Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 10/11/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Geraint Lloyd – Matt Guy

cogydd - chef

cymaint â medri di - as much as you can

y gyfrinach - the secret

rhesymol - reasonable

brifo - to hurt

priodasau - weddings

achlysurau arbennig - special occassions

bwydlen - menu

llefydd - places

cefnogi - to support

...sgwrs rhwng Geraint Lloyd a chogydd ifanc o'r enw Matt Guy. Mae Matt yn dod o Ddeiniolen yng Ngwynedd yn wreiddiol ac ar ôl treulio amser i ffwrdd yn dysgu ei grefft, mae o wedi dod yn ôl i'w ardal enedigol. Mae o newydd gael swydd yng Nghanolfan Reolaeth Prifysgol Bangor, ac fel y cawn ni glywed rwan, Matt sydd yn rhedeg y Ganolfan a'r bwyty 1884 sy'n rhan ohoni. Dechreuodd o'r sgwrs yma drwy sôn am daith ei yrfa, aeth â fo o Lanrug i Loegr ac rwan yn ôl i Wynedd...

Bore Cothi gyda Heledd Cynwal – Bryn Williams

her newydd - a new challenge

magwraeth - upbringing

sugno - to suck

parch - respect

profiad - experience

ar y pryd - at the time

canolbwyntio - to concentrate

sgynnot ti - sy gyda ti

anhygoel - incredible

yn y pendraw - in the end

Matt Guy oedd hwnna, cogydd ifanc yn sôn am yr her newydd sydd o'i flaen ac mae'n amlwg ei fod o am roi ei stamp ei hun ar fwyty Prifysgol Bangor yntydy? Mae'r clip nesa 'ma am gogydd hefyd, ond un profiadol ac enwog iawn - Bryn Williams, sy'n dod o Ddyffryn Clwyd yn wreiddiol ond sydd wedi gwneud enw iddo'i hun efo'i fwyty yn Llundain 'Odettes'. Fel Matt mae gan Bryn her newydd o'i flaen gan ei fod wedi agor bwyty ym Mae Colwyn eleni, ac mae o newydd lansio ei lyfr coginio Cymraeg cynta. Dan ni'n mynd i glywed rhan o'i sgwrs efo Heledd Cynwal ar Bore Cothi, lle mae Bryn yn sôn am sut y mae ei fagwraeth wedi effeithio ar ei yrfa broffesiynol...

Bore Cothi gyda Heledd Cynwal – Jasmine Wilson

pobydd - baker

hyfforddi - to train

safoni glanhau - cleaning standards

gwaith caib a rhaw - spade work

hyder - confidence

yn gwmws - exactly

anhrefn - disorder

balchder - pride

ymwybodol - aware

cysondeb o safon uchel - a high standard of consistency

Y cogydd Bryn Williams yn fan'na yn amlwg yn meddwl y byd o'r mentor gafodd o pan oedd o'n fachgen ifanc - y pobydd Alwyn Thomas. Sgwrs ddifyr arall ar raglen Heledd Cynwal oedd honno gyda Jasmine Wilson sydd yn rheoli Gwasanaethau Glanhau Cyngor Sir Ceredigion – neu fel galwodd Heledd hi – ‘Brenhines y Toiledau!’ Mae Jasmine yn un o’r rhai sydd yn cymryd rhan mewn rhaglen newydd ar BBC Cymru sef ‘Cardigan Bay Coastal Lives’. Dyma hi'n dweud ychydig o’i hanes wrth Heledd...

Rhaglen Dylan Jones – Barri Griffiths

yn hytrach na - rather than

y cyfle - the opportunity

cadw mewn cysylltiad - to keep in contact

llenwi rhan - to fill a part

rhestr - list

coblyn o hwyl - a lot of fun

corfforol - physical

elfen fawr - a big feature

hongian - hanging

cyfnod bach - a brief period

...a dan ni'n symyd rwan o Frenhines y Toiledau i 'Frenin y Reslo'. Mae Barri Griffiths o Borthmadog wedi bod ar y teledu yn aml, ond yn cael ei nabod fel Mason Ryan y reslar, yn hytrach nag fel Barri! Mae o'n wynebu her newydd hefyd, ond un dipyn gwahanol i heriau'r ddau gogydd Matt a Bryn. Mae Barri am stopio reslo, am ychydig beth bynnag, ar ôl iddo fo gael rhan yn sioe Cirque du Soleil yn Las Vegas. Pa mor wahanol fydd y gwaith hwn i'r reslo? Dyna un o'r cwestiynau ofynnodd Dylan Jones iddo fo...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dyfodol i ddyfarnwyr o Gymru.

Nesaf

Cyfoeth Cerddoriaeth Cymru