Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Bore Cothi - Gill a Gwen
Eleni mae Gill a Gwen, perchnogion Stiwdio Gwallt a Harddwch GGs ar Stryd Llyn, Caernarfon yn dathlu dau ddeg pum mlynedd ers dechrau busnes yn y dre.
Cafodd Shan Cothi sgwrs efo nhw am lwyddiant y busnes.
ers (y)cychwyn - from the beginning
cefnogi - supporting
bob oedran - every age
cylch o ffrindiau - circle of friends
yn dwli dod - really enjoy coming
yn rheolaidd- regularly
ar y we - on the web
datblygu - to develop
cadw lan - keeping up
creu - to create
Hwyrnos Georgia Ruth - Hannah Daniel
Yr actores Hannah Daniel oedd gwestai arbennig Georgia Ruth ar ei rhaglen nos Fawrth ac mi fuon nhw’n sgwrsio am Un Bore Mercher sydd newydd ddechrau ar S4C. Mae Hannah yn chwarae rhan Cerys Jones yn y ddrama boblogaidd.
poblogaidd - popular
deufis a hanner - two and a half months
yr un pryd - at the same time
y gyfres - the series
mae'n edrych fel'ny - it looks like that
dw i'n amau - I suspect
ffyddlon - faithful
anhygoel - incredible
atynnu - attract
awyddus - eager
Aled Hughes a Geordan Burress
Mae Geordan Burress sy'n dod o Cleveland Ohio ac sydd wedi dysgu Cymraeg dros y we. Mae hi'n rhugl erbyn hyn ac yr wythnos diwetha roedd hi yng Nghymru am y tro cynta.
dyma sy'n mynd i synnu - this is what's going to surprise
cerddoriaeth - music
tybed - I wonder
tanio dy ddiddordeb - sparked your interest
'chydig bach - a little bit
mi ddylen ni - we should
annog - to encourage
Dei Tomos ac Aran Jones
Mae'r cwmni Say Something in Welsh yn dathlu penblwydd yn 10 oed penwythnos yma. Aran Jones oedd un o sylfaenwyr y cwmni ac roedd o wedi dysgu Cymraeg ei hun. Dyma fo'n sôn am ei ymdrech i ddysgu'r iaith.
sylfaenwyr - founders
sawl ymdrech - many attempts
wedi methu'n druenus - failed dismally
dawn naturiol - natural talent
dwys - intense
ar ei orau glas - at its very best
dilyniant - progression
sbardunodd - inspired
dyhead - yearning
cynhyrchu - to produce
Geraint Lloyd a Sioned Foulkes
Mae Sioned Foulkes yn ceisio sefydlu côr newydd yn Sir y Fflint ac mae hi'n chwilio am bobl o bob oedran o’r gymuned i ymuno! Dyma hi'n sôn ychydig am y prosiect wrth Geraint Lloyd.arwain - to conduct
di-elw - not for profit
cynnwys - to include
creadigol - creative
dwyieithog - bilingual
unigolion - individuals
buddsoddi - to invest
ar derfyn - at the end
hunangynhaliol - self-sufficient
y wefr - the thrill
Hanner Call - Tudur Owen
Buodd Heddyr Gregory yn trafod menywod ym myd comedi ar y gyfres Hanner Call. Dyma glip o sgwrs gafodd hi gyda'r comedïwr Tudur Owen am y newid mae o wedi ei weld dros y blynyddoedd.
menywod - merched
mentro ar lwyfan - venturing on stage
eithriad - exception
yn raddol - gradually
ers talwm - in the past
doniol - funny
y rhagfarn - the prejudice
brawychus - frightening
rhwystredig - frustrating
rhwystrau - barriers
Bore Cothi - Roy Noble
Bu Shan Cothi yn holi Roy Noble am ei hoff aroglau!
aroglau - smells
ffwrn - oven
twymo gyda glo - heated with coal
colli tir - losing ground
stiw Gwyddelig - Irish stew
yn ddiweddar - lately
winwns - onions
neb yn becso - nobody worried
codi pwysau - putting pressure
