Main content

Wrecsam yn Wembley

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dwi wedi bod yn Wembley nifer o weithiau yn y blynyddoedd diweddar.

Rownd gyn-derfynol Cwpan Lloegr rhwng Everton a Lerpwl y llynedd, ac yr un achlysur dwy flynedd ynghynt - Everton a Manchester United y tro hwnnw.

Dwi hefyd wedi gweld Abertawe yn sicrhau eu lle yn Uwchgynghrair Lloegr yno, yn ogystal â nifer o gemau yn Nharian Elusennol y Gymdeithas Beldroed.

Y tro cyntaf imi fod yno oedd I weld Gemau Cwpan y Byd yn 1966. Saith punt a deg swllt am ddeg ticed - a’r ticed i'r ffeinal yn costio un bunt a pymtheg swllt.

Roedd fy Mam yn methu credu fod rhywun wedi talu cymaint i weld un gêm beldroed!

Ond ddydd Sul fe fyddaf yn ôl yn Wembley i fod yn rhan o achlysur unigryw arall - mae Wrecsam ar eu ffordd I’r pencadlys, a’r cefnogwyr yn gobeithio fod y bêl ar ei ffordd i mewn i'r gôl, gôl, i mewn i'r gôl!

Tydi gweld tîm o Gymru yn Wembley yn ddim byd newydd erbyn hyn - tipyn o arferiad hwyrach – neu rhywbeth i'w ddisgwyl hyd yn oed!

Mae Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe wedi dod yn hen gyfarwydd â’r lle erbyn hyn - a bydd y Dreigiau yn gobeithio codi Tlws Cymdeithas Beldroed Lloegr a dod yn ôl i ogledd Cymru gyda o leiaf £200,000 yn sgil yr ymddangosiad hanesyddol yma.

Credir y bydd yna o leiaf 20,000 o gefnogwyr yn gwneud y daith, ac yno fydda innau hefyd. Mae’r ticed gennyf a bydd yr awyrgylch yn siŵr o fod yn drydanol, er na fydd Wembley yn llawn dop. Ond trïwch chi ddweud nad yw hon yn gwpan bwysig i’r Cymry.

Dwi eisoes wedi clywed pobol sydd heb fod ar gyfyl Cae Ras Prifysgol Glyndŵr yn son am eu paratoadau ar gyfer y penwythnos - ac mae’r dref a’r fwrdeistref, gogledd a chanolbarth Cymru yn gwneud yn fawr o’r achlysur.

Does ond gobeithio fodd bynnag na fydd yr achlysur unigryw yma yn amharu ar ymdrech y clwb i sicrhau dyrchafiad i Adran Dau. Gyda’r gêm yn erbyn Mansfield wedi ei gohirio ganol wythnos, hwyrach y daw Wrecsam i brofi'r un broblem a Chasnewydd yn y Gyngres, sef gormod o gemau i'w chwarae mewn amser byr.

Tasg anodd i dimau sydd yn chwilio am ddyrchafiad.

Yn y cyfamser, mae’r sylw Wrecsam ar Wembley.

Bydd prynhawn Sul yn achlysur unigryw- anghofio am y dasg o ennill dyrchafiad am un diwrnod, gan obeithio y cawn weld llwyddiant i dîm arall o Gymruar faes cenedlaethol y Saeson.

“Come On Cymru” fydd hi eto brynhawn Sul ynghyd a’r gefnogaeth i dîm "Y Rec-sam .. y Rec-sam"

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr - Geirfa 22 Mai 2013

Nesaf

Llongyfarchiadau i Wrecsam