Main content

Blog gan Paul Griffiths, awdur y gyfres ddrama gomedi, Becca Bingo

Newyddion

Ganwyd Becca Bingo, neu Becca Jones (wedi iddi brodi’r lwmp diog o ŵr sydd ganddi), ar yr 9fed o Hydref 1954. Cyfleus iawn, deud y gwir, gan ei bod hi’n dathlu ei phen-blwydd yn 60oed ym mhennod 4 o’r gyfres gyfredol, sy’n digwydd cael ei ddarlledu ar yr 9fed o Hydref eleni. Fe grëwyd y cymeriad ym mis Mawrth 2014, drwy ddulliau Trydarol, er bod posib olrhain ei llinach a’i hachau i sawl cenhedlaeth o fingo-garwyr o Fethesda i Bwllheli, a phob cwmwd o Ddyffryn Conwy.

Dyna sy’n braf imi, wrth adael iddi hi, a’i chyfeillion Neli, Siarlot a Shyrli, (heb sôn am Hilda, Mari a Harri Bus), siarad yn eu tafodiaith gwbl naturiol, neu “Welsh ni yn hytrach na Welsh niws”. Yn gwbl fwriadol, tydi’r cymeriadau na’r gyfres ddim yn perthyn i UN dref benodol, gan mai cyfuniad o acenion a nodweddion iaith y Gogledd sy’n cael ei adlewyrchu. Falle bod rhai yn siomedig nad oes mwy o rinweddau iaith y Cofi yn perthyn iddynt, ond wedyn byddai hynny wedi caethiwo’r cymeriadau i dref Caernarfon, a’m gorfodi innau i ymchwilio a dysgu iaith wahanol. A bod yn gwbl onest, mae’r cymeriadau wedi’u hysbrydoli’n fwy gan rinweddau a chymeriadau cofiadwy Dyffryn Ogwen, yn arbennig felly'r diweddar annwyl a gweithgar Eileen Griffiths o Rachub, sy’n perthyn yn agos iawn iawn i Neli, a’i chymeriad annwyl. Yn yr un modd, mae rhinweddau (gorau) Becca yn perthyn i Megan Burnell, un arall o griw diwyd a doniol Clwb Bingo Bethesda, y cefais i’r fraint o gael ymuno â nhw ar drip bingo misol i Benbedw, tua phymtheg mlynedd yn ôl, ac atgofion sydd wedi aros gyda mi, byth ers hynny! I Benmachno, Y Felinheli a Dolwyddelan mae gweddill o rinweddau (a straeon) y cymeriadau lliwgar yn perthyn, a nifer helaeth o’u hymadroddion yn codi’n naturiol o fy atgofion annwyl innau am fy rhieni.

Paul Griffiths â'r criw yn recordio Becca Bingo

Ateb yr angen oedd prif bwrpas y creu, a hynny am sawl rheswm. Yn gyntaf, am fod Betsan Powys yn awyddus i ehangu cynulleidfa BBC Radio Cymru. Roedd yr arolwg diweddar yn dangos yr angen am fwy o ‘amrywiaeth yn sŵn, natur a lleoliad rhaglenni’ a cheisio denu yn ôl ‘rai gwrandawyr sy’n troi at orsafoedd fel Radio 2, Heart a Real.’ Pan oeddwn i’n byw yn Y Felinheli a Bethesda, Radio Cymru oedd yn mynd â hi, o OcsiwNia ben bora i Jonsi ganol pnawn, a John ac Alun fin nos. Rhywle, rhywsut, fe gollwyd yr elfen agos-ato-chi gyfeillgar, gymdogol, gan droi’r orsaf yn fy marn i yn rhyw fath o ‘geto’ dosbarth Canol Cymreig, a barodd i minnau, hefyd, droi at orsafoedd eraill. Wrth ail ymweld â’r ardaloedd hynny yn ddiweddar, parhau mae’r cefnu ar y Gymraeg, a’r un rhesymau cwynfanus yn cael eu datgan am gynnwys ‘boring’, ‘lol gwirion’, ‘dim drama ond llên yn cael ei ddarllen’ ac ‘Welsh ê-lefal neu Welsh niws’, sydd yn eu dychryn, yn hytrach na’n cynnal, a’u haraf addysgu.

O’r cychwyn cyntaf, roeddwn i’n awyddus iawn bod y gyfres yn swnio fel cyfres ddrama. Cyfrwng y glust a’r dychymyg ydi’r radio, ac felly dylid apelio at y synhwyrau. Fel gyda dramâu ar Radio 4 neu’r Archers, maen nhw’n swnio fel dramâu, gyda dialog fyw, naturiol, rhwydd, yn hytrach na monolog neu bennod o nofel lenyddol yn cael ei ddarllen i feicroffon. Wrth recordio’r gyfres, am wythnos ym Mangor, yng nghwmni tîm o actorion doniol dawnus, dan arweiniad Ann Fôn a’r technegydd Pete, cawsom gyfle i weithio diwrnodiau 8 awr lawn, yn llwyfannu’r digwydd yn y stiwdio fechan, yn hytrach na sefyll o flaen meicroffon am gwta awr-a-hanner. Yn bersonol, dwi’n credu fod y naturioldeb gyda’r props pwrpasol, yn ychwanegu gymaint at sŵn unigryw’r gyfres, sy’n gwbl wahanol i’r purdeb, clir, a Chymraeg cywrain, eisteddfodol, sydd wedi bod mor nodweddiadol dros y blynyddoedd diwethaf. Peidiwch â’n ngham-ddallt i, MAE yna le i’r math yma o ‘ddrama’ neu lenyddiaeth, ond fyddai’n ofid mawr gen i feddwl bod cenhedlaeth newydd yn cael eu magu i ddisgwyl mai dyma yw drama radio, go iawn.

Cyfeiriad arall y buom yn arbrofi â hi oedd y gwefannau cymdeithasol, sydd bellach yn rheoli ein bywydau bob dydd. Roedd gwaith ymchwil Radio Cymru wedi dweud wrthyn nhw bod cyfresi a chymeriadau comedi’r gwasanaeth yn mynd a dod, heb ddim sylw, cynt na wedyn. Roedden nhw felly am weld cymeriadau comediol cryf oedd am gydio yn nychymyg y gynulleidfa, o’r cychwyn cyntaf. Yr arbrawf ddewisais i oedd i greu cyfrif trydar ‘Becca Bingo’, yn gwbl annibynnol o’r BBC, er mwyn rhoi cyfle imi ddod i adnabod y cymeriad, a gweld sut fyddai eraill yn ymateb iddi. Roedd angen iddi fod yn ddoniol, yn ddeifiol, yn fflyrt ac yn boen, yn boncyrs ond yn benna’n ffrind i bawb, a’i chonsyrn yn codi’n naturiol o’i hymateb i bynciau’r dydd. Diolch i bawb fu’n chwarae’r gêm, yn enwedig felly i Beti George, Shân Cothi, Aled Hall, Rhys Meirion, Elen Wyn Jones a Huw Marshall am fynd i hwyl pethe, ac i’r selogion fel Gary Gwallt, Bethan Russell, Mererid Williams, Delyth Vaughan, Ianto Lloyd, Rheon Jones a Jones o Gymru, am gynnal a bwydo’r comedi. Ers cychwyn y trydar ym mis Mawrth, cyn bod run sgript yn gyflawn, run gair wedi’i recordio na’i ddarlledu, a chyn bod sôn am gastio, roedd Becca eisoes yn fyw, a thros 450 yn ei dilyn. Wrth geisio crynhoi’r chwe mis o gefndir wrth yr actores Bethan Dwyfor, buan y sylweddolais mai cyfuniad o leisiau’r pum cymeriad oedd y ffrwd trydar. Llwyddais i gyfeirio a chynnwys sawl gogwydd o’r trydar yn y gyfres orffenedig, ac mae Becca yn parhau i siarad a llenwi’r ôl stori rhwng y penodau, a gobeithio rhwng y cyfresi hefyd.

Dwi ddigon call i wybod na fydd y gyfres yn apelio at bawb, ond rhowch gynnig arni, a rhowch gyfle i’ch hun gnesu at y cymeriadau. Os na allwch chi uniaethu neu gytuno gyda Becca a’r genod bingo, efallai y bydd Llywela yn apelio, neu’n atgyfnerthu eich barn neu’ch bwriad. Os da chi ddim yn hoffi’r gyfres yna mae’n amlwg nad chwi yw’r gynulleidfa darged. Rhowch resymau inni pam nad yw hi’n apelio, er mwyn i ninnau ddysgu. Yn yr un modd, os yw hi’n apelio, rhowch wybod, fel y gallwn weld posibiliadau’r dyfodol. Ond yn y cyfamser, yng ngeiriau’r cymeriadau, ‘rhowch ych tîn i lawr yn fanna, rhowch weirlas Welsh na on, a cymwch banad a ffag, dol, cyn mynd i bingo’. Diolch.

Paul Griffiths

Gwrandwch ar raglen Becca Bingo

Recordio Becca Bingo ym Mangor

Recordio Becca Bingo ym Mangor

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cartrefi Cymru: Gwlad Eben Fardd

Nesaf

Clwb Peldroed Wrecsam yn 150 oed