Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Aled Hughes - Addurniadau Nadolig
addurniadau Nadolig - Christmas decorations
chwaeth - taste
traddodiadol - traditional
dychmygu - to imagine
yn mynd yn wirion - going beserk
cyfiawnhâd - justification
pefrio - sparkling
atgofion - memories
hen ferch - spinster
cyntedd - hallway
… dach chi wedi dechrau rhoi addurniadau Nadolig i fyny eto? Mi gafodd Aled Hughes flas go iawn ar y Nadolig pan aeth o i weld tŷ Cefin Roberts. Dan ni i gyd wedi gweld tai sydd yn llawn addurniadau Nadolig ar y tu allan, ond sioe arbennig ar y tu mewn sydd yn nhŷ Cefin. Mae pob twll a chornel o'r tŷ yn addurniadau - ond ddim eich trimmings arferol gewch chi yma, fel y gwelodd Aled...
Bore Cothi - Papua Gini Newydd
gwirfoddolwr - volunteer
cymunedau - communities
llwythi - tribes
cwffio 'mysg ei gilydd - fighting amongst themselves
ysu - to yearn
recordydd sain - tape recorder
ucheldiroedd - highlands
cynhyrchydd a chyfarwyddwr - producer and director
cenhadon - missionaries
breintiedig - privileged
...ac mi roedd o'n swnio'n 'Waw' hefyd yn doedd? Cefin Roberts yn fan'na, sydd wastad yn gwneud yn siwr bod y tŷ wedi ei arddurno'n llawn erbyn y cyntaf o Ragfyr! Bore Iau daeth dau ddyn ifanc o Landwrog ger Caernarfon, sef Amlyn Parry a Sion Aron, at Shan Cothi i sôn am eu trip diweddar i Papua Gini Newydd. Nid mynd yno fel twristiaid roedden nhw cofiwch, ond mynd yno i weithio efo'r bobl leol. Be yn union oedden nhw'n wneud yno? Dyma Amlyn i ddechrau...
Geraint Lloyd - Erin Maddocks
llosgfynydd - volcano
swnio'n ddelfrydol - sounds ideal
cymysgedd - mixture
croesawu - to welcome
ehangu - expand
gwahaniaethu - to differentiate
rhyfeddol - wondrous
trwchus - thick
meddalu - to melt
gweddill - the rest of
Wel, wel, wyth gant pum deg o ieithoedd ac mae na rai yn chael hi'n anodd derbyn bod dwy iaith yng Nghymru. Da iawn Amlyn am ddysgu'r iaith leol ynde? Nos Wener mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Erin Maddocks, merch o Lan Ffestiniog yng Ngwynedd sydd newydd symyd i fyw i Ogledd Siapan dros y gaeaf er mwyn cael gweithio a sgïo - mae’n swnio fel ei bod yn cael amser wrth ei bodd hyd at rwan...
