Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 17 Gorffennaf 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Iola Wyn - pwdin Pimms

mefus - strawberry

risait - recipe

mo'yn - eisiau

aroglu - to smell

cymysgwch (cymysgedd) - mixture

rhwydd - hawdd

sunsur - ginger

ar ei hyd - lengthwise

dylanwad - influence

bennu - gorffen

Oeddech chi'n dathlu perfformiad gwych Andy Murray yn Wimbledon wythnos diwetha? Mefus a siampen ydy'r ffordd draddodiadol o ddathlu yn y gystadleuaeth yma. Rwan, dydyn nhw ddim cweit mor grand â hynny yng Nghrymych, ond mae nhw'n dathlu efo Pimms yno, sy'n eitha posh ond tydi? Nid unrhyw Pimms cofiwch, ond pwdin Pimms gwych Winnie, y gogyddes o Grymych. Aeth Iola Wyn am dro bach i gegin Winnie i'w gweld yn paratoi'r pwdin arbennig yma, i weld be oedd y rysait ac wrth gwrs i gael sgwrs ...

Cofio - Hogia Llandegai



ddaru o daro - he hit

g'lana chwerthin(idiom) - laughing your head off

noson fawr - noson stormus

coluro - make up

roedd o'n gwisgo amdano - he was dressing up

sbio'n wirion - edrych yn wirion

chwibanwr - whistler

dynwared - to imitate

y digrifwch - the comedy

"Rhywsut fedra i ddim gweld Hogia Llandegai yn yfed Pimms. A phwy ydyn nhw, meddech chi? Wel, dyma i chi grwp oedd yn boblogaidd iawn yn y chwedegau, ac ar Cofio ddydd Sadwrn mi gaethon ni'r cyfle i glywed rhai o'u hanesion yn teithio ar hyd a lled Cymru i berfformio mewn cyngerddau. Ron a Now, dau aelod o Hogia Llandegai oedd yn dweud yr hanes..."

Daf a Caryl - Death Valley

Pegwn y Gogledd - North Pole

wedi eu gwahardd - had been expelled

tymheredd - temperature

arth wen - polar bear

paratoi'n drylwyr - to prepare thoroughly

profiad - experience

cynefin - home environment

dehongli a thrafod - to interpret and discuss

cyhydedd - equator

cynhadledd - conference

"...a dw i'n siwr bod y rhaglen yna wedi dod ag atgofion melys o'r Hogia i lawer o bobl . Dach chi'n mwynhau'r tywydd braf yma? Wyddoch chi mai y degfed o Orffennaf Mil Naw Un Tri oedd y diwrnod poethaf erioed yn hanes y byd, wel yn Death Valley, Nevada, yng Ngogledd America beth bynnag. Felly, can mlynedd wedi'r dyddiad hwnnw mi benderfynon ni ar raglen Daf a Caryl gael sgwrs efo athro sydd wedi bod yn y dosbarth poetha a'r oera yn y byd! Prifathro ysgol Springfields yn Wiltshire ydy Trystan Williams, a dyma fo yn dweud sut a pham digwyddodd hyn"

Taro'r Post - Leigh Halfpenny

disgybl dihymongar - a modest pupil

cydwybodol - conscientious

swil - shy

penderfynol - determined

gwobrwyo - to present awards

llygaid yn pefrio - his eyes were sparkling

llefain - crio

safon ucha - highest standard

crwt bach - bachgen bach

"Dyna i chi brofiad anhygoel i'r plant, ac mi ddylen ni fod yn falch mai Cymro oedd y tu ôl i'r cynllun. Ac mi fedrwn ni fod yn falch hefyd mai Cymry oedd yn benna gyfrifol am lwyddiant tîm rygbi'r Llewod draw yn Awstralia. Ac wrth gwrs Cymro, Leigh Halfpenny, enillodd wobr 'Chwaraewr y Gyfres'. Ddydd Llun mi glywon ni Marian Davies, athrawes oedd yn arfer dysgu Leigh yn Ysgol Penyrheol yng Ngorseinon, yn siarad am y seren ar Taro'r Post. Sut fachgen oedd o yn yr ysgol tybed?..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar y Marc - Ymateb i ddigwyddiadau FAW

Nesaf

Pwyso a mesur Llyfr y Flwyddyn 2013