Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 28/09/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

WLPAN - 40 oed

dwys - intensive

arbrawf - experiment

pa hyd? - what length (of time)

cysgod - shadow

cyflawni - to accomplish

ta waeth - whatever

sgerbwd - a skeleton

yn frwd - enthusiastic

o blaid - in favour of

yn wirfoddol - voluntarily

...mae cyrsiau WLPAN yn bedwardeg oed eleni, ac mewn rhaglen arbennig mi fuodd Radio Cymru yn cofio'r cyrsiau Wlpan cyntaf yn Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, ym Mil Naw Saith Pump. Fel y cawn ni glywed yn y clip yma roedd Chris Rees yn ffigwr pwysig iawn yn natblygiad cyrsiau WLPAN, cyriau dwys iawn. Cafodd Chris ei fagu yn Abertawe a Saeneg oedd iaith y cartref ond mi ddysgodd Cymraeg ei hun pan oedd yn fachgen ifanc. Dyma Gwilym Roberts, un o tiwtoriaid gwreiddiol yr WLPAN yn sôn am y cwrs haf cyntaf gafodd ei gynnal yn Llambed...

WLPAN - Chris Jones

profiad - experience

dishgwl (disgwyl) - expecting

yr eirfa - the vocabulary

holi - to ask

ail-adrodd - repetition

yn dawel - quietly

cwrdd - cyfarfod

ffili - methu

Gwyddeleg - Irish language

Gwilym Roberts, un o diwtoriaid gwreiddiol y cwrs Wlpan yn fan'na yn sôn am y cyrsiau cynta gafodd eu cynnal. Roedd y cyrsiau yma'n wahanol iawn i'r cyrsiau Cymraeg eraill oedd ar gael yn y saithdegau, ond sut brofiad oedd y cyrsiau hyn i'r dysgwyr? Roedd Chris Jones yn un o ddeuddeg aeth ar y cwrs dwys Cymraeg cyntaf yng Nghaerdydd, cyn symud ymlaen i weithio i’r Mudiad Ysgolion Meithrin. Buodd hi yn dysgu'r cwrs Wlpan fel tiwtor hefyd a dyma oedd ganddi hi i’w ddweud am y cwrs cyntaf hwnnw...

Post Cyntaf - Takeshi Koike

buddugoliaeth anhygoel - incredible victory

ond yn hytrach - but rather

cwympo mewn cariad - to fall in love

Prifysgol - University

myfyrwyr - students

acw - over there

llenyddiaeth - literature

Chris Jones yn fan'na yn rhoi blas i ni ar y cyrsiau Wlpan cynnar. Fedrwn ni ddim peidio â sôn am Gwpan Rygbi’r Byd yn y podlediad yma na fedrwn? Ond dan ni ddim yn mynd i sôn am fuddugoliaeth anhygoel Cymru yn erbyn Lloegr, ond yn hytrach y fuddogoliaeth anhygoel arall yn y gystadleuaeth hyd yn hyn - Japan yn curo De Affrica. Stori fawr ynde, ond fasai Radio Cymru yn medru dod i hyd i rywun o Japan oedd yn gallu siarad Cymraeg? Wrth gwrs, dim problem! Dyma i chi Dylan Jones yn sgwrsio gyda Takeshi Koike, sydd wedi dysgu Cymraeg ar un o gyrsiau Wlpan Chris Rees yn Llambed ac sy’n byw nawr yng Ngogledd Tokyo...

Shorts Huw - Cwpan Rygbi’r Byd

rhyngwladol - international

paratoad - preparation

pwy a ŵyr - who knows

whare - chwarae

maswr - outside half

of(a)n - afraid

tu fas - outside

tu cefn - amongst the backs

Da ynde - chwedeg o bobl yn dysgu Cymraeg yn nosbarth Takeshi Koike yn Tokyo. Ac yn ôl Takeshi mae'r Gymraeg yn haws na'r Saesneg i'w dysgu! Dach chi'n cytuno efo hynny? Dan ni'n mynd i aros efo Cwpan Rygbi’r Byd am yr eitem ola yma. Clive Rowlands oedd rheolwr tîm Cymru yng nghystadleuaeth gyntaf Cwpan Rygbi’r Byd ym Mil Naw Wyth Saith, yn Seland Newydd ac Awstralia. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Clive gyda Huw Llywelyn Davies lle mae'n nhw'n siarad am y gwahaniaeth rhwng timau rygbi rhyngwladol yr adeg hynny a rhai'r dyddiau hyn...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y diweddara o'r Cae Ras.