dim llawer iawn o bobl yn medru ei chwarae. Aeth un o deithiau cerddorol Robyn â fe i India a dyma fe'n sôn ychydig am y daith honno gyda Geraint Lloyd.



Beti a'i phobol - Tiger Bay a'r Gymraeg

Yr Athro - Professor

cymaint o ramant - so much romance

tlodi - poverty

er gwell ac er gwaeth - for better and for worse

canolbwynt - centrepoint

Cardis - people from Ceredigion

eu denu nhw - to attract them

ychydig yn ddadleuol - slightly controversial

lle bedyddwyd ... - where ...was baptised

emynau Pantycelyn - Pantycelyn's hymns

Dw i'n siwr na fydd mwncïod yn dod ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol pan mae Robyn yn perffomio yno...Mae'r Athro Dylan Foster Evans, o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn dod o ardal Tywyn Gwynedd yn wreiddiol, ond mae diddoreb mawr gyda fe yn hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd. Dyma fe'n sôn wrth Beti Geroge am hanes yr iaith yn ardal Tiger Bay.



Aled Hughes - De Affrica

gwrthwynebwyr - opponents

ieithoedd swyddogol - official languages

estrys - ostrich

sharc morfil - whale shark

mwydyn/pry genwair - worm

cyfandiroedd - continents

trawsblaniad calon - heart transplant

gwobr heddwch - peace prize

Archesgob - Archbishop

enfys - rainbow

Hanes y Gymraeg yn ardal Tiger Bay Caerdydd yn fan'na ar Beti a'i Phobl. Roedd gêm fawr gan Gymru fore Sul yng Ngwpan Rygbi'r Byd a buodd Rhys ap William yn ol ei arfer yn chwilio am ffeithiau am wrthwynebwyr Cymru - De Affrica.



Awr Werin Lisa Gwilym - Hen Fegin

Hen Fegin - The Old Bellows

Hwyl i ti Ngwas - See you Mate

cynulleidfa - audience

sain - sound

cynulleidfa - audience

ar un ystyr - on one account

llai o bwysau - less pressure

disgwyliadau - expectations

Ond siom oedd hi yn y diwedd on'd ife? 19-16 i Dde Affrica- gêm agos iawn. Gwnaeth y band Hen Fegin lansio'i albwm cynta 'Hwyl i Ti 'Ngwas' nos Sadwrn diwetha yng Nghlwb Rygbi Meifod. Roedd dau aelod o'r band Roy Griffiths a Jac Gittins yn aelodau o'r band Plethyn yn y gorffennol. Gofynnodd Lisa Gwilym i Roy ym mha ffordd bydd y band hwn yn wahanol i Plethyn ac oedd e'n teimlo'n nerfus am y lansiad.



Cofio - Ufo LLangefni

oriau man - the early hours

lleuad llawn - full moon

profiad digon brawychus - quite a frightening expereince

digwyddiad - event

roedd pawb wedi dychryn - everybody was frightened

digwydd sbio fyny - happened to look up

anferth - huge

nifer o oleuadau - a number of lights

peth dieithr - a strange thing

Ac os dach chi eisiau clywed mwy o'r sgwrs a chael blas ar gerddoriaeth Hen Fegin ewch ar wefan Radio Cymru.



Galwad Cynnar - Gwiber

gwiber - viper

yn ara deg bach - very slowly

darn digon moel o dir - a bare piece of land

benywaidd - feminine

igam ogam - zig-zag

efydd - bronze

aflonyddu - to disturb

beichiog - pregnant

genedigaeth - birth

neidr y gwair - grass sanke

Hanes UFO Llangefni yn fan'na o archif Cofio. Roedd Iolo Williams ar Ynys Mull yn yr Alban ar gyfer rhaglen Galwad Cynner ac fel y clywon ni daeth e ar draws gwiber. Dyma fe'n disgrifio beth welodd e ac yn sôn dipyn am y wiber wrth wranawyr Galwad Cynnar.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Lerpwl, Neco Williams a Chwpan Carabao

Nesaf