Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Cymry 1914 - 18 - Llythyr John Morgan Davies
amlen werdd - green envelope
maith - long
rhyfedd - strange
cyhuddo - to accuse
yn deimlad difrifol - an intense feeling
ei gosb e - his punishment
y gelyn - the enemy
gorchymyn - command
hyd heddi(w) - up to today
helynt - trouble
"...clip bach o raglen ola'r gyfres ‘Cymry 1914-1918' ac ychydig o hanes John Morgan Davies gan ei ferch Eiriona Metcalfe. Roedd John Morgan Davies yn un o'r rhai oedd yn ymladd yn y Rhyfel Fawr gan mlynedd yn ôl. Cyn brwydr Pashendale ym mis Gorffennaf 1917, cafodd pob milwr gan gynnwys John Morgan Davies gyfle i ysgrifennu llythyr adref. Ond mi gafodd John broblemau mawr achos ei fod wedi sgwennu'r llythyr yn Gymraeg. Dyma Eiriona'n dweud yr hanes...."
Aled Hughes - Persawr i gwn?
persawr i gwn - perfume for dogs
atalnod llawn - full stop
cam yn ól - a step back
dim o ddifri - not seriously
y canolbarth - mid Wales
enghraifft - example
gwynto'n gywir run peth - smells exactly the same
"Hanes John Morgan Davies yn fan'na yn gorfod mynd o flaen llys milwrol, neu Court Martial, am iddo fo sgwennu llythyr yn Gymraeg. Nawr te, dw i'n siwr bydd llawer ohonon ni'n prynu persawr yn anrheg Nadolig i rywun, ond faint ohonon ni fydd yn prynu persawr i gwn? Dyma i chi Dylan Davies o siop Cwtsh Cuts, yn Aberaeron yng Ngheredigion, siop sy'n torri cotiau cwn, yn sgwrsio efo Aled Hughes am y persawr arbennig hwn...."
Rhys Mwyn - Pen moel Keith Morris
pen moel - bald head
dim blewyn o wallt - not a hair on the head
ymfalchïo yn y ffaith - take pride in the fact
cribo ngwallt - combing my hair
degawdau - decades
cyntefig - primitive
awyr agored - open air
Dinbych y Pysgod - Tenby
yn yr elfennau - in the elements
gwadu'r ffaith - deny the fact
"Persawr i gwn, be nesa? Gwestai Rhys Mwyn ar ei raglen Nos Lun oedd y ffotograffydd Keith Morris. Soniodd Rhys Mwyn fod gan Rhodri o'r band Cerrig Melys ben moel yn union fel un Keith! Ond yn wahanol i lawer o ddynion mae Keith yn falch fod ganddo ben moel. Pam tybed? Dyma fo'n esbonio wrth Rhys..."
Bore Cothi - Mandy Watkins
cyfnod synhwyrus - a sensual period
arogl yn y cartref - scent in the home
llu o bethau - loads of things
cannwyll - candle
naws - essence
anaml - infrequent
eithriadol o brysur - exceptionally busy
uniaethu - empathise
addurniadau Nadolig - Christmas decorations
dylunio - to design
Wel mi fasai Keith wedi bod angen yr het 'na dros y penwythnos diwetha yn basai? Roedd hi'n oer iawn ym mhob ran o Gymru. Tywydd perffaith wrth gwrs i gael y ty'n barod am y Nadolig. Mae Mandy Watkins yn helpu pobl i cynllunio eu cartrefi. Sut mae hi'n teimlo am y Nadolig? Heledd Cynwal gafodd air efo hi...
Rhaglen Dei Tomos - Manon Steffan Ros
y golofn - the column
anghytuno - disagree
safbwyntiau gwleidyddol - political points of view
y beryg ydy - the danger is
llyfr emynau - hymnsheet
dilyn - to follow
yr un ochr - the same side
ymdopi - to cope
"Mae hi'n braf gweld yr addurniadau yn mynd i fyny yn tydy? Mae'n dangos bod y Nadolig a'r holl gyffro'n dod yn nes. Yn y clip nesa mae Manon Steffan Ros yn sôn am rai o'r pethau oedd yn ei phoeni wrth sgwennu ei cholofn wythnosol yn y cylchgrawn Golwg. Dei Tomos oedd yn gofyn iddi hi pa mor bwysig ydy rhoi sylw i farn pobl mae hi'n anhytuno â nhw. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."
Bore Cothi - Nadolig Patagonia
sylwi - to notice
cymaint o ffwdan - as much of a fuss
traddodiadau arbennig - special traditions
Noswyl Nadolig - Christmas Eve
y prif ddathliadau - the main celebrations
pryd o fwyd - a meal
Archentaidd - Argentinian
tymheredd - temperature
yn hytrach na - rather than
ar gyrion - in the vicinity
"Manon Steffan Ros yn fan'na yn dweud pa mor anodd ,ond pa mor bwysig hefyd ydy son am safbwyntiau gwleidyddol pobl eraill yn ei cholofn yn Golwg. Dydd Mercher mi gafodd Shan Cothi sgwrs efo Gwion Ellis Williams, sy'n dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond sydd ar hyn o bryd yn byw yn Nhrevelin ym Mhatagonia. Y cwestiwn amlwg iddo fo oedd, sut maen nhw'n dathlu'r Nadolig ym Mhatagonia?"
