Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 4ydd o Chwefror 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Aled Hughes - Nerys Bowen

aelwyd di-Gymraeg - a non-Welsh speaking home

traddodiad - tradition

Ysgrifennu Creadigol - Creative Writing

sylweddoli - to realise

mam-gu - nain

cario clecs - gossiping

rhyfeddol - amazing

darnau - pieces

olion - remains

tad-cu - taid

Mae Nerys Bowen yn gwneud MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Wedi dysgu Cymraeg mae hi a chafodd ei magu yn y Rhondda ar aelwyd di-Gymraeg. Er hynny mae hi'n cofio bod ambell i draddodiad Cymraeg yn rhan o'i phlentyndod hi fel hel calennig, sef plant mynd o dy i dy dydd Calan yn gofyn am arian. Dyma Nerys yn dweud rhagor wrth Aled Hughes.



Rhaglen Rhys Mwyn - Super Furry Animals

tad balch - proud father

wedi casglu - had collected

deunyddiau - materials

llwyddiant - success

cymryd sylw - to take notice

gyrfaoedd - careers

bywoliaeth - livelyhood

o ddifrif - seriously

cloriau - (album) covers

tuedddu i - tend to

Nerys Bowen oedd honna yn sôn am ei phlentyndod yn y Rhondda. Tad balch sydd yn y clip nesa 'ma. Carl Clowes ydy tad Dafydd Ieuan a Cian Ciaran, aelodau o'r band Super Furry Animals. Mae Carl a'i wraig wedi casglu pob math o ddeunyddiau am y band dros y blynyddoedd ac wedi mynd a phump bocs ohonyn nhw i Archif Gerdd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Cawn gyfle yn y clip nesa 'ma i glywed Rhys Mwyn a Carl Clowes, yn sôn am yr adeg pan ddaeth y band yn enwog.



Rhaglen Ifan Evans - Pobol y Cwm

cyfres - series

profiad - experience

yn wirioneddol - really

golygwyr - editors

colur - make-up

bywyd newydd - a new life

awyr iach - fresh air

codi ysbrydion - lift the spirits

datgelu - to reveal

cynulleidfa - audience

Carl Clowes oedd hwnna yn sgwrsio gyda Rhys Mwyn am y Super Furry Animals. Pobol y Cwm ydy rhaglen mwya poblogaidd S4C. Mae Mark Roberts yn actio rhan Mathew Price yn y gyfres a gofynnodd Ifan Evans iddo fe sut brofiad ydy bod yn rhan o gyfres mor boblogaidd ac eiconig.



Beti a'i Phobol - Valériane Leblond

cyfforddus - comfortable

annog - to encourage

swil - shy

camgymeriadau - mistakes

dim ots da fi - I don't mind

egluro - explain

amyneddgar - patient

ymdrech - effort

Marc Roberts oedd hwnna yn rhoi syniad i ni o sut beth yw bod yn actor yn y gyfres Pobol y Cwm. Mae'r artist Valériane Leblond yn dod o Ffrainc yn wreiddiol. Yn y coleg, cwrddodd hi â Chymro o Langwyryfon yng Ngheredigion, ac erbyn hyn mae hi'n rhugl yn y Gymraeg. Buodd Beti George yn ei holi am y broses o ddysgu'r iaith.



Bore Cothi - Beatles

ychydig o gefndir - a bit of the background

yn ddiweddarach - later on

anhygoel - incredible

enwogrwydd - fame

godro nhw o'r egni - milked them of the energy

golygfa - scene

prin yn gallu - could hardly

(Gwlad)Groeg - Greece

llwyfan - stage

sain - sound

Valériane Leblon oedd honna, Ffrances sydd wedi dysgu Cymraeg yn wych. Mae yna hanner can mlynedd ers i'r Beatles berfformio gyda'i gilydd am y tro ola ar do swyddfeydd Apple yn Llundain. Ar Bore Cothi fore Fercher, buodd Euron Griffith, sy'n ffan mawr o'r grwp yn rhoi ychydig o gefndir y perfformiad hwnnw i ni.



Dan yr Wyneb - Misglwyf

gwirfoddoli - to volunteer

ae wahân - separate

misglwyf - period

wedi synnu - surprised

israddol - inferior

daeargryn - earthquake

tystiolaeth - evidence

neilltuo - to set apart

blawd - flour

cyffwrdd - to touch

Ychydig o hanes perfformiad ola'r Beatles yn fan'na gan Euron Griffith. Mae Ceri Philips yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac mae hi wedi bod yn gwirfoddoli yn Nepal ddwy waith. Cafodd Dylan Iorwerth sgwrs gyda hi ar Dan yr Wyneb am yr arfer yn Nepal o anfon merched i gytiau ar wahân pan mae nhw ar eu misglwyf. Oedd hyn wedi synnu Ceri?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Ffenestr Drosglwyddo