Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Gari Wyn - Owen Derbyshire
arloesol - innovative
y trywydd - the route
gwerthfawrogi - appreciate
trafferthion - problems
adnoddau - resources
datblygu - to develop
y profiad angenrheidiol - the necessary experience
ddim mor ddifrifol - not as serious
sylfaen - foundation
datrys problem - resolving problems
Blas ar sgwrs gafodd Gari Wyn gyda Owen Derbyshire o Gaerdydd.
Gadawodd Owen y brifysgol ar ol 3 mis yn unig, ond erbyn hyn mae o'n rhedeg sawl busnes llwyddiannus.
Mae o dal yn ei ugeiniau a dyma fo'n sôn wrth Gary am sut dechreuodd o ei fusnes cynta erioed.
Beti a'i Phobol - Arwyn Groe
cyflwyno'r gynghanedd - introducing the cynghanedd
y diweddar - the late
yn gyfarwydd iawn - very familiar
gwthio - to push
odli - to rhyme
hybu - to promote
hwiangerddi - nursery rhymes
hyd at surffed - ad nauseum
pennill penodol - a specific verse
ddim yn weddus iawn - not very appropriate
Owen Derbyshire oedd hwnna'n sôn am sut gychwynodd o ei fusnes cynta.
Mae Arwyn Groe yn ffermwr ac yn fardd o Ddyffryn Banw yng Ngogledd Powys.
Mae o'n feistr ar y gynghanedd, sef set o reolau mae'n rhaid cadw atyn nhw wrth sgwennu math arbennig o gerdd.
Mae hi'n eitha anodd dysgu'r rheolau yma ond mae Arwyn am eudysgu i'w blant.
Dyma fo'n sôn am hyn mewn sgwrs efo Beti George.
Y Talwrn - y sgan
cyfrinach - secret
gwyrth fyw - a live miracle
anferth o fach - enormously small
gofidion llon - joyous concerns
dychryn - fright
balchder a pryderu - pride and worry
braw - terror
a charlam ein bron - our rapid heartbeats
cysgodion - shadows
yn fudan - dumbstruck
Ac un arall sy'n feistr ar y gynghanedd ydy Rhys Iorwerth ac ar Talwrn y Beirdd wythnos diwetha darllenodd o gerdd yn disgrifio ei deimladau o a theimladau ei wraig wrth iddyn nhw weld sgan deuddeg wythnos eu babi cynta.
Recordiau Rhys Mwyn - Eliffant
unigol - individual
gafodd ei ryddhau - which was released
cynhyrchu - to produce
hartan - heart attack
clawr - cover
gwerth ei gael - worth having
elfennau - elements
y cyfnod yna - that period
cyfansoddi - to compose
dehongli - to interpret
Cerdd arbennig iawn gan Rhys Iorwerth yn fan'na ar Talwrn y Beirdd.
Y canwr Geraint Griffiths oedd gwestai arbennig Rhys Mwyn wythnos diwetha.
Roedd Geraint yn rhan o'r band Eliffant a hefyd yn aelod o'r supergroup Injaroc, a nifer o fandiau eraill cyn iddo ddechrau canu ar ben ei hun.
Dyma fo'n sôn am un o'i albymau unigol 'Madras' gafodd ei ryddhau yn 1984.
Geraint Lloyd - Manon Davies
gwirfoddoli - to volunteer
ffoaduriaid - refugees
Gwlad Groeg - Greece
gwneud lles - to do good
cydbwysedd - balance
diodde - to suffer
cefnogwyr - supporters
dodrefnu - to furnish
ffeind - kind
digon rheolaidd - regularly enough
Rhys Mwyn oedd hwnna'n sgwrsio efo'r canwr Geraint Griffiths.
Roedd hi'n wythnos gwirfoddoli rhwng y 1af a'r 8fed o Fehefin ac mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Manon Davies o Fangor, sydd yn gwirfoddoli i elusen Pobl i Bobl ers rhyw flwyddyn a hanner.
Mae'r elusen yn anfon dillad a chymorth ariannol i ffoaduriaid yn Syria, Lebanon, Gwlad Groeg, Ffrainc a'r Rhohingya yn Bangladesh.
Maen nhw hefyd yn cefnogi ffoaduriaid sy'n byw yn lleol.
Melin Bupur - Catherine Tregenna
cysylltu â - to contact with
enwog - famous
llwyfan - stage
barddoniaeth - poetry
nodweddiadol - typical
elfennol - elementary
cyfleu - to convey
yn or-emosiynol - over emotional
cyd-ysgrifennu - to co-script
cyfres - series
Roedd Catherine Tregenna yn enwog am chwarae rhan Kirsty McGurk ar Pobol y Cwm yn yr 80au a'r 90au, ond erbyn hyn mae hi wedi gwneud enw iddi hun fel un sy'n sgriptio dramâu.
Mae hi wedi sgwennu sawl rhaglen deledu... fel Doctor Who, Casualty a Belonging i enwi ond ychydig!
Dyma hi'n sôn ar Melin Bupur am sut dechreuodd ei diddordeb mewn drama.
