Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Cofio - Parti
her - a challenge
geiriau mwys - ambiguous words
llwm - bleak
rhy dlawd - too poor
mo'yn - eisiau
pyst - posts
yn feddw twll - totally drunk
wysg ei gefn - backwards
di dal hi - drunk
camp Harri - Harry's talent
"...fuoch chi mewn parti dros y Nadolig? Do? Bosib iawn bod yna bob math o ddiodydd ar gael yno, cwrw, wisgi a lemoned falle. Wel dyna'r math o barti oedd Ifan Gruffydd a Dewi Pws yn ei ddisgrifio yn y rhaglen Pwl Bach Arall. Cafodd y rhaglen yma ei chlywed gynta yn Nwy Fil a Dwy, ond mi gaethon ni'r cyfle i glywed perlau Dewi ac Ifan unwaith eto ar 'Cofio' ddydd Sadwrn diwetha. Yr her i Dewi ac Ifan oedd defnyddio geiriau mwys er mwyn cael cymaint o enwau diodydd ag oedd yn bosib, a hynny wrth sôn am barti. Faint o enwau diodydd medrwch chi eu nabod tybed? "
Manylu - refferendwm
annibynniaeth - inependence
deunaw mlynedd - 18 o flynyddoedd
a gyhoeddwyd - which was published
pwyso a mesur y dadleuon - to weigh up the arguments
o blaid - in favour of
y frenhiniaeth - the monarchy
trethi - taxes
o ddifri - seriously
gwladgarol - patriotic
yn dwyshau - intensifying
"Glywoch chi'r gair 'wisgi' yn fan'na yn rhywle? Ynysoedd yr Alban ydy un o'r llefydd gorau yn y byd am wisgi wrth gwrs a dyna lle yr awn ni rwan - i Ynys Bute. Aeth 'Manylu' yno i siarad efo rhai o'r Cymry sydd yn byw yno i weld be oedden nhw'n ei feddwl am y refferendwm fydd yn cael ei gynnal yn yr Alban eleni. Yn y clip mi gawn ni glywed barn athrawes o Geredigion, Margaret Brandy ac wedyn y Parchedig John Owain Jones sy’n byw yn yr Alban ers dros dau ddeg pump o flynyddoedd ac yna John a Beryl Fisher..."
Sgersli Bilif - Mynwent Casmael
mynwent - cemetary
effeithio yn andwyol - drastic effect
y Gwyddelod - The Irish
Coed Yw - Yew trees
hylif coch - red liquid
gwaedu - bleeding
crogi ar gam - wrongly hung
dialedd am y camwri - revenge for the wrong
tir cysegredig - sacred land
meini beddrod - gravestones
"Dw I'n siwr y byddwn ni'n clywed llawer mwy am y refferendwm yn ystod y flwyddyn nesa ma. Rwan ta, be ydy'r cysylltiad rhwng y gôg, neu'r gwcw, mynwent, gwaed a choeden? Mi gewch chi'r ateb drwy wrando ar y clip nesa 'ma o'r rhaglen 'Sgersli Bilif'. Aeth Aled Sam i fynwent Eglwys Nanhyfer ger Trefdraeth yn Sir Benfro a sgwrsio efo Alun Evans o Gasmael. Dyma Alun yn dweud wrth Aled am rai o straeon y fynwent..."
Huw Stephens - bandiau ifanc
dod i'r amlwg - to become prominent
anhygoel - incredible
digon o sylw - enough attention
cyfryngau - media
un orsaf genedlaethol - one national radio station
yn fyw - live
egni - energy
dychmygu - to imagine
allan o'u cragen - out of their shell
"Wnaethoch chi sylwi ar y ffordd ddwedodd Alun 'oer. oer, oer,' yn fan'na? Ie 'wer, wer, wer' glywoch chi debyg, a dyna i chi rwan wedi clywed acen hyfryd Sir Benfro. Be am i ni symud i fyd cerddoriaeth nawr, a gofyn pa fandiau Cymraeg fydd yn dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn nesa? Dyna oedd cwestiwn Huw Stephens i Sam Rhys o Landeilo, ac Elin Meredydd o Langatho nos Lun diwetha. Yn ogystal â'r cwestiwn hwnnw, gofynnodd Huw iddyn nhw pa fand fydd prif fand Maes B, sef y maes i bobl ifanc yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Dyma i chi flas ar y sgwrs..."
Post Prynhawn - Band pres
eisoes - already
band pres - brass band
enwebu - to nominate
hyfforddwr - instructor
breuddwydio - to dream
pencampwriaeth - championship
darn - a piece
oedran - age
rhestr - list
"R.Seiliog? Cofiwch yr enw - yn fa'ma wnaethoch chi ei glywed o gynta! Un band sydd eisoes wedi dod i'r amlwg ydy band pres Ysgol Gynradd Bontnewydd ger Caernarfon. Mae'n nhw wedi ennill yn Eisteddfod yr Urdd, ac wedi ennill cystadleuaeth i fandiau pres drwy Brydain i gyd. Ond fel wnaethon ni glywed ar Post Prynhawn, mae'r band wedi cael ei enwebu gan Four Bars Rest i gael eu galw'n fand newydd gorau yn y byd - ia yn y byd cofiwch. Aeth Aled Hughes draw i'r ysgol a chael gair efo hyfforddwr y band Dylan Williams. Yn bwysicach na hynny mi gafodd o sgwrs hefyd efo rhai o'r plant sy'n chwarae yn y band, Arwyn Edwards sy’n ddeg oed ac Ela Haf Williams. Pob lwc iddyn nhw ynde?"
