Main content

Achubiaeth Casnewydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dyma beth a ddwedais bythefnos yn ôl yn y Blog yma:-

“...mae’r pwysau ar Gasnewydd i gyflawni'r hyn dwi eisoes wedi credu y gallant eu cyflawni, sef ennill eu dwy gêm gartref, yn erbyn Accrington Stanley ... a Notts County .... Mae gem oddi cartref yng Nghaerliwelydd rhwng y ddwy yna, ac mae Caerliwelydd, ar hyn o bryd yn chwilio am ddyrchafiad drwy'r gemau ail gyfle...”

Do, fe ddaeth y fuddugoliaeth yn erbyn Accrington, ac na, ond fel y disgwyl, daeth dim o’r daith i Gaerliwelydd.

Ond, gyda Hartlepool yn gwneud smonach o bethau, mae hyn wedi gadael Casnewydd yn gwybod y byddai buddugoliaeth dros Notts County yfory yn sicrhau eu haelodaeth o Adran Dau. A gyda saith mil o gefnogwyr yn ymddangos yn barod i’w cefnogi ar Rodney Parade ( gan ofyn y cwestiwn ble ‘dach chi ‘di bod tan ‘rŵan?) - fe fydd yna awyrgylch unigryw o gwmpas y lle.

I dîm a oedd un pwynt ar ddeg o ddiogelwch cyn penodiad Mike Flynn fel rheolwr, mae’r atgyfodiad yn anhygoel.

Ond, fe all gobeithion Casnewydd ddibynnu hefyd ar ddigwyddiadau mewn mannau eraill. Os gall Doncaster, sydd yn ceisio cipio'r goron yn Adran Dau, guro adre yn erbyn Hartlepool, yna ni fydd angen inni boeni am ganlyniad Casnewydd, bydd popeth yn ddiogel.

Yn wir, gyda Hartlepool ar dri phynt ar ddeugain a Chasnewydd uwch eu pennau ar bum pwynt ar hugain, fe fyddai gem gyfartal rhwng Doncaster a Hartlepool yn ddigon da i gadw Casnewydd yn Adran Dau beth bynnag a ddigwydd ar Rodney Parade.

Daw hyn ac atgofion o sefyllfa Casnewydd fel ag yr oedd hugain mlynedd yn ôl o dan reolaeth Colin Addison, pan gymerodd yr awenau gyda Chasnewydd wyth pwynt oddi ar ddiogelwch ar waelod yr hen Drydedd Adran. Yna cafwyd pum buddugoliaeth yn olynol, gyda buddugoliaeth o un gôl i ddim adref yn erbyn Workington yn sicrhau dyfodol Casnewydd yn yr adran.

Ond, ar y presennol mae'r sylw yfory, a gyda Chasnewydd wedi gweld rhediad guro adref ers dechrau'r flwyddyn, mawr yw'r gobaith yn bydd llwyddiant o flaen y tîm a'r dorf yfory. Ar y llaw arall, fe lwyddodd Notts County i ennill draw yng Nghaerliwelydd yn ddiweddar, er nad ydynt wedi ennill unrhyw un o'u pedwar gem yn dilyn hyn.

Prynhawn nerfus felly ar Rodney Parade a phawb a'i set radio yn cadw clust ar y digwyddiadau draw yn Doncaster ar yr un adeg.

Tybed a allai dweud .. "ddeudes i do" am bump o'r gloch brynhawn Sadwrn?

Mae Glyn Griffiths yn flogiwr rhaglen Ar Y Marc.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf