Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Geraint Lloyd - Tynnu rhaff
tynnu rhaff - tug of war
tynnu'r gelyn - tug of war (lit: pulling the enemy)
Pencampwriaeth y byd - World Championship
gweiddi arnyn nhw - shouting at them
annog - to encourage
cystadleuaeth - competition
poblogrwydd - popularity
hyfforddi - coaching
rhoi cynnig arni - to give it a go
fferm odro - milking farm
Nerys Edwards o Langyndeyrn Sir Gaerfyrddin oedd gwestai Geraint Lloyd nos Lun, ac roedd hi ar ei ffordd i Iwerddon gyda chriw tynnu rhaff Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddarog.
Mae tynnu rhaff yn cael ei alw'n 'tynnu'r gelyn' mewn rhai ardaloedd ac roedd sawl 'gelyn' gan y Clwb gan eu bod yn cystadlu ym Mhencampriaeth y Byd yr wythnos yma a Nerys sydd wedi bod yn hyffiorddi'r tîm.
Rhaglen Bore Cothi - Gwastraffu bwyd
gwastraffu bwyd - wasting food
parchu - to respect
gwerthfawrogi - to appreciate
para - to last
oergell - fridge
rhwyddach - easier
ddim yn gyfarwydd - not familiar
yn ddychmygol - imaginary
ein syfrdanu ni - astound us
tunnell - a ton
Gobeithio bod Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddarog wedi mwynhau y cystadlu.
Wythnos gwastraff bwyd oedd Eluned Davies Scott yn ei thrafod gyda Shân Cothi ar raglen Bore Cothi ddydd Llun.
Faint o fwyd dan ni'n ei wastraffu tybed? Dw i'n siwr bydd ateb Eluned yn dipyn o sioc i chi.
Rhaglen Post Cyntaf - Cofeb
copa - summit
cofeb - memorial
dadorchuddio - to unveil
ail ryfel byd - second world war
cynrychoili - to represent
wedi dirywio - had deteriorated
mewn cyflwr difrifol - in a terrible condition
cofeb lechen - a slate memorial
eitha dibrofiad - fairly inexperienced
yn y tywyllwch - in the darkness
Gwerth naw stadiwm Wembley o fwyd yn cael ei wastraffu - wel roedd hynny'n wir yn ffaith i'n syfrdanu on'd oedd?
Ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher Llyr Edwards oedd yn dilyn hanes seremoni arbennig ar gopa mynydd yr Arennig fawr yn ardal y Bala.
Roedd cofeb aebennnig yn mynd i gael ei dadorchuddio yn y seremoni a dyma Dilwyn Morgan, cynghorydd lleol, yn rhoi ychydig o'r hanes i ni.
Rhaglen Bore Cothi - Michelle Evans-Fecci
Dinbych-y-Pysgod - Tenby
pobi - to bake
traddodiadol - traditional
y ddwy bennod gynta - the first two episodes
Tylwyth teg - Fairies
sylwadau - comments
y babell - the tent
ar brydiau - at times
dipyn o bwysau - a lot of pressure
o flaen llaw - before hand
Hanes seremoni arbennig iawn yn fan'na i ddadorchuddio cofeb i'r Americanwyr gafodd eu lladd mewn damwain ar yr Arennig Fawr.
Ydy, mae hi'r adeg honno o'r flwyddyn eto - mae The Great British Bake Off yn ôl ar y teledu.
Mae Michelle Evans-Fecci o Ddinbych y Pysgod yn un sy'n cystadlu eleni, ac mi fuodd hi'n sgwrsio gyda Shân Cothi ar raglen Bore Cothi.
Mi eglurodd Michelle o le daeth y diddordeb mewn pobi yn y lle cynta.
Rhaglen Geraint Lloyd - Cader Idris
y ffasiwn beth - such a thing
chydig beth yn wahanol - a little bit different
bandiau pres - brass bands
y bwriad - the intention
cael ein noddi - being sponsored
ail-wneud y digwyddiad - to do the event again
yn gynharach heno - earlier tonight
ymysg - amongst
drinfa mwy graddol - a more gradual climb
golygfeydd - views
Pob lwc i Michelle on'de yn y gystadleuaeth..Ydych chi wedi bod ar ben Cader Idris erioed?
Iawn, ond faint ohonoch chi sydd wedi dringo Cader Idris er mwyn perfformio ar y copa?
Dyna wnaeth Band Abergynolwyn ac mi gafodd Geraint Lloyd air gyda un o aelodau'r band Elwyn Evans, i gael gwybod pam eu bod yn gwneud y ffasiwn beth.
Rhaglen Dafydd a Caryl - Lydia Williams
offerynnau pres - brass instruments
aelodau - members
Meddyliwch dringo mynydd gan gario offerynau pres! Chwarae teg i aelodau'r band on'de?
Ar raglen Dafydd a Caryl ar Radio Cymru 2, Lydia Williams o Gaernarfon oedd yn ateb y cwestiwn 'beth oedd y peth gorau oedd wedi digwydd iddi hi erioed'.
