Yn sgil llwyddiant Geraint Thomas yn y Tour de France, mae llawer o Gymry wedi troi at y gwefannau cymdeithasol i greu rhestr o’r Cymry hynny sydd wedi cyflawni campau byd eang neu yn ceisio ystyried pa un ydi’r Cymro/Cymraes mwyaf llwyddiannus erioed ym myd y campau.
Ymysg yr enwau i gyd, sy'n cynnwys pobol fel Nicole Cooke, Gareth Bale, Tani Grey Thompson neu Gareth fe geir cyfeiriad yma ac acw at Billy Meredith .
Draw yn Amgueddfa Pêl Droed Cenedlaethol Lloegr, ym Manceinion, roedd yna araddangosfa o fywyd a dylanwad Billy Meredith i bêl droed. Roedd yr arddangosfa yn cynnwys lluniau o Meredith, bathodynnau, rhaglen a thiced o’r gem dysteb rhwng Manchester United a Manchester City, yn ogystal ag amlinelliad o’i fywyd.
Rheswm am y sylw yma oedd mai ai ar Orffennaf 30, 1874 y ganwyd Meredith ym mhentref bychan y Waun a oedd adeg honno, yn Sir Ddinbych.
Asgellwr oedd Meredith, a ddechreuodd ei yrfa gyda thîm y Waun (ble enillodd Gwpan Cymru) cyn symud i Northwich Victoria ac yna i Manchester City (ble enillwyd Cwpan Lloegr yn 1904) cyn newid ar draws y ddinas ac ymuno a Manchester United.
Ond doedd gyrfa'r Cymro ddim heb ei helynt, ac fe adawodd City yn dilyn honiadau gan gapten Aston villa (Alex Leake) ei fod yn euog o lwgrwobrwyo. Gwaharddwyd Meredith am gyfnod ac yn sgil yr ymchwiliadau fe ddarganfuwyd fod City wedi gordalu eu chwaraewyr, ac arweiniodd hyn ar wahardd dau chwaraewr ar bymtheg arall.
Gwerthwyd Meredith (yn ogystal â thri chwaraewr arall a gafodd eu gwahardd) gan City i United yn 1906 (a hynny mewn ocsiwn). Fodd bynnag, beth bynnag oedd colled City, cafwyd trysor yn Old Trafford wrth i'r Cymro helpu United i ennill pencampwriaeth Adran Gyntaf Cynghrair Loegr yn 1908, ac yna eto yn 1911, yn ogystal â Chwpan Lloegr yn 1909.
Roedd hefyd yn aelod o dîm Cymru a enillodd bencampwriaeth y gwledydd Prydeinig, am y tro cyntaf, yn 1907.
Ond roedd dylanwad Meredith yn ymestyn llawer ymhellach na’r cae pêl droed, a gan ei fod wedi cael ei effeithio gan farwolaeth chwaraewyr yn ystod eu gyrfaoedd, fe aeth y Cymro ati i helpu sefydlu Undeb y Chwaraewyr gyda’r amcan o sicrhau gwell amodau, telerau a chyflog i chwaraewyr pêl droed. Er bod y Gymdeithas Bel Droed yn Lloegr wedi gwrthwynebu’r mudiad yma, gan wahardd Meredith a'i gyfeillion am gyfnod, yn y diwedd cafodd yr Undeb ei adnabod ac mae hyn wedi arwain at yr hyn a adnabyddir heddiw fel Undeb y Chwaraewyr Proffesiynol.
Ar ddiwedd ei yrfa, chwaraeodd i United pan oedd yn 46, yn erbyn Derby County, (y chwaraewr hynaf erioed yn hanes y clwb) ac yna, ail ymunodd a City yn 1921, a fe sicrhaodd ei le yn hanes fel yr hynaf i chwarae dros Manchester City hefyd (yn 50 mewn gem yn erbyn Brighton yn 1924).
Enillodd 24 o gapiau i Gymru, gan sgorio un gol ar ddeg, mae'n parhau i ddal i record o fod y chwaraewr hynaf i chwarae dros Gymru. Roedd ei gem olaf i'w wlad ar Faes Highbury yn Llundain gyda Chymru yn cipio coron Prydain am yr ail dro wrth guro Lloegr o ddwy gol i un.
Tipyn o siom ydi nodi nad oes yna fawr o sylw yn cael ei roi i Meredith (y Dewin Cymreig) yma yng Nghymru. Mae plac iddo ar y wal ger y parc yn y Waun, ac un arall oddi mewn i glwb pel droed y Waun, ac roedd gan Amgueddfa Wrecsam Arddangosfa fechan o hanes Pel droed Cymru a oedd yn cynnwys cap Billy Meredith ar un adeg.
Ond yr wythnos diwethaf, ar wythnos pen-blwydd Billy Meredith, doedd ond distawrwydd.
Gyda’r Saeson yn colli eu pennau yn ystod Cwpan y Byd ac yn bloeddio fod ‘football’s coming home’ onid ydi'n bryd i ni yma yng Nghymru ddangos mwy o gydnabyddiaeth i gyfraniadau Billy Meredith, a'i bod yn hen amser i ni ddod a Billy adre' nol i Gymru a'i gydnabod fel arwr cenedlaethol?
