Main content

Pigion i Ddysgwyr - 03 Rhagfyr 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Drama - Y Blaned Las



awr yn ddiweddarach - an hour later

cerflun - statue

can mil o genedlaethau - 100,000 generations

gwallgofrwydd - madness

o bwys - of imprtance

ymenydd - brain

cerbyd - vehicle

deirgyn - a tear (crying)

tystiolaeth - evidence

bydysawd - universe

"...dw i'n mynd i sôn am ddrama am bobl yn teithio drwy amser ac yn gweld pethau rhyfedd iawn. Na, ddim sôn am Doctor Who ydw i ond am Y Blaned Las, drama gaeth ei chlywed ar Radio Cymru ddydd Sul diwetha. Mi gaeth y ddrama hon ei chlywed am y tro cynta ym Mil Naw Pum Naw, ac mae hi'n seiliedig ar nofel Islwyn Ffowc Elis 'Y Blaned Dirion'. Mae Ian Rowlands wedi newid dipyn ar y ddrama wreiddiol i'w moderneiddio a dyma i chi glip bach ohoni efo lleisiau'r actorion: Steffan Rhodri, Llinor ap Gwynedd, William Thomas, Rhodri Miles a Rhys Parry Williams..."



Dan yr Wyneb - AIDS



heintiau - infections

y byd cyhoeddus - the public sphere

hysbysebion erchyll - frightening adverts

marwolaeth - death

i'r un graddau - to same degree

meddyginiaeth - medication

ymgyrch - campaign

rhwystro - to prevent

ar eu gwyliadwriaeth - being vigilant

ar gyffuriau - on drugs

"Mi roedd ail ran y ddrama i'w chlywed nos Sul diwetha am ddeg munud i wyth. Os wnaethoch chi fwynhau'r clip yna, pam na wnewch chi wrando ar y ddrama ar y we drwy fynd i wefan Radio Cymru. Roedd y ddrama honna'n ceisio rhoi llun i ni o sut le basai'r byd yn y dyfodol pell. Tybed fydd y byd 'perffaith' hwnnw yn rhydd o'r heintiau ofnadwy fel AIDS, sydd yn difetha bywydau gymaint o bobl ar draws y byd. Roedd hi'n ddiwrnod ymwybyddiaeth AIDS ddydd Sul diwetha ac ar Dan yr Wyneb ddydd Llun buodd Dylan Iorweth yn holi Gwenda Griffiths o elusen ‘Body Positive’ a'r Dr Olwen Williams gan ofyn iddyn nhw ydy AIDS yn gymaint â hynny o broblem y dyddiau hyn?"



Cofio - Dr Hywel Ffiaidd



ffiaidd - obnoxious

camdreiglo - to mutate incorrectly

wedi ei seilio - based on

wedi drysu - confused

cyfleu - to convey

bwystfil - beast

gwirioneddau - truths

beirniadaethau - criticisms

dychanol - satirical

arch - coffin

"Ia, mae'n dda yntydy bod agwedd pobol wedi newid tuag at AIDS erbyn hyn. Roedd pobol yn arfer meddwl ei fod yn beth ffiaidd, ac yn rhoi amser caled i'r rhai oedd wedi eu heintio. Er fel y clywon ni yn y clip diwetha na, does yna ddim lle i ni anghofio heddiw 'ma pa mor ddifrifol ydy'r sefyllfa chwaith. O raglen Cofio daw y clip nesa. Rwan, does yna ddim llawer o bobol yn dewis galw eu hunain yn 'ffiaidd', ond dyna wnaeth yr actor Dyfed Thomas yn y saithdegau, wrth greu cymeriad o'r enw Dr Hywel Ffiaidd. Dyma Dyfed yn rhoi ychydig o hanes y doctor ffiaidd i John Hardy ddydd Sadwrn diwetha... "



Daf a Derfel - Paned Pum Munud



haeddu - to deserve

llwyfan - stage

cysylltiad - connection

sglefrio iâ - ice skating

Glannau Dyfrdwy - Deeside

gwisgoedd - costumes

llinell - line

hyrwyddo - to promote

cydweithwraig - co-worker (female)

hyblygrwydd - flexibillity

"Does yna ddim byd ffiaidd am raglen Daf a Caryl nac oes? Hyd yn oed pan dydy Caryl ddim yna a Derfel yn cymryd ei lle! Na, mae gynno ni eitemau neis, neis, fel fel y Paned Pum Munud, lle mae cyfle i un o wrandawyr y rhaglen gymryd pum munud o’r gwaith i gael sgwrs fach efo ni. Ddydd Mawrth Bronwen England oedd ar y rhaglen yn sgwrsio am sut y gwnaeth hi gyfarfod â'i gwr. Rywsut neu'i gilydd mae dawnsio polyn yn dod mewn i'r sgwrs, ond ddim mewn unrhyw ffordd ffiaidd cofiwch..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

The Auschwitz Goalkeeper

Nesaf

Marwolaeth Nelson Mandela