Main content

Cyfres deledu "Thank God For Football"

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Prynhawn Sadwrn yma fe fydd y darlleniad cyntaf o gyfres o chwe rhaglen ar wasanaeth UCB TV (sianel 585 ar Sky) am bump o’r gloch.

Thank God For Football ydi enw’r gyfres wedi ei selio ar y llyfr o’r un enw gan yr awdur Peter Lupson, sy’n olrhain hanes gwreiddiau Cristnogol rhai o dimau pêl droed mwyaf Lloegr..

Bydd y gyfres, nid yn unig ar deledu ym Mhrydain, ond hefyd yn cael ei ddarlledu yn fyd eang, gan gynnwys China, Japan a Fietnam . Mae cymaint o ddiddordeb wedi ei ddangos eisoes yn y rhaglenni yma fel y bu i Peter Lupson gynnal pedwar cyfweliad ar ddeg o fewn y pythefnos diwethaf, gyda nifer o wasanaethau darlledu radio lleol ar hyd a lled Prydain.

Ymddengys fod bron tua thraean o’r timau a geir yn Uwch Gynghrair Lloegr ar hyn o bryd yn ddyledus i'r eglwysi a’r capeli am eu bodolaeth yn yr Oes Fictoraidd. Ceir amlinelliad o’r datblygiadau yma yn y rhaglenni gyda storiâu am yr ysbrydoliaeth a gafwyd gan arweinwyr cymdeithas a chrefydd o fewn y cyfnod a roddodd enedigaeth i glybiau enwog ein hoes ni.

Mae deuddeng clwb yn cael eu cynnwys yn y gyfres, sef Aston Villa, Barnsley, Birmingham City, Bolton Wanderers, Everton, Fulham, Lerpwl, Manchester City, Queens Park Rangers, Southampton, Swindon Town a Tottenham Hotspurs.

Will Cuff oedd un o arloeswyr clwb Everton, ac mae yna gysylltiad Cymreig sydd eisoes wedi ei grybwyll gen i yn hyr erthyglau yma. Yn fras, mae gwreiddiau Cymreig Cuff yn gysylltiedig â Phwllheli gan mai merch o'r dre oedd ei fam, Mary Thomas. Aeth Mary fel llawer o ferched ifanc yr oes, i weinyddu yn Lerpwl a dod i gyfarfod a Henry Cuff ( Sais o Lundain yn wreiddiol) a oedd yn flaenllaw yn eglwys Sant Domingo yn ardal Everton o ddinas lerpwl. Aeth y tad a’r mab ati i hybu pêl droed fel dull o wella sefyllfa bywyd dynion ifanc yr ardal, gan sefydlu tîm ysgol Sul yr eglwys, a ddatblygodd i fod yn glwb Everton fel yr ydym yn ei adnabod heddiw.

Ond tydi’r cysylltiadau cynnar Cymreig yma ddim wedi eu cyfyngu i Lannau Merswy.

Draw yn Llundain, fel yn y gogledd, daeth yr eglwys i chware rhan allweddol yng ngwella sefyllfa bywyd pobol ifanc a dynion ifanc yn enwedig. Wrth weld y niwed oedd alcohol yn ei wneud i lawer, a’r bobol yn y trefi newydd yn byw mewn tlodi ac amodau cyfyng a gorlawn, aeth llawer o glerigwyr yr eglwys ati i wella safonau byw.

Yn Llundain roedd cenhadaeth eglwys Sant Andrew wedi sefydlu tîm pêl droed dros y gaeaf i ychwanegu at y tîm criced a oedd yn bodoli yn barod. Ond yn ynghanol yr 1880au, cyrhaeddodd un o brif fabolgampwyr Lloegr yr eglwys i weinyddu fel curad.

Roedd y Parchedig Peregrine Propert yn rhwyfwr enwog i dîm rhwyfo Prifysgol Caergrawnt, gwr o Dy Ddewi, Sir Benfro oedd Propert, a aeth i’r Coleg yng Nghaergrawnt i astudio i fod yn gyfreithiwr. Yno, cafodd dröedigaeth a phenderfynodd mai achub a gwella bywyd y tlawd a’r anghenus a fyddai'r alwad,

Felly dilynodd yr alwad gan gyrraedd ardal Fulham yng ngorllewin Llundain, a bu ei enwogrwydd yn y byd chwaraeon yn allwedd iddo ddenu dynion ifanc i'r eglwys, chware pêl droed dros dîm Sant Andrews a sicrhau tyfiant yn y nifer o selogion i'r eglwys.

Ffynnodd yr eglwys a'r tîm pêl droed nes i ni heddiw ei adnabod ef fel clwb Fulham sydd yn aelod o Uwch Gynghrair Lloegr y tymor yma. Cyfres felly a ddylai fod yn atyniadol i bob dilynwr o'r gêm belgron, ac os na chewch gyfle i weld y rhaglenni ar brynhawn Sadwrn, yna cewch gyfle i weld ail ddarllediadau ar nosweithiau Llun a Mawrth am hanner awr wedi saith.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Yr ŵyl yn dod i derfyn

Nesaf

Cyfweliad arbennig gyda Jamie Roberts