Main content

Geirfa Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: Mehefin 21, 2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Aled Hughes - cyfrineiriau

cyfrineiriau - passwords

di-ddiwedd - endless

anghofus - forgetful

na'i gilydd - than others

deiniadol - attractive

hacwyr - hackers

gwerthfawr - valuable

amddiffyn - to protect

cyfuno - to combine

cymhleth - complicated

...ac mae'n rhaid i mi gyfaddef, dw i'n dda i ddim am gofio fy nghyfrineiriau. Mae angen cyfrinair ar gyfer popeth erbyn hyn; y ffôn, y banc, y cyfrifiadur...mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd! Ac mae'n rhaid newid y cyfrinieiriau yma'n aml, yn llawer rhy aml i rhywun anghofus fel fi! Fore Mawrth, roedd Aled Hughes eisiau gwybod pa mor ddiogel oedd ei gyfrineiriau. Cafodd sgwrs gyda'r arbenigwr technoleg Bryn Salisbury, gan ei holi a oes 'na gyfrineiriau sy'n haws i’w hacio na’i gilydd?



Y Gerddorfa - Geraint Lewis a Rachel Podger

perfformiadau - performances

cerddorfa - orchestra

arweinyddes - conductor (fem.)

ffidil - violin

cyffredin - common

deunawfed ganrif - 18th century

cyfarwyddo - to direct

cenhedlaeth - generation

cyfoes - contemporary

llinynnau - strings

"Bryn Salisbury yn fan 'na gyda chyngor da ar sut i greu cyfrineiriau anodd i'w hacio ond yn hawdd i'w cofio! Ac o gyfrifiaduron i gerddoriaeth. Bnawn Sul mi wnaeth Heledd Cynwal gyflwyno'r rhaglen gyntaf o'r Gerddorfa gyda pherfformiadau gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn y rhaglen hon, roedd y cerddor Geraint Lewis yn trafod yr arweinyddes Rachel Podger. Mae hi'n arweinyddes arbennig iawn ac yn medru arwain concerto gan Vivaldi a chwarae'r ffidil ar yr un pryd. "



Beti a'i phobl - Rhuanedd Richards

gwleidyddiaeth - politics

aelodaeth - membership

testun - topic

prif weithredwr - chief executive

gweledigaeth - vision

uned - unit

rhaniad - division

heriau - challenges

mamiaith - mother tongue

cyfartal - equal

Ac os dach chi'n mwynhau cerddoriaeth glasurol, dach chi'n medru gwrando ar Y Gerddorfa bob pnawn Sul rhwng 2 a 4 o’r gloch. Wel, mae hi'n wythnos bwysig iawn ym myd gwleidyddiaeth. Gyda'r refferendwm ar aelodaeth Prydain yn Ewrop ddydd Iau, mae gwleidyddiaeth yn destun trafod poblogaidd ar hyn o bryd. Fore Sul, cafodd Beti George sgwrs gyda chyn brif weithredwr Plaid Cymru, Rhuanedd Richards, am ddyfodol y blaid. Mi wnaethon nhw siarad hefyd am brofiad Rhuanedd o fod y cyntaf yn ei theulu i fedru siarad Cymraeg.

Byd y Belles - Owain Fon Williams

gôl geidwad - goalkeeper

cyfrinachau - secrets

talentau - talents

straen - stress

chwareli - quarries

chwarelwyr - quarrymen

canwr - singer

synnwn i ddim - I don't doubt

Ac i orffen Pigion yr wythnos 'ma, rhaid sôn am bêl-droed, wrth gwrs! Wnaethoch chi weld Cymru'n curo Rwsio nos Lun? Tair gôl i ddim. Anhygoel! Ymlaen â ni i rownd nesa'r Ewros! Yn yr ail raglen o'r gyfres Byd y Belles, cafodd Nia Lloyd Jones sgwrs gyda Jane, mam y gôl geidwad Owain Fon Williams. Mae Owain yn dwad yn wreiddiol o Ben-y-groes ac yn chwarae i Inverness Caledonian Thistle, ond tybed be' mae o'n hoffi wneud yn ei amser sbâr? Dyma Jane i rannu rhai o gyfrinachau ei mab.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cymru ar frig y grwp

Nesaf