Mae cerddorion neu fandiau newydd, sy’n canu yn y Gymraeg neu’n Saesneg, yn cael eu gwahodd i wneud cais i fod yn rhan o gynllun newydd cyffrous - Gorwelion - i hybu talent cerddorol newydd yng Nghymru yn 2014.
Fe fydd artistiaid Gorwelion yn 2014 yn elwa o:
- gynllun arbennig o weithgareddau radio ar y BBC, fel sesiynau, a chyfle i gael ei chwarae ar raglenni’r dydd ar Radio Cymru a Radio Wales;
- cyswllt uniongyrchol gyda chynhyrchydd BBC sy’n goruchwylio’r cynllun;
- sesiwn recordio yn BBC Maida Vale;
- offer hyrwyddo gan gynnwys cynhyrchu fideo a lluniau proffesiynol;
- cynllun mentora arbennig a chyrsiau hyfforddi;
- cyfleoedd cerddorol cenedlaethol a rhyngwladol;
- cyfle i chwarae yn nigwyddiadau BBC Cymru drwy gydol y flwyddyn,
- enwebiadau trwy BBC Introducing i chwarae mewn digwyddiadau mawr ledled Prydain.
I ddarganfod sut i ddanfon eich cais ewch at www.bbc.co.uk/gorwelion
Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 31 Mawrth, 2014.
Fe fydd y 12 llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar 25 Ebrill, 2014 ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yng Ngŵyl Focus Wales, Wrecsam
