Main content

Podlediad i ddysgwyr: Geirfa 24 Rhagfyr 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Post Prynhawn - Arglwydd Wyn Roberts



newyddiadurwr - journalist

darlledwr - broadcaster

cynhyrchydd - producer

cyfraniad sylweddol - a substantial contribution

llwynog o wleidydd - a fox of a politician

cyfweliadau maith - lengthy interviews

cael ei ddyrchafu - promoted

Ysgrifennydd Gwladol - Sectretary of State

Y Blaid Geidwadol - The Conservative party

gweledigaeth - vision

"...y newyddion trist am yr Arglwydd Wyn Roberts, fuodd farw ar Ragfyr y trydydd ar ddeg. Y Barwn Roberts o Gonwy oedd ei deitl swyddogol a buodd o'n Aelod Seneddol dros Gonwy am ddau ddeg saith o flynyddoedd. Cafodd ei wneud yn Farwn ar ôl ymddeol o'r Senedd. Cyn mynd i'r Senedd buodd o'n gweithio fel newyddiadurwr efo'r Liverpool Daily Post cyn symud i weithio ym myd teledu. Ar Post Prynhawn ddydd Llun mi glywon ni gan Gwilym Owen oedd yn arfer gweithio efo fo ar raglen newyddion, a chael gwybod ychydig am y Barwn Roberts cyn iddo symud i'r byd gwleidyddol..."



Manylu - Prifathrawon



cyn-bennaeth - former headmaster

diprwyon - deputies

ystyried - to consider

straen ychwanegol - additional strain

gyrfa - career

cyflog - salary

cyfrifoldeb - responsibility

swmpus - substantial

addas - appropriate

rhewi - frozen

"...Y Barwn Roberts o Gonwy, a buodd nifer yn sôn yr wythnos diwetha am ei gefnogaeth fawr i'r iaith Gymraeg pan oedd o'n rhan o'r llywodraeth Doriaidd. Be fasai ganddo fo i'w ddweud tybed am y codiad cyflog o unarddeg y cant mae'r aelodau seneddol yn mynd i'w gael? Doedd cyn-bennaeth un o ysgolion De Cymru, Terry Williams, ddim yn meddwl llawer o'r syniad ond mi roedd o'n credu dylai prifathrawon gael mwy o arian. Dyma fo'n siarad efo Tomos Morgan ar 'Manylu'..."



Ifan Evans - Carol



Nadoligaidd - Christmasy

addurniadau - decorations

O Deuwch Ffyddloniaid - O Come all Ye Faithful

"Be am symud rwan i sôn am bethau Nadoligaidd. Ydy mae o bron yma... mae'r goeden i fyny, yr addurniadau yn eu lle, yr anrhegion wedi'u prynu - amser am garol bach dw i'n meddwl - 'O Deuwch Ffyddloniaid'?"

Geraint Lloyd - Twrci



cigydd - butcher

Hen-daid - great-grandfather

dipyn o glod - a bit of praise

fel y cyfryw(idiom) - so to speak

pluo - to pluck

trin yr adar - to dress the bird

dim llawn mor poblogaidd - not quite as popular

amrywiaeth - variety

tamaid o gig eidion - a piece of beef

cig oen - lamb

"Criw Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni oedd rheina. Mi roedden nhw allan yn canu carolau nos Lun a dyma nhw'n penderfynu ffonio rhaglen Ifan Efans a chanu carol yn arbennig iddo fo. Da ynde? Dan ni heb sôn am y twrci naddo? Mae pob mathau o dwrcwns i'w cael yn y siopau'r dyddiau ma yndoes? Twrci wedi ei stwffio yn barod, twrcwns organig, rhai mawr a rhai bach. Ond mae'n hawdd anghofio am y gwaith sydd rhaid ei wneud cyn bod y twrci yn barod i fynd ar silffoedd y siopau. Buodd y cigydd Owen Roberts o Gorwac, Amlwch yn dysgu Geraint Lloyd nos Lun am y broses hir o gael y twrci'n barod... "

Dafydd a Caryl - Sion Corn



rhestr - list

corrach - elf

yr argo fawr - goodness me!

allwedd hud - magic key

Carolau, twrci, wel dw i'n barod am y Nadolig rwan - ar wahân i un peth wrth gwrs, wel un dyn a dweud y gwir - Sion Corn! Dan ni wedi bod yn lwcus i gael y dyn ei hun ar raglen Dafydd a Caryl ac mae 'na nifer o blant yng Nghymru wedi cael galwad ffôn gan Santa o'r stiwdio. Dan ni rwan yn mynd i glywed dau frawd, Gwilym a Gethin. Pump oed ydy Gwilym , bach yn ifanc ella i ofyn i Sion Corn am laptop! Ond dyna wnaeth o, a rhywsut dw i ddim yn meddwl bod hynny ar restr ei rieni!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dyfodol Clwb Peldroed Dinas Caerdydd

Nesaf

Blwyddyn Newydd Dda !