Main content

Pigion i Ddysgwyr: 30 Hydref 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Nia - Dai Jones

plentyndod - childhood

anwiredd - untruth

cynhebrwng - angladd/funeral

cyfarwyddwr - director

ail ergyd ar yr haearn (idiom) - second Chance

yn allweddol - crucial

petai a phetasai - ifs and buts

certi llaeth - milk carts

aelwyd - hearth

diystyrru - to ignore

"...dathlu penblwydd arbennig iawn Dai Jones Llanilar. Roedd Dai yn saithdeg oed yr wythnos diwetha ac mi ddaeth i'r stiwdio i gael sgwrs fach efo Nia Roberts. Mae'n bosib iawn y byddwch chi'n dysgu un neu ddau o bethau newydd wrth wrando ar y clip yma. I ddechrau, cockney ydy Dai. Ia dyna chi, Dai Jones Cefn Gwlad yn dod o Lundain yn wreiddiol, wir yr. Hefyd mi wnewch chi ddysgu bod y fath beth i'w gael a 'gwyliau tatws'. Dyma i chi flas ar y sgwrs rhwng Dai a Nia... "

Taro'r Post - Atal dweud

atal dweud - stammer

golygydd - editor

llysgennad - ambassador

cyflwr - condition

cleifion - patients

llwyddo - to succeed

beirniadu - adjudicating

traddodi - delivering (a speech)

torfeydd - crowds

pwysau - pressure

"Dw i'n siwr bod Cymru i gyd yn gwybod bod Dai Jones yn ofn dwr, ar ôl ei weld yn panicio sawl gwaith ar y teledu. Ond ofn cathod hefyd? Anodd credu mai ffarmwr ydy o weithiau yntydy? Roedd hi'n Ddiwrnod Cenedlaethol Atal Dweud ddydd Mawrth diwetha, ac mi glywon ar Taro'r Post y diwrnod hwnnw rai o brofiadau dau sy'n diodde o'r cyflwr, y bardd John Griffith Jones ac Arwel Richards, llys-gennad i’r Gymdeithas Atal Dweud. Dyma John Griffiths Jones i ddechrau... "



Rhaglen Dei Tomos - Hel achau

hel achau - genealogy

coeden deuluol - family tree

cenhedlaeth - generation

murddun - ruin

tystiolaeth - evidence

darllengar - fond of reading

chwalu - to demolish

brau - brittle

parhad - continuance

yn gynhenid - ingrained

A gobeithio bod clywed profiadau positif John ac Arwel yn rhoi hyder i rai eraill sy'n diodde o atal dweud ynde? Rwan ta, sgynnoch chi ddiddordeb mewn hel achau o gwbl? Dw i'n nabod llawer o bobl sy wedi llwyddo i greu coeden deuluol sy'n mynd yn ôl rai cannoedd o flynyddoedd. Ond mae Wyn Jones o Dy’n Braich, Cwm Maesglasau ger Dinas Mawddwy yn medru mynd yn ôl mil o flynyddoedd efo hanes ei deulu o. A nid yr unig hynny ond mae'r teulu wedi bod yn ffarmio'r un darn o dir dros yr holl flynyddoedd hynny. Dyma Wyn a'i wraig Olwen yn sgwrsio efo Dei Tomos...



Rhaglen Dafydd a Caryl - Alexandra Roach

y we - the internet

cwrdd lan - to meet up

cwmpo mewn cariad - to fall in love

craig - rock

sbri - hwyl

gweddill - the rest

golygfeydd - scenes

haeddu - to deserve

amlygrwydd - prominence

clyweliad - audition

"Mil o flynyddoedd...dydy rhaglenni fel 'Who Do You Think You Are' ddim yn dod yn agos at hynny, nag ydyn? Hanes y canwr Paul Potts oedd yn cael sylw gynnon ni ar raglen Daf a Caryl ddydd Gwener. Bydd llawer iawn ohonoch chi yn ei gofio siwr o fod yn ennill Britiain's Got talent chwe blynedd yn ôl. Mae yna ffilm o'i fywyd ar fin gael ei rhyddhau, sy'n dangos pa mor enwog ydy Paul erbyn hyn. 'One Chance ydy enw'r ffilm a Chymraes, Alexandra Roach, sydd yn actio rhan gwraig Paul, Julie-Ann. Dyma hi'n rhoi dipyn o hanes y ffilm i ni..."

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cyfweliad arbennig gyda Jamie Roberts

Nesaf

Gwireddu Breuddwyd yn y Bernabeu