Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Bore Cothi - Annette Bryn Parri
y gyfeilyddes dalentog - the talented accompanist (female)
teulu brenhinol - royal family
ffodus iawn - very fortunate
yn disgleirio fel canwr - shone as a singer
gwahoddiad - invitation
profiad - experience
tlws - beautiful
llawr - floor
mor gyfforddus - so comfortable
cartrefol - homely
Sgwrs ar Bore Cothi efo'r gyfeilyddes dalentog, Annette Bryn Parri. Fel y cawn ni glywed roedd hi'n arfer rhoi gwersi piano i Aled Jones ac oherwydd hynny gaeth hi gynnig mynd i Balas Kensington i gyfeilio i Aled o flaen y teulu brenhinol. Dyma Annette yn cofio digwyddiadau'r diwrnod hwnnw efo Shan Cothi.
Teulu - mamau
argraff - an impression
Dacw Mam yn Dwad - A Welsh children's song
beichiog - pregnant
blin - irritable
hollol ymwybodol - totally aware
gwyliadwrus - cautious
dy gorff di - your body
gwasgu - to squeeze
pen ôl - backside
pleserus - pleaureable
Annette Bryn Parri yn cofio cwrdd a'r teulu brenhinol ar Bore Cothi, a Diana yn amlwg wedi gwneud argraff fawr arni hi. Dydd Llun clywon ni ail raglen y gyfres 'Teulu'. ' Dacw Mam yn Dwad', oedd teitl y rhaglen ac mi gaethon ni flas ar sgyrsiau rhwng Mari Elen a mamau newydd oedd yn dod o bob ran o Gymru.
Stiwdio - Llwyd Owen
podlediad - podcast
rhwyd - net
dylanwadu - to influence
llofruddiaethiau enwog - a notorious murder
pioden - magpie
tramgwyddo - to offend
creadigol - creative
cadarnhaol - positive
diwylliant - culture
adlewyrchiau byd -eang - world-wide reflections
Mamau newydd o bob ran o Gymru yn rhannu eu profiadau yn y gyfres Teulu. Mae'r awdur poblogaidd Llwyd Owen wedi dechrau podlediad newydd, o'r enw "Does dim gair Cymraeg am random". Pam fod o'n meddwl bod angen gwneud hynny? Dyma fo'n esbonio ar Stiwdio nos Fercher.
Rhaglen Rhys Mwyn - Eleri Llwyd
ail-ryddhau - to re-release
Eisteddfod rhyng-golegol - Inter-college Eisteddfod
prin 'di gwawrio - hardly dawn
unawd - solo
coroni - the crowning ceremony
dan ei sang - full to the rafters
i'r dim - perfectly
asio - to blend
unigol - individual
y co(f) - the memory
Yr awdur Llwyd Owen oedd hwnna'n sôn am ei bodlediad newydd. Roedd Eleri Llwyd yn gantores poblogaidd iawn yn y saithdegau. Buodd hi'n canu efo'r grwp Y Nhw cyn iddi hi ddechrau canu ar ei phen ei hun. Mae Eleri am ail-ryddhau yr albwm ' Am Heddiw Mae Nghân'. Dyma hi'n sôn am ddyddiau cynnar perfformio efo'r band ac ar ei phen ei hun efo Rhys Mwyn...
Rhaglen Aled Hughes - Brenin Enlli
brenin Enlli - The King of Bardsey
dyna fu - that's what happened
gwadd y Cymry alltud - inviting the Welsh ex-pats
Llywodraethwr Tramor - Overseas Governor
Tynnu ei luniau fo - taking his picture
enwogrydd - fame
masnachu - commerce
yn unionyrchol - directly
hyd yn oed - even
enwogrwydd yn fyd -eang - world wide fame
Eleri Llwyd yn fan'na yn cofio'r adeg pan ddechreuodd hi ganu ar ei phen ei hun. Bore Mercher roedd na raglen arbennig gan Aled Hughes. Mi roedd o efo Dilwyn Morgan, Myrddin ap Dafydd ac Iestyn Tyne ar Ynys Enlli ym Mhen Llyn. Oeddech chi'n gwybod bod gan yr Ynys frenin ei hunan flynyddoedd yn ôl? Dyma Myrddin ap Dafydd yn dweud ychydig o hanes un brenin arbennig iawn o'r enw Love Pritchard.
Dewi Llwyd - Margaret Williams
llawdriniaeth - surgery
cymaint gwaeth - so much worse
y dagrau'n dwad - the tears starting
digwyddiad - event
mwya annifyr - most upsetting
cyhyd - as long as
rhoi'r gorau iddi - to give up on it
fedra i ddim cwyno - I can't complain
beirniadu - to judge
Y Babell Lên - The Literary Pavilion
Chwarae teg i Love Pritchard ynde, yn meddwl ei fod yn enwog yn Lerpwl! Y gantores o Frynsiencyn, Ynys Môn, Margaret Williams oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd fore Sul. Mae Margaret wedi bod yn gwella yn dilyn llawdriniaeth ar ol iddi hi gael deiagnosis o gansr. Yn y clip nesa cawn ni flas ar sut mae'r cyfnod anodd yma wedi effeithio ar ei bywyd hi, ac ar ei chanu.
