Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - Hydref 28ain - Tachwedd 2il 2018
Geirfa Podlediad i Ddysgwyr
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Sychedig Walia - Clwb Rygbi'r Aman
Sychedig Walia - Thirsty Wales
awyrgylch - atmosphere
mynd ma's - going out
pyllau glo - coal pits
dipyn o le - quite a place
yn or-lawn - overflowing
sawl blwyddyn yn ôl - several years ago
cyfnod - period
y noson gynt - the previous evening
gwynt cwrw - smell of beer
Clip bach o Sychedig Walia, cyfres lle mae Llion Williams yn edrych ar berthynas y Cymry gydag alcohol. Clywon ni ddarn am ardal Bethesda yn y gogledd wythnos diwetha, ond i'r de aeth Llion yr wythnos yma, i Glwb Rygbi'r Aman yng Nglanaman i sgwrsio efo rhai o fechgyn y Clwb.
Cofio - Norman a'r afr
arferion yfed - drinking habits
ymwneud ag anifeiliad - relating to animals
cyn-geidwad gafr - ex-keeper of the goat
Ffiwsilwyr Cymreig - Royal Welsh Fusiliers
magu - to rear
cyfrifol - responsible
y fyddin - the army
gwatsiad - to watch
cwningod - rabbits
pi-pi - to urinate
Rhai o fechgyn 'sychedig' Clwb Rygbi'r Aman yn fan'na yn sôn fel mae pethau wedi newid o ran arferion yfed yn y clwb dros y blynyddoedd. Roedd John Hardy wedi bod yn chwilio yn yr archif am straeon oedd yn ymwneud ag anifeiliaid. Dyma i chi un ohonyn nhw, lle roedd Norman Pritchard yn sôn am ei waith fel cyn-geidwad gafr y Ffiwsiliwyr Cymreig. Sgwrsio oedd o ar raglen Dafydd a Caryl a dyma i chi flas ar y sgwrs.
Rhaglen Richard Rees - Greg Lynn
y prif leisydd - the lead singer
unigryw - unique
bargyfreithiwr - barrister
casgliad - collection
atgofion - memories
ymarfer - rehearsing
mo'yn - eisiau
ar wahân i'r rhain - apart from these
cerddoriaeth - music
eitha trwm - quite heavy
Dyna i chi ychydig o hanes gafr y fyddin o archif Radio Cymru. Roedd yna fand roc Cymraeg yn y saithdegau, o'r enw Shwn. Roedd hwn yn fand roc go iawn a'r prif leisydd oedd Greg Lynn ac roedd ganddo lais unigyw. Bellach mae Greg yn fargyfreithiwr ac yn sidanwr, neu'n QC, ond mae o'n dal i berffformio efo'r band Hwntws sydd newydd gyhoeddi casgliad newydd o ganeuon. Dyma Greg yn sôn am ddyddiau Shwn ar raglen Richard Rees.
Beti a'i Phobol - Neville Evans
gwyddonydd - scientist
cyfrifol am - responsible for
ledled y wlad - throughout the country
dadlau - to argue
profiadau cynnar oes - early life expriences
magwraeth - upbringing
tomen o lo - a heap of coal
yn gyfoeth - a richness
ceir - cars
profiadau amrywiol - a variety of experiences
Greg Lynn oedd hwnna, y bargyfreithiwr oedd yn arfer bod yn seren roc yn y saithdegau. Neville Evans sydd yn cofio ei blentyndod yn y clip nesa. Gwyddonydd ydy Neville fuodd yn gweithio ym myd addysg ar hyd ei fywyd. Fe sy'n gyfrifol am y posteri o wyddonwyr Cymreig sydd i'w gweld mewn ysgolion ledled y wlad. Ond am ei blentyndod ym mhentref Gendros, Fforestfach ger Abertawe y buodd o'n sôn mewn sgwrs efo Beti George.
Gari Wyn - Dr. Glyn Elwyn
arbenigwr meddygol - medical expert
ail-briodi - to re-marry
gwartheg - cattle
creadur cystadleuol - a competetive creature
dylanwad - influence
Athro - Professor
mwya blaenllaw - most prominent
maes meddygol - the field of medicine
annibynnol - independent
saer coed - carpenter
A sgwrs efo gwyddonydd arall sydd yn y clip nesa, y Dr Glyn Elwyn o Sefydliad Dartmouth, New Hampshire. Cafodd Glyn ei fagu yng Nghapel Garmon, pentref bach yng Ngogledd Cymru. Aeth o i'r un ysgol a Gari Wyn a dyma fo'n sôn wrth Gari sut aeth o o'r ardal fach wledig honno i fod yn arbenigwr meddygol yn yr Unol Daleithiau.
Rhaglen Aled Hughes - Only Fools and Horses
mae'n amlwg - it's obvious
penderfynol - determined
llwyddo - to succeed
cynhadledd - conference
wedi dwyn - stolen
wedi meddwi - drunk
canlyn - courting
cyfarwyddwr - director
cynhadleddau - conferences
diwydiant - industry
Mae'n amlwg, yn tydy, bod profiadau Dr Glyn Elwyn pan oedd yn blentyn wedi ei wneud yn benderfynol o lwyddo. Taswn i'n enwi Del boy, Rodney, Trigger, Raquel, a Cassansdra wrthoch chi dw i'n siwr basech chi'n gwybod yn iawn mod i'n sôn am y gyfres gomedi Only Fools and Horses. Ond wyddoch chi bod yna gynhadledd yn cael ei chynnal bob blwyddyn gan ffans y gyfres? Cafodd cynhadledd eleni ei chynnal yn Hull ac un fuodd yno oedd yr actor o Gymru -John Pierce Jones. Buodd John yn actio yn y gyfres ac mi gafodd Heledd Cynwal glywed rai o'r straeon o du ôl i'r set gan John ar raglen Aled Hughes.
Rhaglen Geraint Lloyd - Côr y Porthmyn
neu beidio - or not
enwog - famous
casglu pres - collecting money
ychwaneg o ganeuon - additional songs
criw o hogia iawn - a good crowd of boys
achosion da - good causes
wrth ein boddau - in our element
Only Fools and Horses neu beidio, i lawer o Gymry mae John Pierce Jones yn fwy enwog fel Mr Picton yn C'mon Midffîld! Nos Lun gaethon ni gyfle i ddod i nabod a chael chydig o hanes Côr y Porthmyn o ardal y Rhewl, Dinbych yng nghwmni Erfyl Owen. Geraint Lloyd gafodd sgwrs efo fo.
Bore Cothi - Llau gwely
ymosod ar - to attack
gorfod sugno eu gwaed - have to suck their blood
llau gwely - bed bugs
Efrog Newydd - New York
arswydo - to frighten
cael gwared arnyn nhw - to get rid of them
anadlu - to breathe
llif - a saw
arllwys eu poer - pour their spit
arbenigwyr - experts
Côr y Porthmyn yn amlwg yn mwynhau perfformio, yn enwedig yn y dafarn! Ar Bore Cothi wythnos diwetha clywon ni straeon am greaduriaid sy'n ymosod ar bobl, ac sy'n gorfod sugno eu gwaed. Ond ddim stori am Galan Gaeaf oedd hon ond am rywbeth cyffredin iawn - llau gwely...Dr Hefin Jones fuodd in son amdanyn nhw.
