Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: Mawrth 10, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Rhaglen Dylan Jones - Everest

dringo - to climb

y fyddin - the army

gwireddu breuddwyd - to fulfill a dream

gwaith paratoi - preparatory work

aelod - member

datblygu - to develop

corff - body

hinsawdd - climate

diffyg - lack of

llwybr - path

...Dylan Jones yn sgwsrio efo Si Naylor o Gaernarfon sydd yn gweithio yn y fyddin, ac sydd am ddringo mynydd Everest eleni. Os dach chi isio gwybod pam mae o am wneud hynny, sut mae o am ei wneud ac efo pwy fydd o'n dringo, gwrandewch ar y clip yma...

Bore Cothi - Betsan Powys

cefnogwyr - supporters

pleidleisio - to vote

annog - to encourage

p'run sy'n fuddugol - which one is successful

darlledu - to broadcast

cawr - a giant

draenog mewn pridd - a hedgehog in the ground

atgofion - memories

ar y cyd - jointly

atgoffa - to remind

Si Naylor o Gaernarfon yn fan'na yn sôn am ei gynlluniau i ddringo Everest. Pob lwc iddo fo ynde? Dach chi wedi clywed sôn o'r blaen dw i'n siwr, ein bod ni eleni yn cofio'r can mlynedd sy ers i'r awdur T. Llew Jones gael ei eni. Mae gan Radio Cymru brosiect newydd i gofio am waith T Llew. Dyma Betsan Powys o'r BBC yn esbonio wrth Shan Cothi beth yn union fydd yn digwydd...

Pleidlais T Llew Jones

Rhaglen Dylan Jones - Streic y Glowyr

glowyr - miners

teimladau - feelings

rhaniadau - divisions

cwpla - gorffen

pwll - pit

cwmpo mas - falling out

cynhaliaeth - subsistance

llifo - flowing

cyfarwydd - familiar

ydy'r cof wedi pylu? - has the memory faded?

Shan Cothi oedd yn siarad efo Betsan Powys yn Nhy Tawe, Abertawe am brosiect i gofio T Llew Jones. Mae yna lawer yng Nghymru yn cofio digwyddiad arall eleni, sef ei bod hi'n drideg o flynyddoedd ers i Streic y Glowyr ddod i ben. Roedd hi'n adeg anodd iawn wrth gwrs i lawer o deuluodd a dydd Mawrth aeth Aled Scourfield i Gwm Gwendraeth i gael sgwrs efo dau oedd wedi cael eu heffeithio'n drwm iawn gan y streic, Idris a Noir Lloyd. Dyma Idris i ddechrau yn sôn am sut oedd pethau yn y gwaith ar ôl i bawb fynd yn ôl...

Cofio - J. S . Bach

pengaled - hardheaded

byr ei dymer - shortempered

ddim yn gallu diodde - couldn't stand

safon uchel - high standard

ymladdfa - a brawl

awdurdodau - authorities

synau - sounds

claddu - to bury

cyfansoddi - to compose

unawdau - solos

Idris a Noir Lloyd o Gwm Gwendraeth oedd rheina, yn cofio Streic y Glowyr. Dan ni'n mynd bellach yn ôl mewn hanes rwan a dysgu ychydig am fywyd Johan Sebastian Bach. Sgwrs o'r archif ydy hon. Cafodd hi ei chlywed gynta yn Nwy Fil a Phedwar. Alwyn Humphries oedd yn rhoi'r hanes mewn sgwrs efo Hywel Gwynfryn a Nia Roberts. Dach chi'n gwybod faint o blant oedd gan Bach? Reit, dyfalwch ac yna gwrandewch ar y clip yma i weld pa mor agos oeddech chi...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Effaith y teledu ar gemau Uwch Gynghrair Cymru

Nesaf