Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Mai 12fed - Mai 19eg 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Aled Hughes - Irn Bru

gwahardd - to ban

wedi pechu - has upset (lit:sinned)

pryderon - concerns

yn ôl pob golwg - apparantly

barn - opinion

gwneud llanast - make a mess

llawn nwy - full of gas

wrth eich boddau - in your element

unigryw - unique

ymddangos - appear

Mae penderfyniad un o gyrsiau golff Donald Trump i wahardd Irn-Bru wedi pechu llawer o Albanwyr. Pryderon am liw oren y diod yn staenio'r carpedi oedd y rheswm dros wneud hynny, yn ôl pob golwg. Bore Mawrth mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo’r Albanwr Stuart Brown i glywed ei farn ar y mater ond doedd Stuart ddim yn hapus iawn efo Aled...

Bore Cothi - Dr Rhys Thomas

Yr Orsedd - The Order of the Bards

y fyddin - the army

Awdurdod Iechyd - Health Authority

perchen - to own

rhy wyllt - too wild

gormod o egni - too much energy

mo'yn - eisiau

cnoi'r celfi - biting the furniture

cymuned fach glos - a close knitted community

cyfeillion am oes - friends for life

Aled Hughes oedd hwnna yn cael gwers gan Albanwr ar sut i dweud 'Irn Bru'. Bore Mercher ar Bore Cothi cafodd Shan sgwrs gyda'r Dr. Rhys Thomas, fydd yn cael ei dderbyn i Orsedd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni. Meddyg ydy Rhys ond roedd o'n arfer bod yn y fyddin. Gofynnodd Shan iddo fo pam dewisodd o fynd i’r fyddin yn y lle cynta?

Post Cyntaf - Arwel Owen

gweddill - the rest of

sefyll ei arholiadau - sittinghis exams

TGAU - GCSE

cael ei gyflogi - is being employed

gofalwr - caretaker

fenga - ifanca

rhestrau diddiwedd - endless lists

archebu nwyddau - ordering goods

go helaeth - quite extensive

wedi malu - broken

... a bydd cyfle i chi weld Rhys a gweddill yr Orsedd yn Eisteddfod Gendlaethol Caerdydd yn ystod wythnos gynta Awst eleni. Llai na blwyddyn yn ôl roedd Arwel Owen yn sefyll ei arholiadau TGAU yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Ond ers mis bellach mae o'n cael ei gyflogi fel gofalwr yn yr ysgol er mai ond dwy ar bymtheg oed ydy o. Fo, yn ôl pob golwg, ydy'r gofalwr ysgol fenga yng Nghymru, os nad ym Mhrydain. Gethin Morris Williams, aeth i glywed mwy ar ran y Post Cyntaf.

Dwyn i Gof - Cofio Elis Gwyn

arwr - hero

yn holl bresennol - omnipresent

disgyblaeth go lem - quite strict discipline

cansen - cane

troseddau - misdemeanours

herio - to challenge

mwy o her - more of a challenge

ta waeth - anyway

dim mymryn o ots - couln't care less

fel tasech chi piau fo - as if you owned it

a phob lwc i Arwel yn ei swydd newydd ynde? Cafodd yr artist Elis Gwyn ei eni union ganrif yn ôl. Roedd yn frawd mawr i'r dramodydd Wil Sam ac ar y rhaglen Dwyn i Gof wythnos yma buodd y nofelydd Alun Jones yn cofio am yr adeg pan oedd Elis Gwyn yn athro arno fo yn yr Ysgol Uwchradd...

Dewi Llwyd - Rhys Patchell

maswr - outside half

rownd cynderfynol - semi final

Pencampwriaeth - Championship

cynnal ei bwysau - maintain his weight

eitha cyson - quite consistent

arferol - usual

clou - quick

becso - poeni

meithlon ac yn llanw - nutricious and filling

llyncu - to swallow

Dipyn bach o hanes yr artist Elis Gwyn fasai wedi bod yn gant oed eleni, ar y rhaglen Dwyn i Gof. Cafodd Rhys Patchell, maswr Cymru a’r Scarlets, wythnos i'w chofio yr wythnos diwetha. Nos Wener roedd yn rhan o dîm y Sgarlets enillodd gêm rownd cynderfynol Pencampwriaeth y Pro 14 yn erbyn Glasgow, ac roedd o hefyd yn dathlu ei benblwydd yn bump ar hugain oed. Fo oedd gwestai penblwydd rhaglen Dewi Llwyd, ac dyma fo'n sôn am y bwyd mae’n rhaid iddo fwyta er mwyn cynnal ei bwysau.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Man Utd v Chelsea