Main content

Cystadleuaeth yn Stadiwm y Mileniwm

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra roedd Gareth Bale yn cyflawni breuddwydion Real Madrid o ennill Cwpan Pencampwyr Ewrop am y degfed tro , roedd yna grŵp o gefnogwyr a chwaraewyr yn cyflawni eu breuddwydion eu hunain yn nes adref yr wythnos yma.

Cafodd tri deg o enillwyr cystadleuaeth a gafodd ei drefnu gan noddwyr pêl droed Cymru, cwmni Vauxhall, y fraint oedd chwarae a chael eu hyfforddi yn Stadiwm y Mileniwm, yng Nghaerdydd brynhawn Llun.

Enillodd pob un ohonynt yr hawl i gymryd rhan drwy ymateb i her a welwyd y rhai lwcus yn chwarae mewn gem ar faes y stadiwm rhwng dau dîm o dan reolaeth dau o gewri pêl droed rhyngwladol Cymru sef Iwan Roberts a Kevin Ratcliffe. Dilynwyd y gêm gyda sesiwn o sgwrs a holi rhwng y chwaraewyr a’r ddau seren ryngwladol.

Un o’r chwaraewyr ffodus a lwyddodd i ennill ei le yn y fenter yma oedd amddiffynwr tîm pêl droed Treffynnon, Dafydd Griffith. Cefais air gyda Dafydd ar ôl ei brofiad a dwedodd mai rhywbeth a allasai ond breuddwydio amdanom oedd chwarae yn y stadiwm, ond diolch i'r cyfle yma, daeth y freuddwyd yn wir a chafwyd profiad anhygoel.

Tebyg iawn mae'n debyg i'r profiad hwnnw a gafodd ei gyfleu yn y ffilm enwog, ‘Field of Dreams’, pan greuwyd maes fel fas ar gyfer gwireddu gobeithion a breuddwydion cefnogwyr y gêm yn Iowa yn yr Unol Daleithiau.

Er nad oedd yna’r awyrgylch a chaiff ei greu gan filoedd mewn gem, roedd yn wefr o gerdded allan i'r maes o'r twnnel, yn union fel mae rhai o beldroedwyr mwya’r byd wedi ei wneud, yn brofiad y bydd yn aros bythoedd yng nghof pob un o’r chwaraewyr.

Mae’r cynllun yma yn un o’r mentrau mae’r Gymdeithas Bel Droed yng Nghymru, trwy gyd weithrediad Vauxhall wedi ei greu i gydnabod eu partneriaeth gyda'r cefnogwyr.

Breuddwyd ennill Cwpan Ewrop i un Cymro o'r Eglwys Wen dros y penwythnos diwethaf, yn cael ei wireddu wrth sgorio gôl allweddol, a’r dyhead am gyflawni’r La Decima wedi ei gyflawni yn y Bernabeu.

Ond yng Nghaerdydd, gwireddwyd breuddwyd oes lawn mor gyffrous i griw o gefnogwyr y gêm yma yng Nghymru. Fel dywedodd Dafydd Griffith, tipyn o brofiad oedd cerdded allan i'r cae ble fydd galacticos Real Madrid ynghyd a Gareth Bale yn camu ‘mlaen ar gyfer gem fawr Super Cup UEFA ar y deuddegfed o Awst yn erbyn Sevilla.

Dim ond mewn breuddwyd y gellir meddwl am y fath beth , ond mae Cymdeithas Bel Droed Cymru wedi sicrhau y gall breuddwydion gael eu gwireddu a dod yn fyw - anhygoel!

Llongyfarchiadau iddynt i gyd ( a hefyd i Gareth Bale) .

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf