Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - 11 Chwefror 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Heledd Cynwal - Eleri Sion

rheoliadd - regularly

wythnosol - weekly

hel atgofion - to share memories

llefydd tân - fireplaces

silff ben tân - mantlepiece

anffawd - misfortune

siglo mhen ôl - shaking my backside

pais - pettycoat

"...efo silff ben tân Eleri Sion. Os dach chi'n gwrando'n rheoliadd ar raglen Heledd Cynwal mi fyddwch chi'n gwybod bod ganddi eitem wythnosol 'Silff ben tân' lle mae gwestai'r rhaglen yn aml iawn yn hel atgofion sy'n ymwneud â llefydd tân eu cartrefi. Yn y clip yma mae Eleri yn sôn am ddamwain gafodd hi pan oedd hi'n blentyn wrth chwarae o gwmpas y tân..."



Dafydd a Derfel - Eastenders



ias i lawr dy gefn - a shiver down your spine

wastad - always

cyfnod o wallgofrwydd - period of madness

enwogrwydd - fame

anhygoel - incredible

newid yn llwyr - to change completely

pennod - episode

dychrynllyd - frightening

rhoi cyngor - to give advice

goroesi - to survive

"Felly y wers yn fan'na ydy : byddwch yn ofalus cyn siglo eich pen ôl o flaen y tân! Druan o Eleri ynde? Ydach chi'n gwylio 'Gwaith Cartref' ar nosweithiau Sul? Mae hi'n un o raglenni mwya poblogaidd S4C ar hyn o bryd. Daeth un o'r actorion i gael sgwrs efo ni ar raglen Dafydd a Derfel ddydd Iau. Richard Elis oedd o, a fo ydy Wyn, un o'r athrawon, yn y ddrama. Ond wyddoch chi bod Richard wedi actio yn Eastenders am dair blynedd? Huw oedd enw'r cymeriad yn yr opera sebon yna, a dyma Richard yn rhannu rhai o'i hanesion ar set y rhaglen..."



Cofio - BBC

cyn-bennaeth Adran Adloniant - former head of Entertainment

sêr - stars

yn eithriadol - exceptionally

trosglwyddo - to pass on

cyfrwng cyfoes - modern media

methiannau - fairlures

hynod o amryddawn - extremely versatile

cymeriadau cig a gwaed - real life characters

hunanbwysig - self important

cefndir - background

"Pwy fasai'n meddwl bod yna 'gangiau' ymhlith actorion Eastenders ynde? Gang Wendy a gang Barbara! Fel bod yn ôl yn yr ysgol yntydy? Mae Eastenders wrth gwrs yn un o raglenni mwya llwyddiannus y BBC, ac edrych yn ol ar hanes BBC Cymru wnaeth 'Cofio' ddydd Sadwrn gan ei bod yn dathlu ei phenblwydd yn hanner cant eleni. Dan i'n mynd i glywed rhan fach o'r rhaglen sef sgwrs o'r wythdegau rhwng Beti George a Meredydd Evans, ar rhaglen Beti a’i Phobol. Cafodd y sgwrs ei chlywed yn wreiddiol yn ôl ym mil naw wyth pump. Mae Meredydd Evans yn gyn-bennaeth Adran Adloniant y BBC, a dyma fo'n sôn wrth Beti am un o sêr y BBC yng Nghymru yn y chwedegau a'r saithdegau - Ryan Davies..."



John Hardy - Edwyn Jones

y fyddin - the army

iaith brin - rare language

plwyf - parish

Porthaethwy - Menai Bridge

ffraeo - to agree

cystadlu - to compete

unawd - solo

yn y gwaed - in the blood

caneuon traddodiadol - traditiomnal songs

gor'o mynd - got to go

"Ia, Ryan Davies, un o dalentau mwya byd teledu Cymraeg. Dan ni am symud o Gymru rwan i ynys Guernsey. Mae Edwyn Jones yn byw ar yr ynys ers mil naw pedwar saith. Symudodd o i fyw yno ar ôl bod yn y fyddin. Ond fel y cawn ni glywed dydy o ddim wedi colli ei Gymraeg o gwbl. Ar ben hynny mae o wedi codi ychydig o iaith arbennig yr ynys, ac yn y clip yma mi gawn ni i gyd ddysgu sut i siarad am y tywydd yn yr iaith honno. Ddim yn aml dan ni'n cael y cyfle i glywed dim o'r hen iaith yma naci? Felly gwandewch ar y clip ola 'ma a mwynhewch clywed yr iaith brin hon a chlywed un o hen ganeuon yr ynys..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

David Taylor a'r Esgid Aur

Nesaf

Gatland a’i griw o dan bwysau