
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Nhrelew, Patagonia
Mae’n teimlo’n addas iawn mewn cyfnod lle mae Radio Cymru wedi cystadlu gyda chyfryngau’r byd i ddod â’n gogwydd ni ar ymosodiadau Paris i’n gwrandawyr ni, bod y Post Cyntaf yn cael sylw mewn trêl teledu ar hyn o bryd.
Y neges, yn syml, yw “O stepen drws i bendraw’r byd”. Mae’r trêl am y bobol sydd wedi rhannu’u straeon ar y Post Cyntaf dros y misoedd dwethaf - straeon personol, straeon reit wleidyddol, straeon sy’n golygu’r byd iddyn nhw. Chewch chi mo hynny wrth ddarllen y penawdau ar eich iPad neu’ch ffôn, a chewch chi mo straeon ni’r Cymry ar orsafoedd eraill chwaith. Dim ond ar y Post Cyntaf gewch chi hynny.
Dau gwestiwn nawr:
Oes, am 12.30 ar bnawn Gwener ar Radio Cymru! Dyma gyfres newydd yn dechre gydag Idris Charles, Dafydd Iwan a Caryl, wrth i’n Taith Siopau Llyfrau ddod i ben yn siop Bys a Bawd Llanrwst gyda Tudur Owen ar ôl wythnos o ymweliadau gan Bore Cothi - rhaglenni andros o gynnes eu sain o un pen o Gymru i’r llall.
Yr ail gwestiwn:
Oes ’na arian gan y Canghellor ar ôl? Mi fydd ’na rifyn arbennig o Taro’r Post ddydd Mercher wrth i George Osborne gyhoeddi pa mor dywyll yn union yw’r twll du. Diolch iddyn nhw, gyda llaw, am eu rhaglen ar y dadleuon o gwmpas ffrydio cerddoriaeth Gymraeg. Wrth sgwennu, dwi’n llythrennol yn gwrando ar Aled a Reg - dewis Fy Rhaglen I o raglen Geraint Lloyd, ac yn darllen neges Trydar am raglen Georgia Ruth ac archif Prifysgol Santa Barbara o hen sylindrau cwyr gan gynnwys rhywbeth yn Gymraeg o 1920.
Dim ond ar Radio Cymru glywch chi’r fath ystod.
I ddod:
Steddfod y Ffermwyr Ifanc nos Sadwrn, a chyfres newydd Twm Morys, Tai Potas Cymru. Mae’n dechre nos Sul yn Aberdaron... a cofiwch am gyngerdd Ghazalaw mewn rhifyn arbennig o’r Sesiwn Fach bnawn Sul o’r Tabernacl ym Machynlleth.
Cyn mynd, tri chyfraniad gyffyrddodd a fi:
Y cyntaf - sgwrs Alaw Griffiths ar Stiwdio am gelf a salwch meddwl. Fe gerddes i fewn i’r stiwdio ar ddamwain tra bod Nia’n recordio, felly on i’n gwrando gan boeni mod i wedi tarfu ar lif y sgwrs. Wnes i ddim. Odd hi’n sgwrs ardderchog, un o’r rheiny lle chi’n sylweddoli bod hi’n fraint bod pobol yn fodlon rhannu pethau mor ddwys a mor bersonol gyda Nia, gyda ni ac felly, gyda phawb.
Yr ail - Tony Bianchi ar Beti a’i Phobol. Eto, pan yw pobol mor feddylgar yn fodlon rhannu stwff gwirioneddol anodd, mae’n amhosib stopio gwrando.
I gloi, rhaglen am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ym Mhatagonia. Fe ddywedodd rhywun wrtha i nad on nhw wedi bwriadu gwrando arni, am nad on nhw wedi meddwl y byddai’n ddiddorol iawn - y fath onestrwydd! - ond eu bod nhw wedi gwrando yn y car ac wedi mwynhau’n aruthrol. Ron nhw’n iawn. Mae’n rhaglen wedi’u gweu yn ffantastic, a wir yn rhoi syniad i chi o lawenydd a chynnwrf pobol Patagonia wrth wrando ar gerddorfa lawn am y tro cyntaf.
