Main content

Cyprus v Cymru a buddugoliaeth i'r crysau cochion.

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Beth yw’r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap yw fy mod yn ei libart yn byw.

Ond nid dwy ddamwain a hap mae Cymru ar fin cyrraedd ffeinals Ewro 2016 yn Ffrainc.

Hwyrach nad yw hon ar fap yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn, ond drwy waith deallus a threfnus, parch ac edmygedd, mae Chris Coleman ac Osian Roberts wedi ein rhoi mewn sefyllfa ble bydd buddugoliaeth brynhawn Sul yng Nghaerdydd yn erbyn Israel yn sicrhau eu cyrhaeddiad yng nghystadleuaeth yr addewid yr haf nesaf.

Ond, os ydych wedi alaru ers talwm ar glywed grwn y Cymry bondigrybwyll, yn cadw sŵn, yna cadwch draw o stadiwm dinas Caerdydd ddydd Sul; bydd y croeso yn fyddarol, ac os daw'r fuddugoliaeth bydd yn Sul i'w gofio am byth.

Dyma Gareth a’i griw; dyma lyfnder a chyfoeth y chwarae ; dyma’r pasio, y taclo, yr awch a’r angerdd a wneir i mi simsanu braidd; ac meddaf i chwi, mae rhyw ysictod fel petai’n dod drosof i;

Ie, yn sgil brwdfrydedd a chenedlaetholdeb ein harwyr oll, mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron.

Fel côr mewn crysau cochion bydd cymanfa o gefnogaeth ar Sul caniadaeth cysegredig yn dathlu prydferthwch a mawredd ein hogia’ ni.

Dewch ‘laen Cymru;

Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf